Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae enw y gŵr hwn yn haeddu ei gofrestru i oesoedd dyfodol, oblegid iddo fod yn llafurus a ffyddlawn i amaethu y diwygiad yn Nghymru, mewn amser na cheid ond ychydig a wnai,-amser nad oedd ond y gwarth a'r blinder yn perthyn iddo yn allanol. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn Ngwynedd a gysegrodd ei amser a'i alluoedd i rwyddhau ei fynediad yn mlaen. Carodd Richard Tibbot yr achos er ei fwyn ei hun. Yr oedd y cariad hwn yn mhell uwchlaw cariad at un blaid; a dangosodd y gŵr da yma ei fod felly dan amgylchiadau tra hynod. Er y gallem feddwl iddo gael ei fagu gyda'r Annibynwyr, eto wele Tibbot yn ymuno gyda'r Methodistiaid, ac yn llafurio yn ffyddlawn a heddychlawn yn eu plith am chwarter canrif. Ond er iddo dreulio bore ei oes gyda hwy, ni chrintachwyd ei feddwl eang ef at ei hen frodyr, trwy flynyddoedd o ddyeithrwch cydmhariaethol. Ac er iddo wasanaethu eglwys gynulleidfaol Llanbrynmair am bymtheg mlynedd ar hugain, ni chyfyngodd ei lafur i'r eglwys hóno, ond efe a gadwodd gymundeb difwlch â'i hen frodyr y Methodistiaid ar yr un pryd. Y gwir ydoedd, yr oedd Richard Tibbot yn caru hanfodion crefydd yn annhraethol fwy na phethau priodol plaid. Dywedir am dano nad oedd neb yn fwy cadarn ac anhyblyg nag ef yn mhethau pwysig crefydd, na neb yn fwy goddefol i amrywio yn ei phethau amgylchiadol. Canfyddai fod y saint gwirioneddol, er maint o wahaniaeth oedd rhyngddynt, yn UN mewn mwy o bethau nag y amrywient ynddynt; a'u bod yn ddiau yn un yn yr hyn sydd hanfodol i wir grefydd. Nid oedd, yn y canrif diweddaf, nemawr grefyddwr yn Ngogledd a Deau Cymru, nad adwaenai Richard Tibbot;—nid oedd gapel gan Fethodistiaid, Annibynwyr, na Bedyddwyr, na dderbynid ef yn groesawgar iddo; na mynwes, a wresogwyd gan gariad Crist, nad oedd hyfryd ganddo ei gymdeithas. Ac er bod mewn enw yn weinidog cynulleidfa, yr oedd ei lafur mor amrywiol ag ydyw nemawr un o'r Methodistiaid eto. Yr oedd i'w weinidogaeth reolaidd gylch helaeth, o Fachynlleth i Landinam, dosbarth y mae erbyn hyn ddeuddeg o weinidogion yn llafurio. Ymwelai bob blwyddyn â'r Deau a'r Gogledd; a chymerai ofal i rwyddhau ei ffordd i fod yn bresenol yn nghymdeithasfaoedd Llangeitho a'r Bala bob blwyddyn, hyd ddiwedd ei oes. Ennillai mwyneidd-dra ei dymher serch ei frodyr, a chadernid a gwastadrwydd ei gyneddfau eu llwyr ymddiried. Bu farw yn y fl. 1798, agos yn bedwar ugain mlwydd oed.

Pan oedd enw Richard Tibbot yn dyfod gyntaf i sylw y gymdeithasfa fechan yn y flwyddyn gyntaf o'i sefydliad, ac y penderfynwyd ar fod iddo fyned i sir Benfro i gadw ysgol, rhoddid gofal yr ychydig eglwysi bychain. yn sir Drefaldwyn i dri brawd ag oedd yno eisoes yn dechre cynghori, sef Morgan Hughes, Benjamin Cadman, a Lewis Evan. Yr oedd y tri hyn, gan hyny, yn gyfoeswyr â Richard Tibbot yn ei ieuenctyd. Nid oes genym nemawr hanes am y ddau gyntaf o'r tri. Yr wyf yn casglu mai gŵr o ranau uchaf sir Aberteifi oedd Morgan Hughes, ac mai yno yr aeth yn ol. Am Benjamin Cadman y cawn, ddarfod iddo wedi dwy neu dair blynedd, gilio oddiwrth y Methodistiaid, ac ymuno â'r ymneillduwyr. Ond am y tryd-