dŷ. Ei enw ydoedd Evan Morgan[1] y crydd, ac yn byw, meddai Mr. Williams ei hun, yn Heol-y-Gogledd. "Y dydd hwnw (meddai) ydoedd gymylog a thywyll. Pan anturiais i'r dref, ni wyddwn i ba le yr oeddwn yn myned, i'r dwyrain ai i'r gogledd; pa fodd bynag, rhagluniaeth a'm dygodd yn ddiangol; marchogais yn araf, gan edrych yn bryderus am dŷ y crydd. Canfum ryw dŷ o'r fath, ond tybiais nad oedd yn ateb i'r darluniad a gawswn o hono; troais yn ol yn araf, ac yn wir gyda chalon bruddaidd, gan y gwyddwn, gan faint oedd y rhagfarn yn erbyn pregethwyr teithiol, y cymerid achlysur i'w camarwain; ond fel y bu yn dda i mi, y gŵr uchod a'm canfu, gan dybied mai un o'r llwyth gwrthodedig oeddwn.-Am hyny, y gŵr hwnw a sylwodd arnaf, ac o'r tu ol i'w dŷ a graffai i ba le y troai y gŵr dyeithr. Gelwais inau ar grydd arall, gan ofyn iddo am Evan Morgan y crydd. Atebodd yn drahaus, ei fod ef weithiau yn cael ei alw felly, a gofynodd i mi pa beth oeddwn yn ei ofyn ganddo? Cymysgodd fy meddwl, ac ni wyddwn pa beth i'w ddweyd, o herwydd deallais fy nghamgymeriad. Gyda hyn daeth y gŵr ag oeddwn yn ei geisio ataf, gan ofyn ai am Evan Morgan yr oeddwn yn holi. Y llall, bellach, gyda llŵ a ddywedodd, Dyma fo y dyn.' Troais inau yn ol, a chefais fy nghyfarch ganddo, a'm derbyn i'w dŷ, a'r twyllwr ni welais mwy.' Nid yw hyn o hanes ond dibwys ynddi ei hun, ond y mae yn ddrych, er hyny, i ddangos pa anhawsderau eu maint yr oedd i'r diwygwyr fyned trwyddynt, a pha fath ragfarn gwreiddiol a lochesid ar y dechreu tuag atynt. Nid oedd P. Williams ar y pryd ond 24 mlwydd oed; yn ŵr ieuanc o deulu cyfrifol, a dysgeidiaeth dda; gŵr a allasai fwynhau y byd yn ei wychder a'i esmwythyd; ond wele ni a'i cawn yma newydd droi allan yn bregethwr teithiol, ac yn awr, am y tro cyntaf erioed, yn wynebu Gwynedd erwin, dywell, ac erlidgar; ac ar ei ddyfodiad i'r dref gyntaf ynddi, mewn penbleth am dŷ i letya ynddo; ac wedi ei gael, nid oedd i'w ddysgwyl ynddo nemawr o gysur a gwychder, ond y sirioldeb a'r mwynhad a brofai y naill gristion yn y llall. A llawen iawn y teimlai fod yno grydd tlawd i'w achub o afaelion y crydd arall, yr hwn, ond odid, a fwriadai ei arwain ar gyfeiliorn, neu a godai haid o ddynion cyffelyb iddo ei hunan, i bentyru ar y dyeithr diamddiffyn bob sarhad a brynti o fewn eu cyrhaedd.
O Lanidloes efe a aeth yn ei daith trwy y Drefnewydd. Yr oedd, yn y cyfamser, yn cael cyfleusdra i bregethu yn awr ac eilwaith, yn y Tyddyn, Llandinam, a Mochdre, o bosibl, er na ddywedir wrthym yn mha leoedd wrth eu henwau. Yn y Drefnewydd efe a alwodd am bedoli ei geffyl; ond cyn iddo fyned o'r dref, deallodd fod sisial yn mhlith y bobl mai Cradog ydoedd; a dechreuasant gythryblu, a lluchio cerig ato, nes oedd palmant y dref yn gwreichioni. Ymadawodd â'r dref mor ebrwydd ag y medrai, a chyfeiriodd ei lwybr tua Llanfair Caereinion. Er na fuasai yma erioed o'r blaen, eto yr oedd yn y gymydogaeth foneddwr y daethai i radd o gydna-
- ↑ Fe allai mai y cynghorwr a berthynai i gymdeithas Llandinam oedd hwn: gwel tudal. 128.