ei ddylanwad a neb o'i frodyr; a dywed hen ŵr sydd eto yn fyw, ei fod ef yn ei gofio, ac mai hen ŵr â golwg sylweddol arno ydoedd, sobr iawn, a'i ddull o bregethu yn bwyllog a chymhwysiadol iawn. Yr oedd yn hen pan yr oedd ein hysbysydd yn fachgen. Ar y pryd y cyfeiria efe ato, yr Evan Griffith hwn a gyfrifid y pregethwr mwyaf yn mysg ei frodyr. Cydlafuriai ag ef, o leiaf am ryw dymhor, heblaw y rhai a enwyd eisoes, frodyr eraill, sef Richard Jones, Newbwrch, William Roberts, Amlwch, Owen Thomas, Richard Lewis, Mechell, Richard Hughes, tyddynwr, plwyf Coedana, a Richard Dafydd, gwŷdd, Gareg-lefn.
Nid oes dim hynod yn cael ei goffầu am yr un o'r gwŷr hyn, ond Owen Thomas, neu Owen Thomas Rowland, fel y gelwid ef fynychaf. Yr oedd y gŵr hwn yn nodedig yn ei ieuenctyd am ei annuwioldeb, a'i ddyhirwch. Blaenorai ar ei gymdeithion mewn pob ynfydrwydd ac oferedd. Fel yr oedd ei ddrygioni yn fawr, y bu ei argyhoeddiad yn ddwfn. Yr oedd y cyfnewidiad a wnaed arno yn amlwg i bawb, a'i dduwioldeb yn ol llaw mor nodedig ag y buasai ei wylltineb gynt. Galwyd y gŵr hwn, a rhyw nifer o rai eraill ag oeddynt yn caru crefydd, o flaen eu meistr tir, i Blas-Lleugwy, Mon, lle yr oedd amryw o eglwyswyr wedi dyfod ynghyd. Gofynwyd iddynt, pa un a wnaent, ai gadael crefydd, ai colli eu tyddynod? Atebodd y trueiniaid, mai colli eu trigfanau a ddewisent, yn hytrach na gwadu eu Harglwydd. Yr oedd un o honynt, sef Richard Hughes, Llainwen, yn bur dlawd. Methodd hwn ymatal, ond torodd allan i lefain yn mharlwr y gŵr boneddig, ac i neidio yn ei glocsiau, gan waeddi, "Yn wir, mae Duw yn anfeidrol dda i mi: gogoniant byth-diolch iddo: ennill tyddyn, a cholli teyrnas,—na wnaf byth!" Parodd yr olygfa syndod aruthrol i'r boneddwyr; eto, eu troi allan o'u tyddynod a wnaed. Nid oedd yr un o'r cynghorwyr boreu hyn wedi cael dim manteision gwybodaeth a dysg; ac yr oedd Owen Thomas yn fwy diaddurn ei ymadroddion na'r cyffredin. Gof ydoedd wrth ei grefft, ac yn mysg cymdeithion gerwin eu harferion y dygasid ef i fyny. Ni ellid dysgwyl llawer o goethder diwylliedig oddiwrth y fath un. Eto, fe fu yn ddefnyddiol iawn yn ei wlad yn nechre y diwygiad. Yr oedd ei weinidogaeth ddiaddurn a dirodres yn gymhwys i gyfarfod ag ansawdd tywyll ac isel ei wrandawyr. Pregethai yn agos at eu deall, a dynoethai eu hen arferion a champau ynfyd yn eu herchylldra, fel un adnabyddus iawn o honynt, ac fel un ag oedd, bellach, yn eu gwir ffieiddio.
Nid oedd y boneddwyr yn ennill dim wrth droi y trueiniaid hyn allan o'u tyddynod; yn hytrach, yr oedd y marwor tanllyd yn cael eu gwasgaru draw ac yma; ac yn mhob man y gwasgerid hwy, gan faint o dân Duw oedd ynddynt, gwresogent a goddeithient yn y fan lle byddent. Yn yr amgylchiad o ymadael â'i dyddyn, canai Richard Hughes, gan gario cist ar ei gefn i fynydd Bodafon,
Ymado wnaf â'r babell,
'Rwy'n trigo ynddi yn awr, &c.
Yn fuan wedi hyn, cafodd le i fyw yn mynydd Bodafon, o'r enw Llain-