Yr oedd yn dra angenrheidiol, yn y dyddiau hyny yn enwedig, os mynai neb fyned ar ol Mab Duw, "eistedd yn gyntaf, a bwrw y draul." Rhaid oedd i'r dysgybl a broffesai Grist "ymwadu ag ef ei hun, a chodi ei groes beunydd." Tynodd Edward Parry ŵg llawer arno ei hun, yn neillduol trwy agor ei dŷ i dderbyn pregethwyr y penau cryniaid iddo. Ond nid oedd neb yn fwy cethin wrtho na gweinidog y plwyf; yr hwn, wrth weled y wlad yn cyffroi, a nifer yn ymgasglu i'r Cefn-byr, sef tŷ Edward Parry, i wrando, a ffromodd yn aruthr wrtho. Yr un modd y gwnai ei feistr tir; a bygythiodd, oni roddai heibio lochi y crwydriaid estronol a deithient y wlad, i gymeryd arnynt bregethu, y troid ef allan o'i dyddyn. I hyn yr atebai yntau yn bwyllog, "Nid yw eich tir chwi, syr, ond dros amser, ond y mae crefydd i barhau byth." Bu y meistr tir cystal a'i air, a rhybudd a roddwyd i'r crefyddwr ymadael. Ychydig cyn amser ei fudiad ymaith, cafodd gyfleusdra i ymddyddan ag un Mr. Foulkes o'r Wenallt, wrth yr hwn yr anturiodd gwyno ei fod yn gorfod ymadael â'i dyddyn, ac heb un arall i fyned iddo.
"Paham y troir chwi allan ?" ebe y gŵr boneddig. "Am dderbyn pregethu i'r tŷ," oedd yr ateb. "Onid gwaith da yw hyny?" ebe Mr. Foulkes. "Nid oes genyf yn awr yr un tyddyn yn wag i'ch derbyn; ond gan eich bod yn saer, chwi ellwch godi tŷ i chwi eich hun, a minau a roddaf dir i chwi gydag ef mewn gweithred."
Cytunodd Edward Parry i gymeryd y tir, yn ol y cynygiad, a chododd dŷ arno mewn ychydig amser, yr hwn a alwyd Tan-y-fron, ac felly y gelwir ef hyd heddyw; enw ag sydd wedi bod yn hysbys i hen bregethwyr y Methodistiaid o'r dechread, ac yn para felly i'r sawl sydd yn arfer ymweled â sir Ddinbych.
Tua'r un amser ag Edward Parry y cafodd gwraig o'r enw Margaret Hughes, Brynanllech, plwyf Llansanan, ei thueddu at grefydd. Ar symudiad Edward Parry i ben arall i'r plwyf, i'w dŷ newydd, cafodd y wraig hon ar ei chalon dderbyn ambell oedfa i'w thŷ, ac ambell gyfarfod gweddio. Mewn canlyniad, aeth yr offeiriad at ei meistr tir hithau (o gydwybod i'r gwirionedd, yn ddiamheuol!), i achwyn arni; a chafodd hithau rybudd i ymadael â'i thyddyn: ond gan na ddaeth y meistr i gymeryd meddiant o'r tir yn yr amser priodol, a chan na osodwyd mo'no i neb arall, triniodd y wraig y tir gyda golwg ar flwyddyn arall. Pan welodd yr offeiriad hyny, aeth at y boneddwr eilwaith, a llwyddodd gydag ef i geisio awdurdod cyfreithiol o frawdle Awst, i'w bwrw allan. Ac fel hyny y bu. Bwriwyd hi allan o'r tŷ, hi a'i dodrefn, a'i hanifeiliaid; ac ar fynydd, dan ryw fath o gysgod, y bu hi a'i heiddo hyd ddiwedd y flwyddyn. Yn y cyfamser, âi Edward Parry a'i gyfeillion i'r fan hon hefyd, i gadw ambell oedfa, a chyfarfod gweddio. Tosturiodd rhyw foneddwr arall wrth y weddw yn y sefyllfa ddigysur yma, ac a roes genad iddi aneddu mewn tŷ iddo ef, dros ystod gweddill y gauaf. Ar waith Howel Harris yn ymneillduo i Drefeca, cafodd