Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wen, yr hwn a ddaeth yn fuan yn lle i bregethu ynddo, ac yn gartref i eglwys Crist. Bu y lle hwn am flynyddoedd yn daith sabbothol, gyda Chae-maesgafr, a'r Gell, yn mhlwyf Llanallgo. Dewisodd un o'r rhai a wysiwyd o flaen yr ynad i Blas-Lleugwy, sef John Rowland, Glan-y-traeth, ymadael â'i grefydd ond nid mawr a fu ei ennill; canys y mae yn ffaith ddiymwad, pa gyfrif bynag a roddir am hyny, fod y tri wŷr a lynasant wrth yr Arglwydd yn yr adeg hóno, wedi llwyddo yn y byd hwn, hwy a'u hiliogaeth ar eu hol, yn llawer mwy na'r un a droes ei gefn ar grefydd, gan garu y byd presenol.

Ymddengys fod Siôn Rowland o'r Hafod, Llangwyllog, yn un o'r proffeswyr boreuaf yn Mon; o leiaf, yr oedd yn un o'r tô cyntaf o broffeswyr y wlad hóno. Bu farw y gŵr hwn yn y fl. 1815, yn 95 mlwydd oed; felly ganwyd ef yn y fl. 1720, un mlynedd ar bymtheg cyn i Harris a Rowlands dori allan. Yr oedd y gŵr hwn yn 30 mlwydd oed pan yr ymunodd â'r ychydig grefyddwyr ag oedd eisoes yn y parth hyny o'r wlad lle yr oedd ef yn byw ynddo. Daeth felly at grefydd tua'r amser y bu yr ymraniad rhwng Harris a Rowlands. Yr oedd ef yn byw ar y pryd yn Llanfair-fach, yn agos i Newbwrch. Yr oedd ambell bregeth yn cael ei phregethu y pryd hyny mewn tŷ yn agos i'w gartref; ond ni fyddai Siôn Rolant ar y dechre yn "gofalu am ddim o'r pethau hyn," oddieithr mewn ffordd o ddiystyrwch perffaith ar y bobl a elwid y "penau cryniaid." Yr oedd gan ei fam, pa fodd bynag, feddwl tynerach am danynt; ac ebe hi ryw ddiwrnod wrth Siôn, yr hwn oedd, bellach, newydd briodi, "Tyred i wrando y pregethwr heno, fy machgen". Yntau a'i wraig a ddaethant i'r odfa; a phan oeddynt ar orddrws y tŷ y pregethid ynddo, clywent y pregethwr yn rhoddi allan y pennill hwn :

"O dewch i'r ardd i weled Crist,
O'i ben i'w draed yn chwysu'n drist;
A'i waed yn llifo hyd y llawr,
A'i enaid mewn gorthrymder mawr."

Bendithiwyd y penill i John Rowlands: disgynodd y geiriau ar ei feddwl gyda grym anarferol: "nid oedd (medd yr hanes) yn teimlo ei wallt ar ei ben." Ei wraig hefyd a wnaed yn gyfranog o'r un cyfnewidiad calon ag yntau. Mor ddwfn oedd eu hargyhoeddiad, ac mor ofnadwy yr edrychent ar eu cyflwr, nes oeddynt ar ol dychwelyd adref yn dymuno bod yn rhyw greaduriaid, yn lle bod yn ddynion euog. Yn mhen rhyw amser, cafodd ef a'i wraig nerth i orchfygu gyda Duw; ac yn lle "gofidiau uffern," cawsant brawf o'r "tangnefedd ag sydd uwchlaw pob deall;" ac ymroddasant, bellach, i ddylyn Mab Duw trwy bob anhawsder, hyd ddiwedd eu hoes.

Yr oedd Siôn Rolant yn arfer bod yn gryn ffrind â'i feistres tir; ond yn y fan yr ymunodd ef â'r penau cryniaid, syrthiodd allan o'i ffafr; a phan y cafodd achles trwy iddo dderbyn pregethwr i'w dŷ, cafodd rybudd i ymadael â'i dyddyn. Ac nid oedd arbed i fod arno, gan ei fod yn grefyddwr. I ffordd y cafodd ef fyned. Ond gofalodd Duw am dano, er hyny; a chyn hir, cymerodd dyddyn arall, o'r enw Cerig-llithir, yn mhlwyf Penrhos, Lleugwy; a chafodd ysgrif-ymrwymiad (lease) arno am 21 mlynedd. Derbyniodd