Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y bobl yn dechreu ymgasglu, a'r pregethwr a ddaethai i'r fan; safodd yn gymhwys ar y lle ag y cuddiasid y swm mwyaf o bylor ynddo. Yn mhen enyd, ar ganol y gwasanaeth, canfu was i gyfreithiwr, mewn gwisg menwr, yn dyfod yn brysur tua'r lle, a pheth mwg o'i amgylch; ac at y gwelltyn y daeth, a hyny gan chwythu ei dân. Ar hyn, gwaeddai y gŵr a gafodd allan y bradwriaeth arno, 'Methodd genyt dy gast (trick) yr awrhon.' Mae yr holl amgylchiadau yn cyd-daro i ddangos llaw rhagluniaeth Duw yn amddiffyn bywydau y diniweid rhag brad y gelyn creulawn, pwy bynag oedd, ai y cyfreithiwr ai ei was.

Yr oedd Lewis Evan yn ddyn lled fychan o gorffolaeth, a thra bywiog ei ysgogiadau. Yr oedd ei ymadroddion yn gyflym, a'i atebion yn barod. Er nad oedd yn cael ei ystyried ond pregethwr bychan, eto profodd ei hun yn dra defnyddiol. Fe ddysgai yn mhob man. Yr oedd rhyw adnod o'r Beibl, neu rhyw addysg neu gynghor yn wastad yn ei enau. Nid oedd neb yn dianc yn y tŷ y lletyai, na mab na merch, gwas na morwyn, mwy na'r gŵr a'r wraig, heb air oddiwrtho. Pa un bynag ai yn y tŷ ai yn y maes, ar y ffordd ai yn yr addoldy, cyfranu rhyw addysg fuddiol a chrefyddol oedd ei waith a'i ddifyrwch. Yr oedd Lewis Evan fel ysgol sabbothol symudol, a bernir fod mwy wedi derbyn lles yn y llwybr yma trwy Lewis Evan, na thrwy nemawr neb arall. Teithiodd lawer iawn ar hyd ac ar led Cymru, Gogledd Cymru yn enwedig, mewn amser enbyd, a than amgylchiadau o warth, anghysur, a pherygl; a gwnaeth hyny yn ddiwyd, dyoddefus, a siriol.

Dywedir fod Lewis Evan yn meddu llawer o ffraethineb, yn nghanol diniweidrwydd diddichell. Dringasai ef, a Mr. Foulkes, Machynlleth, unwaith i ben y Wyddfa; ac wedi cyrhaedd y fro awyrol hóno, tynai Mr. Foulkes ei het, a dywedai, "Beth pe yr aem dros ychydig amser i weddi yn y fan hon, Lewis ?"

"Da iawn, Mr. Foulkes, da iawn; yr ydych mewn lle da i weddio; ni fuoch erioed mor agos i'r nef."

Pan oedd Lewis Evan un tro mewn cyhoeddiad yn sir Gaernarfon, dygwyddodd ei fod yn myned trwy dref Pwllheli ar ddiwrnod ffair, ac hwyr. Goddiweddwyd ef gan ddau ŵr ar geffylau, ac yn lled feddwon. "Pwy sydd yma?" ebe'r gwŷr.

"Gŵr dyeithr ar ei daith."

"I ba le yr ydych yn myned y ffordd yma?"

"Ychydig yn mhellach."

"Ai porthmon[1] ydych chwi ?"

"Nage."

"A fyddwch chwi yn arfer prynu moch neu ddefaid ?" "Na fyddaf."

Gan dyngu, ebe un o'r ddau, "Pengrwn ydyw."

"Nid wyf, tebygaf, yn fwy crwn fy mhen na dyn arall."

  1. Sef, dyn yn masnachu mewn anifeiliaid.