Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd i'r afon. Ond trwy ryw foddion neu gilydd, daeth eu bwriad gwaedlyd yn adnabyddus i gyfeillion y pregethwr; aethant i'w gyfarfod, a dygasant ef dros yr afon mewn cwch i ben arall y dref; ac oddiyno i dŷ William Llwyd. Pan ddeallodd y cyullwynwyr ddarfod eu siomi am eu hysglyfaeth yn y ffordd a ddysgwyliasent, penderfynasant ymosod ar y tŷ y cynelid y cyfarfod crefyddol ynddo. Yr oedd yr oedfa yn cael ei chynal mewn llofft: dechreuwyd yr oedfa trwy ganu mawl a gweddio; ond ar waith y pregethwr yn darllen ei destyn, "Wele yr wyf fi yn mynegu i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl. Canys ganwyd i chwi heddyw Geidwad, &c.;" a chyn iddo gael myned nemawr yn mlaen yn mhellach, wele y dyhiriaid yn rhuthro i mewn, gan geisio cael gafael ar y pregethwr. Ond nid ebrwydd a rhwydd y gallent wneuthur hyn, gan fod yn rhaid ymwthio trwy y gynulleidfa. Pan welodd gŵr y tŷ nad oedd seibiant mwyach i'w gael; a chan y gwelai yn rhy anhawdd i'r pregethwr ddianc; efe a ddiffoddodd y canwyllau, ac a glôdd ar y pregethwr mewn cist. Bu yr erlidwyr yno hyd y plygain yn chwilio am dano; ond ni chawsant ef. Bu tref Llanrwst am amser maith ar ol hyn heb neb yn cynyg pregethu yno; ond fe geid ambell oedfa yn achlysurol mewn lleoedd o amgylch y dref, megys Crafnant, Lletydomlyn, a Thafarn-y-fedw. Chwanegwyd tua'r pryd hwn at yr ychydig ddysgyblion ag oeddynt eisoes yn adnabyddus fel pleidwyr y grefydd newydd, trwy ddyfod un Peter Morris a'i wraig, o ardal y Bala, i Dafarn-y-fedw i fyw. Yr oeddynt ill dau, meddynt, yn gyfiawn gerbron Duw, ac yn wresog eu calonau at achos yr efengyl. Bellach, yr oedd nifer y dysgyblion yn chwech !-sef John Richards, Gabriel Jones, Peter Morris a'i wraig, Margaret Evans o'r Fron, a'i mab Thomas; a dechreuasant ymwasgu at eu gilydd, a chynal cyfarfod i ymddyddan am bethau ysbrydol, ac i gynghori eu gilydd. Galwyd y cyfarfod hwn yn gymdeithas (society), a pharhausant i ymgynull yn y modd yma am lawer o flynyddoedd. Rhoddir i ni fantais eto i grybwyll amgylchiadau eraill, cysylltiedig â'r ardaloedd hyn, pan y gelwir arnom i draethu am gynydd Methodistiaeth yn y sir.

Tua'r fl. 1748, daeth Mr. Howel Harris i gynyg pregethu yn nhref Dinbych. Safodd y tu allan i'r dref, wrth ysgubor Llewelyn; ond ychydig seibiant a gafodd, gan faint y terfysg; gyda llwon a rhegfeydd lawer y dywedai yr haid afonydd, "Ni chaiff y fath beth a hyn ddim bod yma." Wedi y tro hwn gyda Harris, ac wedi gweled nad oedd llonyddwch i bregethu ar yr heol i'w gael, agorodd un Thomas Llwyd o Heol Henllan, yn nghwr y dref, ei ddrws, gan ddysgwyl na feiddiai y terfysgwyr yn ddiau ddyfod i neb. Ond yn hyn fe gamgymerodd yn ddirfawr; oblegid pan gafwyd gŵr i ddyfod yno i bregethu, daeth y terfysgwyr yno hefyd, yn haid ddireol a chreulawn. Yr oedd gan un badell ffrio yn ei law, i'w thincian yn ngwyneb y pregethwr; a phan y canfu nad oedd hyny yn ddigon i'w attal, cynygiodd daro y pregethwr â'r badell; a phan welwyd fod y pregethwr wedi gochel y dyrnod trwy ddal ei law yn erbyn, cipiwyd ef ymaith rhwng dau, ac eraill o'i ol yn ei wthio a'i gicio. Dygasant ef o flaen swyddog y dref, gan dyngu ei