Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cytunwyd, Fod Richard Tibbot i fod yn ymwelwr cyffredinol y dosbarthiadau (bands)."[1]

Ymddengys i mi nad oedd ef y pryd hwn yn arfer pregethu, ond ei fod yn awr wedi ymuno â'r Methodistiaid. Paham y bu y bwlch hwn yn ei weinidogaeth, a phaham yr ymadawodd â'r Annibynwyr ar y pryd, nid oes genym ond dyfalu. Pan yn Llanbrynmair, cyn gadael ei gartref, gallwn feddwl mai ychydig oedd y cyfleusderau pregethu yn ei ardal enedigol, ac mai yn awr ac eilwaith y rhoddid iddo le i arfer ei ddawn. Pan aeth i Landdowror drachefn, ond odid nad oedd yno un drws agored iddo bregethu gyda neb. Y pryd hwn fe gafodd gyfleusdra i wrando y dyn hynod hwnw, Griffith Jones, a diamheu fod parch anarferol iddo wedi ei enyn yn meddwl Tibbot ieuanc. Dywed ei fywgraffydd, fod Tibbot yn barnu "mai Mr. Jones oedd y dyn duwiolaf a adwaenasai erioed."

Y peth nesaf y cyfarfyddwn ag ef yn ei hanes, ydyw penderfyniad arall a wnaed yn ei gylch mewn cymdeithasfa fisol a gynaliwyd yn mhen mis ar ol cymdeithasfa Watford, yn nhŷ Jeffrey Dafydd, Llanddeusant, sir Gaerfyrddin; pryd y "Cytunwyd,—Fod i'r brawd Richard Tibbot gadw ysgol yn sir Benfro.")."[1] Cadarnhawyd y penderfyniad hwn drachefn mewn cymdeithasfa gyffredinol a gynaliwyd yn mhen ychydig wythnosau yn ddiweddarach.

Mewn cyfarfod arall a gynaliwyd yn sir Benfro, penderfynwyd, "Ar fod i'r brawd Richard Tibbot weithio hyd nes y gallai gael ysgol Gymraeg." Cynaliwyd hon yn Longhouse, sir Benfro, Mehefin 8, 1743. Mewn cymdeithasfa yn Nhrefeca, yn niwedd yr un mis, ni a gawn ei enw yn mhlith y cynghorwyr cyhoeddus, ac yntau yn bresenol yn y gymdeithasfa. A'r hanes cyntaf ar ol hyn ydyw, ei fod yn ei wlad enedigol, ac wedi ei osod yn arolygwr ar y cymdeithasau eglwysig bychain ag oeddynt wedi eu ffurfio mewn rhai manau. Yr oedd hyn yn y fl. 1743. Erbyn hyn, yr oedd nifer o gynulliadau bychain wedi eu casglu at eu gilydd, mewn amrywiol ardaloedd yn sir Drefaldwyn, sef yn Tyddyn, Llanbrynmair, Llanfair, Llanllugan, Mochdre, Llandinam, a Llangurig. Yr oedd yr eglwysi hyn dan arolygiaeth cymdeithasfa y Deheubarth, flynyddoedd lawer cyn ffurfio un gymdeithasfa yn y Gogledd. Cawn enw Richard Tibbot yn mhlith y Methodistiaid yn gyson yn eu cyfarfodydd, tra y mae yr hanes yn cyrhaedd, sef hyd y fl. 1745. Mewn cwrdd misol yn Nantmel, sir Faesyfed, Ebrill 18, 1744, passiwyd penderfyniad fel hyn, "Fod i'r brawd Richard Tibbot ymroddi yn hollol ac yn gwbl i'r gwaith o ymweled â'r holl eglwysi (yn sir Drefaldwyn) unwaith bob wythnos." Ond yn yr Hydref canlynol, mewn cymdeithasfa arall, cawn benderfyniad gwahanol perthynol iddo, sef, "Fod y brawd Richard Tibbot i fyned at y brawd John Richard i ddysgu y grefft o rwymo llyfrau."

Buasai yn dda genym yn y fan yma gael gofyn ychydig gwestiynau, pe buasai rhywun ar gael i'w hateb. Ond gan fod cant a chwech o flynyddoedd

  1. 1.0 1.1 Trefeca Minutes.