yn Llangefni, fel y dysgwylient, ond yn hyny cawsant eu siomi; ac wrth ddychwelyd adref, yr oedd torf o erlidwyr yn dysgwyl am danynt yn Llanaelhaiarn, a churasant hwy yn ddidrugaredd, fel pe buasent gwn cynddeiriog, nes oedd eu gwaed yn llifo, a rhai o honynt yn cwympo oddiar eu ceffylau, a chafodd y rhai oedd ar eu traed y cyffelyb driniaeth.
Mae hanes Methodistiaeth yn Mon, o'r cychwyniad trwy William Pritchard, Plas Penmynydd, a meibion Thomas Pritchard, o'r Tŷ Gwyn, hyd yr ymraniad yn y fl. 1751, yn gorwedd mewn llawer o dywyllwch ac ansicrwydd. Y mae yn lled ddilys nad oedd nifer y crefyddwyr ond ychydig; nad oedd y pregethu eto ond anaml iawn: a phan y deuai pregethwr drosodd o sir Gaernarfon, neu o'r Deheudir, nid oedd eto ond ychydig o leoedd yn yr holl ynys yn barod i'w dderbyn, a'r rhai hyny yn dai anedd. Eto, yr oedd ambell un yn cael ei chwanegu at nifer y dysgyblion yn wastadol dan weinidogaeth y rhai a ddeuent drosodd i'r wlad i bregethu. Y pregethwr cyntaf a fu yn cyfaneddu yn y wlad, yn ol dim a allaf gasglu, ydoedd un Richard Thomas. Yr oedd y gŵr hwn yn nechreu ei oes, ac yn nhymhor ei annuwioldeb, wedi rhedeg i ddyled; ac er mwyn gochel ei ofynwyr, ffôdd i'r Deheudir. Yn ngwlad ei ffoedigaeth, dygwyd ef i swn efengyl, yr hon a fendithiwyd iddo er ei droedigaeth. Yn y modd yma, fe fu ei ddyled yn achlysur ei ddychweliad at Dduw. Nid oes sicrwydd nad oedd ef yn bwriadu ond y drwg wrth ffoi o'i wlad, sef ysbeilio ei ofynwyr; ond Duw a'i bwriadodd er daioni. Wedi casglu ychydig arian, dychwelodd i'w hen wlad, a thalodd ei ddyled. Trwy hyn, efe a roddes brawf.o wirionedd ei ddychweliad, gan y parodrwydd a ddangosai i ddadwneyd yr hyn a wnaethai o'r blaen, i'r graddau yr oedd hyny ar ei law ef. Wedi dychwelyd i Fon, dechreuodd gynghori ei gyd-ddynion yn y pethau a berthynent i'w bywyd tragwyddol. Yr oedd cyfnewidiad mor fawr ynddo, ac arwyddion o'i onestrwydd mor amlwg, nes y tueddid ei gymydogion i wrando arno yn fwy diragfarn; a dywedir y bu ei weinidogaeth yn fendithiol i lawer.
Yn nesaf o ran amser at y gŵr hwn, y dywedir fod un Hugh Griffith, Llanddeiniol. Gŵr o Leyn, yn sir Gaernarfon, ydoedd hwn: oddiyno bu gorfod arno ffoi oddiar ffordd erlidigaeth. Yr oedd yn Lleyn y pryd hyny ddau ŵr eraill yn cyd-bregethu gyda Hugh Griffith, sef Hugh Thomas, a Morgan Griffith. Cafodd Hugh Griffith, ar ei ddyfodiad i Fon, loches yn nhŷ William Pritchard, Bodlew, yn mhlwyf Llanidan, yr hwn ei hun oedd ŵr o sir Gaernarfon, ac wedi ei yru o'i wlad, fel y soniasom o'r blaen, o herwydd ei grefydd. Daliwyd Hugh Griffith, pan yn Lleyn, i'w anfon yn sawdwr (soldier), gan ddyn awyddus i'r gorchwyl; ond yr oedd yn ddyn bywiog a chwimwth, a medrodd trwy ryw fodd ddianc o'u dwylaw; methodd ganddynt hwythau ei ddal, er iddynt wneyd cais teg at hyny, hyd golli eu hanadl ymron yn yr ymdrech. Gwladychodd y gŵr hwn yn ngwlad Mon, o hyn allan, hyd ddydd ei farwolaeth.
Gŵr arall a grybwyllir yn mysg y pregethwyr neu y cynghorwyr boreaf yn Mon ydyw un Evan Griffith, Chwaen Hen. Cyfrifid hwn yn llawn gymaint