yn y fl. 1739, pan oedd Lewis Evan yn ugain oed, y daeth Harris y tro cyntaf i sir Drefaldwyn, megys y crybwyllwyd o'r blaen. Ond pa un bynag, dychwelodd y llencyn adref yn ddyn tra gwahanol. Bu ei ddychweliad at Dduw, tebygid, yn ebrwydd ac yn drwyadl. Ymroddodd, bellach, i ddarllen a chwilio yr ysgrythyrau. Hyn oedd ei hyfrydwch penaf, a'i brif orchwyl; a dyma a'i gwnaeth yn ŵr cadarn a hyddysg ynddynt, ac a'i tueddodd i'w hargymhell mor ddiwyd ar bawb a ddeuai i'w gyrhaedd. Yn fuan iawn wedi iddo gael blas ar y Beibl ei hunan, dygai ef gydag ef o dŷ i dŷ, i'w ddarllen i'r teuluoedd a fyddent foddlawn iddo wneyd hyny. Arweiniodd hyn ef yn raddol i roddi gair o rybydd, neu gynghor, ac i derfynu yr ymweliad trwy weddi. Nid oes lle i gasglu fod Lewis Evan yn gwybod fod neb wedi gwneyd hyn o'i flaen ef. Efe, am ddim a'r a wyddai, oedd y cyntaf erioed a wnaethai hyn. Nid effaith dynwared neb oedd hyn o orchwyl ganddo; ond ffrwyth naturiol yr awyddfryd angherddol a deimlai i hysbysu meddwl Duw i'w gymydogion tywyll, ac i'w cyffroi i ymofyn am ei gymod a'i ffafr.
Peth dyeithr iawn oedd hyn yn y wlad; a pharodd gwaith y gwehydd ieuanc yn myned i ddarllen, cynghori, a gweddio, o dŷ i dŷ, gryn gyffro yn yr ardal; a deuai amryw o deuluoedd yn nghyd, pan y deallid pa bryd y gallent ddysgwyl ei ddyfodiad i dŷ cymydog. Ond ni chafodd fyned rhagddo yn mhell, na roddwyd ar ddeall iddo fod pyrth uffern yn anfoddlawn, a chodwyd gwrthwynebiad iddo. Tybiem ni, erbyn hyn, y buasai ei glod yn ymdaenu yn gyflym trwy yr holl fro, ac y buasai pawb am y cyntaf yn barod i ddiolch iddo am ei lafur gwirfoddol a hunanymwadol; ond yn lle hyny, ei erlid a gâi. Ar y ffordd i un o'r tai yr arferai Lewis Evan fyned i ddarllen a gweddio, yr oedd dyn cryf o gorff yn gwasanaethu yn y Plashelyg, yr hwn a'i bygythiai yn dost, gan sicrhau iddo, oni roddai heibio fyned y ffordd hóno i ddarllen, na ddiangai efe ddim heb gurfa flin. Eto, er hyn, ni pheidiai y dyn ieuanc; ac yn fuan wedi hyn, fel yr oedd Lewis yn myned y ffordd hóno, rhoes y creadur brwnt ei fygythiad mewn grym, a churodd y truan yn arswydus, nes oedd ei waed yn lliwio'r llawr; a thaflodd ef i'r clawdd, gan fygwth y lladdai efe ef y tro nesaf, oni roddai heibio ei orchwyl drygionus! A'r cwbl a ddywedodd Lewis wrtho wedi ei faeddu fel hyn oedd, "Dywed i mi, fy machgen gwyn, pa beth a wnaethum yn achos i ti fy nhrybaeddu fel hyn ?"
Yn fuan wedi hyn, dechreuodd bregethu, neu gynghori fel y'i gelwid; a chawn ei enw, fel y dywedwyd, yn cael ei grybwyll fel cynghorwr yn nghymdeithasfa Glan-yr-afon, sir Gaerfyrddin, ar Mawrth 1af, 1742, ac yn cael ei osod i gynorthwyo Morgan Hughes, mewn gofal am y cymdeithasau yn Llanfair, Llanllugan, a Llanwyddelan. O hyn allan hyd y fl. 1745, pryd y mae y cofnodau yn terfynu, yr ydym yn cael enw Lewis Evan yn mysg y cynghorwyr a fyddent yn bresenol yn holl gyfarfodydd y brodyr cyfagos iddo. Yn Ionawr, 1744, penderfynwyd mewn cwrdd misol yn Nhrefeca, "Fod y brawd Lewis Evan i fyned gan belled ag y gallai i sir Feirionydd ac