Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y wraig hon ar ei meddwl symud yno hefyd, a gwnaed hi yn un o'r ymddiriedolwyr ar y sefydliad hwnw, ar ol marwolaeth Howel Harris.

Yr oedd Edward Parry wedi dechreu pregethu, tybygid, yn y fl. 1749, ac felly ddwy flynedd cyn yr ymraniad yn 1751. Effeithiodd yr ymraniad galarus hwnw yn drwm iawn ar y brawd hwn, fel y gwnaethai yn wir ar luaws eraill o ddynion tyner eu teimladau. Syrthiodd i gryn raddau o ddigalondid a lwfrdra meddwl, a rhoes heibio bregethu am ryw dymhor. Yn yr adeg ddigysur hon, ail-ymunodd ag eglwys Loegr, a llawen iawn oedd gweinidog y plwyf am ei adferiad; a chan lawenydd am ei ddychweliad yn ol, ac i ddangos ei barch iddo, gwnaeth ef yn Warden. Yn yr ysbaid yma, gan fod Edward Parry yn preswylio yn mhell oddiwrth y llan, efe a ddarIlenai wasanaeth gosber ar brydnawn Suliau yn ei dŷ ei hun, gan wneuthur sylwadau ar y salmau a'r llithoedd wrth fyned yn mlaen. Yr oedd ar hyd y plwyf amrywiol fath o chwareuon ac ofer-gampau, difyrwch a dawns, yn cael eu dal i fyny ar brydnawn Sabbothau. I'r cyfarfodydd hyn, neu yn agos i'r lle y byddent, y gosodai Edward Parry ei fryd i fyned, er mwyn cynal gosber yn y lle hwnw; a chymhellai y bobl, yn ol ei swydd fel Warden, i ddyfod i'r gosber, dan berygl cosbedigaeth. Yn y modd yma y llwyddodd i ymlid y chwareuon hyny ymron yn llwyr o'r plwyf.

Effeithiodd yr ymraniad, fel y cawn eto sylwi yn y lle priodol, ar yr holl gymdeithasau eglwysig bychain ar hyd y gwledydd. Dyryswyd llawer o'r cynghorwyr hefyd; rhai a acthant at Howel Harris i Drefeca; a dwylaw llawer o honynt nad aethant yno, a laesaṣant, fel nad oedd nerth ynddynt am dymhor i ymaflyd yn eu gwaith. Aeth un Hugh Davies, sef brawd i wraig Edward Parry, i Drefeca; ac yn mhen rhyw enyd, daeth drwy y wlad i gynghori y bobl i fyned yno, a llawer a aethant yno o ardaloedd Llansanan, yn ol ei annogaeth; ond ni lwyddodd gydag Edward Parry, er mai i ochr Harris, yn hytrach na Rowlands, y gogwyddai yntau. Nid oes genym nemawr o hanes Edward Parry bellach am gryn ysbaid o amser. Arafodd olwynion Methodistiaeth am dymhor maith. Cyfarfuasai â gwrthdafliad arswydus yn yr ymraniad, ac fe safodd y gwersyll yn syn megys am ysbaid deng mlynedd, heb wybod pa fodd, nac i ba le i ysgogi.

Tua'r fl. 1761, cymerodd Edward Parry dyddyn o'r enw Bryn-bugad, ger llaw y lle yr oedd eisoes yn byw. Yr oedd dros yr holl amser yn para i weithio ei grefft o saerniaeth; ond yn y fl. 1763, bu farw ei wraig, ac yn mhen blwyddyn a hanner ar ol hyny, efe a briododd eilwaith, wraig weddw o'r enw Ann Roberts, gweddw Henry Roberts o Arllwyd. Yr oedd y wraig hon yn un o'r rhai a ddeffroasid am ei hachos ysbrydol; ac er ys blynyddau cyn bod yn weddw, yr oedd wedi profi melysder yr efengyl, ac yn rhodio yn ofn Duw. Pan beidiodd pobl Howel Harris, fel y gelwid hwy, a dyfod trwy y wlad, yr oedd newyn mawr am air yr Arglwydd, a'r bobl a sychedent am foddion gras cyffelyb i'r rhai a fuasent mor hyfryd a buddiol iddynt gynt. Teimlasai y wraig hon, a'i gŵr Henry Roberts, gryn lawer o anesmwythder o herwydd diffyg y moddion arferol, a chynygiodd hi i'w gŵr fyned i fyw i