y tro hwn. Edrychodd cyfeillion Lewis Evan i mewn i'r achos, a chawsant allan na fu ei garchariad ddim yn rheolaidd, a bod y boneddwr wedi gosod ei hun yn ngafael y gyfraith trwy yr amryfusedd. Deallodd y boneddwr hyn hefyd, a bod cyfeillion y dyoddefydd yn bwriadu amddiffyn ei gam; a phrysurodd ei hun i Ddolgellau, ac at Lewis Evan i'r carchar, lle y bu ymddyddan rhyngddynt eilwaith:
Ynad. Wel, Lewis, ai yma yr wyt ti eto?
L. E. Ie, syr, dyma lle 'rwyf.
Ynad. Mae yn debyg mai yma y byddi di byth.
L. E. Nage, syr, nid yma y byddwch chwi na minau byth.
Ynad. Pe rhoddit ychydig arian, mi allwn i dy gael di allan.
L. E. Yn wir, syr, chwi ddylech fy nghael i allan am ddim, gan fod genych law fawr yn fy rhoddi i mewn yma.
Ynad. Dywed i mi, a oes llawer o honoch?
L. E. Oes, syr, y mae llawer o honom, ac fe fydd mwy o lawer eto yn mhen ychydig amser.
Ynad. Wele ynghrog y bo'ch chwi wrth yr un gangen.
L. E. O! syr, chwi fyddwch chwi wedi hen bydru cyn hyny,
Afreidiol ydyw chwanegu ddarfod gollwng Lewis Evan yn rhydd, yn ebrwydd, ac heb ddim costau. A chan iddo gael ei ryddid, llaesodd yr erlyniad yn erbyn yr ynad, gan roi ar ddeall iddo, y byddai llygad arno, os gwnai ef y fath gamwri mwy.
Ymddangosodd gofal rhagluniaeth am fywyd Lewis Evan mewn llawer amgylchiad o berygl, a rhoddwyd iddo ymwared rhyfeddol. Coffeir am un nodedig yn "Nrych yr Amseroedd," sylwedd yr adroddiad sydd fel hyn :
Yr oedd Lewis Evan wedi addaw dyfod i bregethu, ar brydnawn Sabboth, ar fryn bychan, gerllaw y ffordd sydd yn arwain o Wtherin i Lansanan, sir Ddinbych. Dygwyddodd fod yn y gymydogaeth ŵr tra hoff o ddifyrwch, yr hwn a osododd ei fryd i ddod i'r oedfa, nid i wrando gwirioneddau pwysig, ond i gael testynau gwawd a gwag-ddifyrwch; ac wedi ymdroi ychydig yn y dafarn i aros yr amser, aeth yn araf tua'r lle; ond nid oedd eto neb wedi dyfod yn nghyd, am hyny efe a orweddodd i lawr, ac a gysgodd. Cyn i'r bobl ddyfod at eu gilydd, daeth rhyw ŵr arall i'r lle; ac wedi sylwi fod gŵr a ddaethai yno gyntaf yn cysgu, cerddodd draw ac yma yn araf oddeutu y bryn: ac wrth edrych o'i amgylch, tynwyd ei sylw at welltyn praff, megys wedi ei blanu yn y llawr: ymaflodd ynddo, a chanfu ei fod yn llawn o bylor (powder). Enynodd hyn ynddo ysfa i edrych yn mhellach, a chafodd fod y gwelltyn yn cydio wrth rigol, neu ffos fechan, yn llawn o bylor, ac yn arwain i ben y bryn, lle y dysgwylid y byddai y pregethwr a'r bobl yn sefyll. Yr oedd ar ben y bryn dwll crwn, tua dwy droedfedd drosto, a phylor lawer ynddo, wedi ei guddio yn ofalus â thywyrch, fel na welid un anmhariaeth ar y llawr. Crafodd y gŵr y pylor i ffordd yn llwyr, o ryw ran o'r rhigol, fel ag i dori y cysylltiad; yna rhoes y gwelltyn a'r dywarchen yn eu lle fel o'r blaen; ac arosodd i edrych pwy a ddeuai at y gwelltyn. Erbyn hyn, yr