wedi treiglo heibio, y mae yn rhy anhawdd i ni gael dim boddlonrwydd trwyadl am yr amgylchiadau a barai y cyfnewidiadau uchod. Deallwn, modd bynag, fod y brawd John Richard, y gŵr yr aeth Richard Tibbot ato, yn arolygu dosbarth o wlad yn cynwys rhan o sir Gaerfyrddin, a rhan o sir Forganwg. Pa hyd y bu ef yno, nis gwyddom; ond dyfalu yr ydym iddo ddychwelyd yn ol yn y fl. 1745, a pharhau am ryw gymaint i arolygu yr eglwysi yn sir Drefaldwyn, hyd nes y galwyd arno, fel yr amlhaodd yr eglwysi yn y Gogledd, i gymeryd arolygiaeth siroedd eraill hefyd.
Fe dreuliodd Richard Tibbot y pum mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes weinidogaethol gyda'r Methodistiaid. Wedi i'r diwygiad ymeangu yn siroedd y Gogledd, penodwyd arno i arolygu yr holl gymdeithasau a berthynent i'r cyfundeb yn siroedd Meirion, Arfon, Dinbych, a Threfaldwyn. Ymwelai â phob un o honynt unwaith bob tri mis, a dygid pob mater o bwys ato ef i'w benderfynu. Yr oedd yr adeg yma yn adeg derfysglyd iawn ar grefyddwyr Gwynedd-adeg y gosodid y pregethwyr teithiol yn agored i bob math o anghysur, blinder, ac enbydrwydd. Gan y gelwid ar Richard Tibbot, o ran ei swydd, i arolygu yr eglwysi yn y siroedd uchod, rhaid ei fod yn cyfarfod â'i ran o erlidigaeth. Unwaith, pan yn pregethu yn sir Gaernarfon, daeth gwas rhyw ŵr boneddig ato, ac a'i curodd â ffon yn erchyll'; a chan rym y ffonnodiau ar ei dalcen, efe a syrthiodd i lawr mewn llewyg, ac yn y canlyniad, efe a fu glaf iawn am gryn amser. Yn yr un sir dro arall, cafodd ei ddal, a'i ddwyn gerbron hedd-ynad. Gan y boneddwr hwn drachefn fe'i triniwyd fel crwydryn (vagabond), ac anfonwyd ef tua thref, o'r naill gwnstabl i'r llall. Wrth ddyfod trwy Ddolgellau, rhoddwyd ef i letya yn y carchar. Ond yn ngwyneb hyn oll, a llawer mwy, fe ymddygai yn bwyllog a thawel.
Pan gymerodd ymraniad le rhwng Harris a Rowlands, yn y fl. 1751, fel y cawn grybwyll yn mlaen, teimlai Tibbot yn ddwys iawn. Yr oedd wedi cydlafurio â hwy er's blynyddau, bellach: wedi mwynhau llawer o'u cwmni a'u doniau, yn ddirgel a chyhoedd. Yr oedd ef ei hun hefyd yn nodedig am ei ysbryd hynaws, rhydd, a diragfarn, nes oedd ei feddwl yn cael ei lethu gan dristwch, wrth weled yr enwogion hyn yn methu cydweled a chydweithredu â'u gilydd. Fe fu am ryw dymhor fel gŵr yn sefyll yn syn, heb wybod ar ba law i droi. O'r diwedd, cafodd lwyr foddlonrwydd i'w feddwl ei hun pa beth a ddylasai ei wneyd; ac ysgrifenodd at Mr. Harris, gan osod i lawr, mewn dull gostyngedig, ei resymau dros ei ymneillduad oddiwrtho ef a'i blaid. Ar hyn, fe ymunodd â Mr. Rowlands a'i gydlafurwyr, ac a barhaodd i lafurio yn y cyfundeb hyd y fl. 1762. Yn y flwyddyn hon, yr oedd eglwys Annibynol Llanbrynmair yn amddifad o weinidog, oblegid symudasai y Parch. Lewis Rees i sir Forganwg; a bu yr eglwys yno yn daer am i Richard Tibbot gymeryd ei le. Hyn a wnaeth; ond parhaodd i ddal cymundeb â'i frodyr y Methodistiaid, fel o'r blaen, can belled ag y goddefai amgylchiadau. Deuai yn gyson i'w cymdeithasfaoedd; pregethai yn ddiwahaniaeth yn nghapelau y ddau enwad; a derbyniai bregethwyr y ddau enwad fel eu gilydd i'w dŷ. Y cyfryw oedd Richard Tibbot.