Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ymgordeddu yn eu gilydd yn eu syniadau. Yr oedd yr un diwrnod yn gysegredig ganddynt i'r ddau dyben-i addoli yn y llan, ac i chwareu ar y twmpath. Yn bur fynych hefyd, yr oedd y gŵr a'u dysgai yn y pulpud, yn eu hanog yn y chwareu. Yr oedd y cynulliad i addoli yn y bore yn fanteisiol i gyhoeddi a hysbysu y cynulliadau dylynol. Yr un adeilad a'u derbyniai dan ei chronglwyd yn y bore, a gurid oddiallan gan y bêl y prydnawn. Hwyrach y dywedir ar gyfer hyn, mai nid gwasanaeth crefyddol y llan oedd yr achos o'r afreolaeth, ond yr achlysur; ac y dichon i'r pethau goreu gael eu camddefnyddio i'r dybenion gwaethaf. Parod ydym i addef hyn; ond ar yr un pryd, anhawdd iawn a fydd gan neb ystyriol gredu, pe buasai y gwasanaeth crefyddol oddifewn y peth y dylasai efe fod, y buasai y fath afreolaeth cyhoeddus a diwarafun oddiallan. Paham na wnaethai pob gweinidog plwyf ei oreu i ddarostwng y fath halogiad ar ddydd yr Arglwydd? Ond yn lle hyny, rhoddent yn aml eu gwyneb iddynt, a'u cymhorth ynddynt, ac ar y goreu, rhoddent fath o gymeradwyaeth dystaw iddynt, trwy beidio eu dynoethi a'u gwarafun. Dywedasom o'r blaen, mai ychydig o feiblau oedd eto yn y wlad, ac ychydig oedd y bobl a fedrent ei ddarllen. Anaml hefyd y byddai pregeth yn y llan; a phan y byddai, ni cheid nemawr o fedrusrwydd yn y cyfansoddiad, na chywirdeb yn y ddysgeidiaeth: tebycach ydoedd i ganwyll y gors yn arwain i'r llaid, nag i lusern oleu yn cyfarwyddo i ddiogelwch.

Treuliai y rhieni yn eu hen ddyddiau, ddechreu-nos gauaf i adrodd chwedlau anwireddus i'w plant a'u hwyrion, am orchestion eu hynafiaid, mewn camp-chwareuon ac ymladdau; ac am ymrithiad ysbrydion a thylwythion teg. Y beirdd hefyd a ddiraddient eu hamser a'u galluoedd, i wneuthur cerddi halogedig ac anniwair; a chyfansoddent antarlutiau masw neu ddigrifol. Defnyddid y rhai hyn gan ddynion segur i ddifyru y werin ynfyd; i borthi llygredigaeth a drwg-wyniau yr oes. Rhaid addef fod, yn nghanol yr holl anfoes anfad hwn, cryn lawer o barch, o'r fath ag ydoedd, yn cael ei goleddu tuag at berson y plwyf, a chryn ymlyniad wrth wasanaeth yr eglwys. Caniateid iddynt hwythau, gan y gŵr parchedig, bob rhyddid i fwynhau yr hyn oll a ddymunai eu calon, am yr ymgadwent o fewn terfynau cyfraith y tir; ac addawid iddynt hefyd, ond para yn ffyddlawn ddeiliaid yr eglwys, "nefoedd wen" yn y diwedd.

Y cyfryw ydyw y dysgrifiad byr a roddir o siroedd Dinbych a Fflint, ar ddechreu 1700. Am ardaloedd Llanrwst y dywedir, "Byddai cryn ymgynulliad i'r llan yn y boreu Sabboth; ac ar ddiwedd y gwasanaeth, cyhoeddai y clochydd dwmpath chwareu yn Clwt-yr-Henblas, neu yn Nant-y-fedwen, y prydnawn. Yn ganlynol, yno yr ymdyrai y chwareuwyr o bob parth; ac ar ol ymflino yn y chwareufa, ymgasglent i'r tafarndai, lle y canfyddid y meddwdod ffieiddiaf, a'r ymladdau ffyrnicaf, yn fynych hyd foreu ddydd Llun. Un o ddefodau y Sabboth gan mlynedd yn ol, yn y wlad hon, oedd i'r wraig ofalu am ddarbod chwecheiniog i'r gŵr i'w wario am gwrw bob Sabboth. Yr oedd ganddynt un Sabboth yn y flwyddyn yn wylmabsant. Ar yr ŵyl