Gan dyngu eilwaith yn arswydus, dywedodd un o honynt wrth Lewis Evan, "Ni a'th laddwn di."
"Na," ebe y llall, "na-ni chei di mo'i ladd ef."
"Mi a'i tarawaf ef, ynte."
"Gwell i ti beidio: os gwnei, mi a'th darawaf inau dithau," ebe y llall. "Beth? ai meddwl cymeryd ei blaid ef yr wyt ti? a wyt tithau wedi dy aileni ?"
"Gwell i ti fod yn llonydd, rhag fy mod heb fy ail-eni, fel tithau."
Ar hyn, aethant i guro eu gilydd, a chafodd y diniwed lonydd i fyned i'w daith; ac nis gwelodd ef hwynt mwyach. Cafodd ddiangfa y tro hwn heb dderbyn dim niwed iddo ei hun. Ond nid felly y bu mewn amgylchiad arall y mae coffa am dano yn "Nrych yr Amseroedd." Dywedir yno i ddau ddyn, â phastynau mawrion yn eu dwylaw, sefyll wrth ryw bont yn Nyffryn Clwyd, i ddysgwyl pregethwr i ddyfod heibio. Tebygid eu bod yn deall ei fod i ddyfod y ffordd hòno; a phwy oedd y pregethwr hwnw, ond Lewis Evan. Tarawyd ef gan un o honynt ar ei ben, mewn modd mileinig iawn, nes oedd ei waed yn llifo. Eto, safodd heb syrthio oddiar ei geffyl; a chan y syfrdandod a barodd y dyrnod, nis gwybu fod ei waed yn cerdded, nes ei gyfarfod gan ryw wraig, yr hon mewn dychryn a ofynai iddo, yn enw y Mawredd, pa fodd y daethai y fath wedd arno? Yn yr agwedd hon y cyrhaeddodd ei gyfeillion, y rhai o brysur a roisant iddo yr ymgeledd angenrheidiol.
Dro arall, pan oedd yn ceisio rhoddi gair o gynghor wrth bechaduriaid Darowen, mewn lle a elwid Cefn-yr-hosan, nid yn mhell o Fachynlleth, daeth haid fawr o erlidwyr, tua 60 o nifer, o'r dref, sef o Fachynlleth, i aflonyddu; ac nid digon oedd ganddynt aflonyddu, ond bwriadent niwed i'r pregethwr. Golwg anferth iawn oedd i driugain o wŷr mileinig ymosod ar un dyn, a hwnw heb fod yn nerthol o gorffolaeth, ac yn gwbl anarfog. Yr oeddynt yn rhy ffyrnig i ymresymu â hwynt, ac yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, ac nid oedd, gan hyny, er mwyn diogelwch, ond ceisio ffoi; a ffoi a wnaeth Lewis Evan. Gan ei fod yn ysgafn o gorff, ac yn chwimwth ei draed, yr oedd iddo obaith y diangai rhagddynt. Yr oedd y ffordd a gymerodd yn ei arwain dros ryw rôs, sef rhôs Hendreron, ac yn ei fraw a'i ffwdan, collodd ei gam, a syrthiodd i ffos ddofn, yr hon a ddygwyddai fod yn sych ar y pryd. Daeth i'w feddwl yn y fan, y gallai y ffos y syrthiasai iddi fod yn ymguddfa iddo. Ynddi, gan hyny, y llechodd, a chollodd yr erlidwyr bob golwg arno; ond gan dybied ei fod wedi cyfeirio ei gamrau tua llwyn o goed gerllaw, troisant i'w geisio yno, ac felly y cafodd ddianc.
Ychydig, mewn cydmhariaeth, a wyddom am lafur a blinderau y pererin hwn dros ysbaid hanner can mlynedd, a mwy. Gresyn na buasai wedi ysgrifenu dyddlyfr. Cawsem, drwy hyny, fantais i'w ddylyn, bant a bryn; gallasem ffurfio drychfeddwl am yr ysbryd rhagorol a'i llanwai; y llafur caled, a'r gwasanaeth hunan-ymwadol, a gyflawnai; cawsem olwg darawiadol iawn ar anwybodaeth yr oes, a'i hofer-ymarweddiad; cawsem fantais i gyfer-