Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Fe allai y daw ef," ebe yntau. "Y mae dyn hefyd gerllaw y Bala, a elwir Jenkin Morgan, yn cadw yr ysgol rad dan y Parch. Griffith Jones, yr hwn sydd hefyd yn arfer cynghori yn ddeffrous a llwyddiannus iawn."

"A oes modd cael hwnw i'n plith, neu i'n gwlad ?" meddent hwythau.

"Tan aden eglwys Loegr y mae ef a'r ysgol," atebai Lewis Rees; "ond pe gallech gael rhyw ŵr cyfrifol yn eich ardal yn caru crefydd, heb gymeryd arno yr enw o ymneillduwr, fe allai y llwyddai hwnw gyda'r person i wneyd derbyniad o'r ysgol i'r llan."

Daeth yn fuan i feddyliau y cyfeillion hyn, mai William Pritchard, o Lasfryn-Fawr, oedd y cymhwysaf o bawb, a wyddent am dano, i gymeryd y gorchwyl mewn llaw. Y bore Llun canlynol, cymerodd y gŵr y crybwyllasom ei enw eisoes, sef Francis Evans, ei daith i'r Bala, a llwyddodd i gael yr ysgolfeistr gydag ef adref.

Am yr ysgolfeistr hwn, nid oes genym ond hanes prin. Ni a gawn mai gŵr o sir Gaerfyrddin ydoedd, wedi ei anfon gan y Parch. Griffith Jones i gadw ysgol rad gylchynol, yn ngwahanol barthau o'r dywysogaeth. Yr oedd Jenkin Morgans yn meddu llawer o gymhwysder, mewn ysbryd a medrusrwydd, i'r gwaith; yr oedd hefyd yn arfer cynghori o dŷ i dŷ lle y derbynid ef, gan rybuddio ei gyd—ddynion i ffoi rhag y llid a fydd. Dywedir mai un o feibion y daran oedd ef o ran ei ddull o bregethu, fel y rhan fwyaf o bregethwyr boreol y dyddiau hyny; a gŵr ydoedd a fu yn dra defnyddiol yn ei dymhor yn y parthau hyny o'r wlad y llafuriai ynddynt.

Rhoddir i ni hanes am un oedfa dra nodedig o'i eiddo ardal yn Bala; hanes na ddylem ei adael allan. "Un o'r odfaon mwyaf hynod a glywais am dani erioed, oedd hon," meddai yr hybarch John Evans o'r Bala. Ac fel hyn y rhed yr hanes:

"Yr oedd (fel y byddai yn fynych yn y wlad y pryd hyny) noswaith ganu gan ieuenctyd y gymydogaeth, yn ysgubor Ty'n-y-nant, gerllaw y Bala, yn cael ei chynal bob nos Sadwrn. Yr oedd yr ysgubor dan yr un tô a'r tŷ. Cafodd hen ŵr, un o'r ymneillduwyr, yn ddwys ar ei feddwl roi cais am genad i Jenkin Morgan ddyfod i'r tŷ, yn ymyl yr ysgubor, i bregethu; a hyny ar un o'r nosweithiau, ac ar yr un pryd, ag y byddai y bobl ieuainc yn yr ysgubor wrth eu dawns. Yn rhyw fodd, cenad a gafwyd; a myned a wnaeth Jenkin Morgan, a'r hen ymneillduwr gydag ef, at y tŷ. Daethant yno erbyn bod y bobl ieuainc wedi dyfod ynghyd. Aeth Jenkin i'r tŷ, a Duw Goruchaf gydag ef, ac a ddechreuodd ar ei orchwyl. Aethant hwythau, a'u telynwr, a'u plaid ynghyd (Satan a feddylir), at eu gorchwyl hwythau i'r ysgubor. Gan fod y tŷ a'r ysgubor mor gyfagos, yr oedd llais y naill blaid yn cyrhaedd y llall. Dechreuodd y bobl ieuainc, gyda mawr awch ac egni, ar eu dawns, gan feddwl boddi y sain, a llwyr orchfygu y gwaith, oedd yn y tŷ. Ond llaw yr Arglwydd a fu arnynt mewn ffordd ddirgelaidd, fel na chawsant na hwyl na thymher ar eu dawns, er eu holl ymgais a'u hymegniad. Yr oedd Jenkin erbyn hyn er ys tro wedi ymaflyd yn ei waith, ac yn cael ei gynorthwyo ynddo. Un o'r dawnswyr a giliodd oddiwrth ei gymdeithion at ddrws