Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

reinrwydd o leiaf wedi ei ddeffro, os nad oedd yn priodoli i'r amgylchiad ryw amnaid dwyfol tuag ati. Nid oes lle i feddwl fod dim a wnelsai y wraig hon â chrefydd cyn hyn, ac nid oes sicrwydd iddi gael ei harwain i gredu yn Mab Duw yn ol llaw; ond fe effeithiodd y bregeth gymaint ar ei meddwl, ag i beri iddi geisio gan y pregethwr ddyfod i bregethu i'w thŷ hithau. Yntau a addawodd fyned. Enw y pregethwr, medd yr hanes, ydoedd Dafydd William, gŵr o'r Deheudir. Fel hyn y dechreuodd pregethu gan y Methodistiaid yn amgylchoedd Llansanan; ac er ised ydyw gwedd Methodistiaeth, ie yn wir, pob rhyw gyfundeb, yn Llanfair heddyw, fe gafodd yr anrhydedd o lochi pregethiad yr efengyl yn un o'r lleoedd cyntaf yn sir Ddinbych, ar doriad gwawr y diwygiad yn Nghymru.

Erbyn i bregethu ddechreu yn Llanfair, aeth y son am dano allan yn gyflym i'r holl ardaloedd cylchynol; a sugnodd yno luaws o bobl. Rhai a ddeuent yno o wir gywreinrwydd, heb un neges ond i weled ac i glywed rhywbeth newydd; ac nid oes amheuaeth na pharodd breuddwyd y wraig weddw fwy o ysfa yn meddyliau y bobl nag arferol, i fynu gwybod beth oedd ar ddyfod, ac i hyny fod yn foddion i enyn y dyb fod rhywbeth goruwchnaturiol yn yr amgylchiad, fel nad ydym yn cael fod cymaint o wrthwynebiad wedi cael ei ddangos i'r pregethu yn y lle hwn, ag a ddangosid gan amlaf mewn cymydogaethau eraill. Pa fodd bynag, cytunodd deg neu ddeuddeg o wŷr lled gyfrifol yn mhlwyf Llansanan, yr hwn oedd yn terfynu ar blwyf Llanfair, i fyned yno i wrando, ac yn eu mysg yr oedd un Edward Parry, am yr hwn y bydd genym ychwaneg i'w draethu yn ol llaw. Y canlyniad a fu i'r gwŷr hyn oll brofi, mewn mesur mwy neu lai, awdurdod y gwirionedd ar eu cydwybodau yn yr oedfa hon, y gyntaf y buont hwy erioed ynddi yn gwrando ar ymneillduwr yn pregethu, a gwnaed hwy yn y canlyniad, bob un yn ei gylch, yn ddefnyddiol gydag achos yr efengyl o hyny allan. Am yr oedfa hon y dywedai Edward Parry, ac am yr awdurdod a brofai trwyddi, "Mi a synais yn fawr pan aethum i'r tŷ; ac wrth wrando, teimlwn llawr y tŷ yn crynu dan fy nhraed; tybiwn fod y dysglau yn curo yn eu gilydd yn eu lle, a daethum ar unwaith i'r penderfyniad o ymlynu wrth y bobl hyn tra fyddwn byw." Dywedir mai enw y pregethwr oedd Dafydd William Rhys[1], yr hwn a alwai Edward Parry o hyny allan, "Fy nhad." Parod ydym i feddwl mai y Dafydd Williams hwnw ydoedd y mae Robert Jones yn son am dano yn pregethu yn Nghaergwrle, a manau eraill; a'r un y dywed John Evans am dano, ddarfod ei anfon gan frodyr y Deheudir, bob yn ail ag un John Belcher. Anfonwyd y gwŷr hyn i'r Gogledd yn fuan ar ol y maeddu arswydus a fu ar Howel Harris yn y Bala, ac o wir dosturi at sefyllfa isel ac anwybodus trigolion Gwynedd. Dywedir fod y ddau ŵr uchod yn cael eu hanfon bob yn ail chwarter blwyddyn i bregethu yn ngwahanol barthau y Gogledd; ac nid rhyfedd genyf os nad hwn oedd yr un a

  1. Yr oedd dan ŵr yn y Deheudir o'r enw Dafydd William. Gelwid un yn Dafydd William Dafydd, a'r llall yn Dafydd William Rhys.– Trefeca Minutes.