Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r Gogledd, yn gyson â'r alwad a fyddai arno." Ac ni fu y brawd Lewis Evan ddim yn anufydd i'r cynghor brawdol hwn; ond efe a fu yn ddiwyd a ffyddlon i deithio Gwynedd, yn gymysg â brodyr o'r Deau, dros flynyddau lawer, mewn amser yr oedd y croesaw yn fychan, y blinderau yn aml ac yn chwerwon. Rhoddir canmoliaeth iddo gan Richard Tibbot, yr arolygydd, mewn llythyr at y gymdeithasfa, yn y fl. 1745, fel hyn, "Mae derbyniad da i Lewis Evan, ac Evan Jenkins, gyda'r bobl gyffredin; a daw llawer i'w gwrando." Ac mewn llythyr arall y dywed yr un gŵr, "Y mae genyf le i gredu fod Duw yn bendithio ac yn llwyddo Lewis Evan, Llanllugan, ac Evan Jenkins, Llanidioes. Arddelir hwy yn fawr mewn ffordd o dueddu y bobl i agoryd eu drysau i dderbyn yr efengyl, ac i ddyfod i wrando y gair."

Cyfarfu Lewis Evan â'i ran o erlidiau. Pan oedd efe ar ei daith yn sir Feirionydd, ac yn pregethu yn nhref y Bala, ar ryw Sabboth, anfonodd boneddwr, yr hwn oedd hedd-ynad, ac yn byw yn y gymydogaeth, swyddogion i'w ddal, a'i ddwyn ger ei fron ef. Galwyd ef i'r parlwr, a chymerodd yr ymddyddan canlynol le :—

Ynad. Ai tydi fu yn pregethu yn y Bala?

L. E. Ie, syr, myfi fu yn rhoi gair o gynghor i'r bobl.

Ynad. O ba le yr wyt ti?

L. E. O sir Drefaldwyn, o blwyf Llanllugan.

Ynad. Beth yw dy orchwyl pan fyddi gartref?

L. E. Gwehydd ydwyf, syr.

Ynad. A oedd genyt ddim gwaith gartref?

L. E. Oedd, ddigon.

Ynad. I ba beth, ynte, y daethost y ffordd yma?

L. E. I roi gair o gynghor i'm cyd-bechaduriaid.

Ynad. Nid oes yma ddim o dy eisiau. Mae genym ni bersoniaid wedi eu dwyn i fyny yn Rhydychain, trwy draul fawr, at y gorchwyl o bregethu.

L. E. Mae digon o waith iddynt hwy a minau, o herwydd y mae y bobl yn lluoedd yn myned tua dystryw, er y cyfan.

Ynad. Mi a'th anfonaf di i garchar am dy waith.

L. E. Bu fy ngwell i yn ngharchar o'm blaen. Carcharwyd yr Arglwydd Iesu ei hun, yr hwn a ddaeth i'r byd i gadw pechaduriaid.

Gyda hyn, dywedai y gwehydd air yn mhellach am yr Arglwydd Iesu, ac am ei ddyben goruchel yn dyfod i'r byd; ond yr ynad a'i lluddiodd, gan ofyn,—

"A wyt ti yn meddwl pregethu yn fy mharlwr i."

"Nid wyf yn meddwl, syr, (ebe Lewis Evan,) fod eich parlwr chwi yn rhy dda i ddywedyd am yr Arglwydd Iesu Grist ynddo."

Gwelai yr ynad, o bosibl, nad oedd fawr tebygolrwydd yr ennillai lawer ar y pregethwr trwy ymddyddan o'r fath; ac am hyny, rhoddwyd ef i ofal y swyddogion, ac anfonwyd ef i garchar Dolgellau; ac yn y carchar y bu am yspaid hanner blwyddyn.

Mynych y mae rhagfarn a nwyd yn dallu gwŷr craff a chall; ac felly y bu