Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nawddle Howel Harris i Drefeca, fel y gwnaethai amryw o'i chymydogion eisoes. Ond yr ateb a gafodd ydoedd fel hyn, "Nis gwyddom ni yn y wlad hon, pa fath ydyw sefydliad Trefeca: cyn myned yno i aros, doeth fyddai myned hyd yno yn gyntaf i edrych, a barnu drosom ein hunain, rhag ofn cyfarfod â siomedigaeth, ac i ni ddymuno dod yn ol." Cydsyniodd y wraig, a hi a aeth hyd yno; a thrwy yr hyn a welodd ac a glywodd, deallodd mai diogelach fyddai aros yn eu hen gartrefle. Bu farw ei gŵr yn mhen enyd ar ol hyn; a hithau a briodwyd, fel y crybwyllwyd, ag Edward Parry. Gwelir wrth yr amgylchiadau crybwylledig, er mor ddibwys yr ystyrir hwy ynddynt. eu hunain, pa fath ydoedd ansawdd Methodistiaeth dan effeithiau yr ymraniad; pa mor amddifad a fu y wlad o'r ychydig foddion a fwynhasid o'r blaen; a pha mor sychedig oedd yr ychydig grefyddwyr am ddwfr y bywyd.

Wedi olrhain cymaint a hyn ar hanes dechreuad pregethu gan y Methodistiaid yn mharthau gorllewinol sir Ddinbych, ni a geisiwn olrhain yr un gwaith yn y parthau dwyreiniol o'r sir hono.

Yr oedd Adwy'r Clawdd, yn mhell cyn yr ymraniad, wedi cael ymweliad gan yr hen ddiwygwyr boreaf. Ardal ydyw hon yn gorwedd o fewn tair milldir i dref Gwrecsam, a Chlawdd Offa (Offa's Dyke) yn rhedeg gyda'i gwaelod. Yn agos i'r clawdd hwn, ychydig islaw iddo, y ganwyd yr hybarch John Evan's o'r Bala. Nid oedd John Evans ond naw mlynedd ieuangach na Howel Harris; a chan iddo gael crefydd pan yn lled ieuanc, yn y Bala, teimlodd, fel y gellid dysgwyl, bryderwch yn achos ei rieni a'i hen gymydogion yn yr Adwy. Fe ddywed ef ei hun yn hanes ei fywyd, mai efe a gafodd y fraint o ddwyn y marworyn cyntaf yno. "Yr oedd fy nhad a'm mam (meddai) wedi fy ngwrthwynebu i ddwyn pregethu yno, dros enyd, gan ddywedyd fod yr eglwys sefydledig yn ddigon. Ond wedi cael adferiad o glefyd trwm, cawsant eu hystwytho i ganiatâu i mi ddyfod a phregethwr i gadw oedfa yn y tŷ. Y cymydogion a ddaethant ynghyd, ac wedi darfod y bregeth, gofynasant, Ai gŵr wedi bod mewn trance neu weledigaeth oedd y pregethwr? gan ei fod yn traddodi pethau dieithr i'w clywedigaeth. Nage,' ebe finau, oni chlywsoch y gŵr yn cymeryd ei destyn o'r Beibl?'" Hyn yn unig a ddywed John Evans am ei ardal enedigol. Nid yw yn ein hysbysu pwy oedd y pregethwr a ddygwyd ganddo yno, na thua pa ryw amser y bu hyny. Sicr ydyw ei fod rywbryd rhwng y blynyddau 1741-51. Yr oedd pregethu yn yr ardal hon o leiaf yn y fl. 1748, gan y cawn grybwylliad am hyn yn un o lythyrau Howel Harris, yr hwn a ysgrifenwyd at un Mr. Baddington, wedi ei ddyddio Hydref 20, 1748. Fel hyn yr ysgrifena:—"Bum saith noswaith olynol, yn y daith hon, heb ddiosg fy nillad; trafaelais o un boreu hyd yr hwyr dranoeth, dros gan milldir, gan bregethu ganol nos, neu yn fore iawn, ar y mynyddoedd; yn gorfod cyfarfod y pryd hwnw i ochel erlid; gorfu i un gŵr yr wythnos cyn i mi fyned yno, dalu ugain punt, yn agos i Wrecsam, i Syr W—-ac amryw o'r gwrandawyr bum swllt, ac un ddeg swllt, yr hwn swm a dalasai unwaith o'r blaen. Hwn oedd y trydydd tro y gwasanaethasid y bobl dlodion yn y gymydogaeth hóno, am ymgasglu