Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bregethu i'w dŷ eilwaith, gan nad oedd yr un addoldy yn yr ardal, nac hyd yn hyn, yn yr holl wlad. Ymddengys fod Cerig-llithir wedi bod yn lloches. i Fethodistiaeth am flynyddoedd. Byddai Rowlands o Langeitho, Lloyd o Gaio, y ddau Williams, Dafydd Morris, Jones o Langan, ac eraill, yn arfer dyfod i bregethu, ac i gadw cyfarfod eglwysig ar ol y bregeth i Gerig-llithir.

Yr oedd Dafydd Morris yno ar un achlysur, a chydag ef yr oedd John Evans, henaf, o Gilcwm. Ar ol darfod yr odfa ryw noswaith, yr oedd John Evans yn dra isel ei feddwl, ac yn eistedd gyda Dafydd Morris, a Siôn Rolant, yn un pen i'r ystafell: ar yr un amser yr oedd yno gynifer o ferched yn y pen arall yn canu y penill canlynol,

Wrth weled mor saled fy mywyd,
Meddyliais mai ofer fy ngwaith;
Bwriedais i beidio'th glodfori,
Nes myned o'r d'rysni maith, maith.

Pan welwyf dy wyneb yn tywynu,
Mae yn rhaid i mi ganu bob dydd ;
O garchar, a meddiant gelynion,
Daeth fy enaid yn union yn rhydd.

Aeth John Evans atynt, ac ymunodd gyda hwy yn y gân. Yn mhen enyd, torodd eu canu yn orfoledd mawr; yna dywedodd Dafydd Morris wrth Siôn Rolant, "Dyna Jack o'r rhwyd;" a gwir oedd hyny, gan y derbyniodd gymaint o'r mwynhad a neb oedd yn y lle.

Ymddyddanai y Parch. William Roberts, Amlwch, er ys tua 35 mlwydd yn ol, â hen ŵr 90 mlwydd oed, o'r enw Robert Williams y gof. Dywedai yr hen ŵr hwn wrtho, ei fod yn cofio pan oedd ef tua 15 mlwydd oed (sef tua'r flwyddyn 1740), gŵr o'r enw Risiart William Dafydd yn pregethu. Safai y pregethwr i fyny wrth Groes Arthur, yn mhlwyf Mechell; ond ni chafodd nemawr lonyddwch. Ymgasglodd llu o erlidwyr i'r lle, a'r llencyn Robert Williams, yr hwn a fynegai yr hanes, yn eu mysg. Rhuthrasant ar y pregethwr, fel pe gwnaethasai ryw anferth o ddrwg iddynt, gan ei faeddu yn ddidrugaredd. Gwnaeth y gŵr dyeithr gais ar ddianc allan o'u dwylaw, ac i ffoi ymaith; hwythau a erlidiasant ar ei ol; a phan welodd efe na allai eu gadael trwy gyflymdra, neidiodd i ffos ddofn o ddwfr, gan ymguddio dan gysgod eithinen a orchuddiai y ffos. Daethant arno ef yno, gan ei faeddu fel y gwneid â chi cynddeiriog. Yn y cyfamser, daeth amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth i'r lle; ac wedi deall eu hamcan, a chanfod y driniaeth a gai y truan yn y ffos, efe a droes at yr erlidwyr, ac a ymliwiodd â hwy, gan ofyn iddynt, pa reswm oedd iddynt drin dyn dyeithr, na wnaethai ddrwg erioed i un o honynt, mewn modd mor greulawn a diarbed. Yna safodd rhyngddynt a'r pregethwr, ac achubodd ef o'u dwylaw. Nid ydym yn deall fod yr amaethwr yn ŵr crefyddol, ond fod ganddo deimladau tyner at gydgreadur a faeddid mor ddiachos a diarbed. Yr oedd yn byw yn Tŷ-Mawr, Llanrhuddlad.

Bu yr amaethwr farw, ac ar ddydd ei gladdedigaeth, disgynodd ehedydd gwyn ar un o gyrn yr elor lle y gorphwysai y corff arno. Yr oedd yr am