Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y peth nesaf a wnaethant yn ei erbyn, oedd llwyddo gyda'i feistres tir i'w droi allan o Fodlew, galangauaf 1750. Safodd William Bulkeley, Ysw., o'r Bryn-du, o'i blaid y tro hwn; pryd yr ymddangosai yn dywyll iawn arno, ac anhawsder mawr iddo gael tyddyn i fyw ynddo, oblegid y rhagfarn cryf a chyffredinol a goleddid yn erbyn ei grefydd. Yn ei gyfyngder, aeth at y gŵr boneddig, i ofyn a gai ef dyddyn ganddo, yr hwn a ddeallai oedd ar osodiad.

"Pa beth yw yr achos (ebe Mr. Bulkeley) eu bod yn dy droi allan o'th dyddyn? Ai methu talu yr oeddit ?”

"Nage, nage (ebe yntau), ond o achos fy marn mewn pethau crefyddol; ac am fy mod yn ymneillduwr oddiwrth Eglwys Loegr."

"Onid oes rhywbeth heblaw hyny (ebe'r boneddwr) yn dy erbyn, cei ddigon o dir genyf fi.”

Felly hefyd y cafodd. Gosodwyd iddo Glwchdernog, a'r lleoedd oedd i'w ganlyn, mewn gweithred (lease), ac yno yr aeth William Pritchard i fyw ar ei ymadawiad o'r Fodlew Fawr. Parhaodd yn gyfeillgar â'i feistr tir tra y bu y boneddwr byw.

Yr oedd William Pritchard yn ŵr gwir grefyddol. Parhaodd yn aelod gyd a'r ymneillduwyr yn Mhwllheli dros amser maith. Ai yno unwaith yn y mis i'r cymundeb, tra y bu yn Mhenmynydd ac yn Bodlew. Wedi ymsefydlu yn Clwchdernog, neillduwyd tŷ ar y tir, lle y pregethai y rhai a ddeuent yn awr ac eilwaith i'r wlad. Yr oedd yn dra chyfeillgar gyda'r Methodistiaid dros ei oes. Cyflawnai, gyda diwydrwydd mawr, ei ddyledswyddau crefyddol yn ei deulu fore a hwyr, heb esgeuluso unwaith, gan nad pa drafferth a fyddai arno: am un mlynedd ar ddeg y bu gwas a dystiai hyn am dano, yn aros gydag ef. A mynych iawn y byddai ei ddagrau yn disgyn i'r llawr pan yr esgynai ei weddiau i'r nef. Yr oedd ei ymarweddiad yn addas i'w broffes, fel y parodd i'w gymydogion annuwiolaf addef ei gywirdeb. Bu farw yn orfoleddus, Mawrth 9fed, 1773, yn 71 mlwydd oed. Teilwng ydoedd y gŵr hwn, fel y tybia yr ysgrifenydd, o'r crybwylliad lled helaeth hwn yn hanes Methodistiaeth, gan iddo fod yn brif offeryn i ddwyn Methodistiaeth i Arfon a Mon, er y perthynai ef ei hun i enwad arall. Hoff oedd ganddo dduwiolion o bob enwad; ac eiddigeddai dros ledaeniad a phregethiad o'r gwirionedd megys y mae yn yr Iesu, yn mhob man, a chan bwy bynag.

Darllenwn i Mr. Rowlands ddyfod trosodd i Fon yn yr un daith ag y daeth gyntaf i sir Gaernarfon; ond yr oedd hyn dalm o amser ar ol i Harris fod yn Lleyn y tro cyntaf, yn y fl. 1741. Daeth Rowlands, a William Williams, Pant-y-celyn, yr hwn oedd yn cyd-deithio gydag ef y pryd hwnw, i Langefni, gan ddysgwyl cael pregethu yno. Ymgasglodd yno amryw o eglwyswyr ac wedi dadlu enyd ag ef am ei awdurdod i bregethu, addefasant ei fod wedi ei gwbl addasu i weinidogaethu yn ei wlad ei hun, eithr nid mewn un wlad arall; ond am William Williams, ni oddefid iddo ef prin ddywedyd gair, gan nad oedd wedi cael cyflawn urddau. Aeth rhyw nifer o gyfeillion gyda Mr. Rowlands o Leyn y tro hwn, neu o leiaf, i wrando arno