Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod wedi taro ei wrthwynebwr. Ni roddid clust i un amddiffyniad o'i eiddo drosto ei hun, ond ei hwtio a'i ddwrdio yn haerllug, a bygwth ei roddi mewn dalfa onid âi allan o'r dref yn ebrwydd. Ei ollwng, pa fodd bynag, a wnaed, gan waeddi yn groch ar ei ol.

Yn fuan wedi hyn, clybu yr erlidwyr fod Lewis Evan, Llanllugan, i'w ddysgwyl i Ddinbych i bregethu. Ymgasglasant ar y ffordd y dysgwylid iddo ddyfod, â phastynau yn eu dwylaw, i'w dderbyn. Pan ddaeth i'r lle, ymosodasant arno yn greulawn, gan ei guro yn dost ar ei ben, nes oedd ei waed yn lliwio y llawr. Ond gan iddynt fethu a'i gael oddiar ei farch, cafodd egwyl i ddianc o'u dwylaw.

Ar ryw brydnawn Sabboth, daeth gŵr arall o'r enw Edward Oliver i bregethu i dŷ Thomas Llwyd. Ni chafodd hwn chwaith ddim gwell llonydd na'r rhai a fuasent yno o'i flaen; ond rhoddai preswylwyr y dref arwydd diymwad nad oedd dim a'u boddlonai hwy ond llethu y "penau cryniaid " a'u hachos i'r llawr. Llusgasant Edward Oliver o'r tŷ hyd at lyn, neu Bwll-y-Grawys, fel y gelwir llyn mawr yn mhen uchaf y dref, lle yr arferid dyfrhau anifeiliaid. Anhawdd oedd iddynt lusgo yr hen ŵr i'r llyn, heb fyned i'r dwfr eu hunain; am hyny, tynasant ei ferwig oddiar ei ben, ac wedi rhoddi careg ynddi, lluchiasant hi i ganol y llyn. Gyda hyn, daeth yno lanc ar gefn ceffyl i'r dwfr: hwn a gymerth y pregethwr gerfydd ei ysgwydd, gan ei lusgo yn ol ac y'mlaen trwy y llyn; ac yn y cyfamser, yr oedd rhai o'r edrychwyr yn eu difyru eu hunain trwy ei luchio â thom a cherig. Ie, i chwanegu eu difyrwch, ceisiasant gi mawr a berthynai i faredŷ yn y dref, a cheisiasant ganddo hela y truan yn y llyn; a chan nad oedd yn gwneyd yn union fel y mynent, fe afaelodd y llanc oddiar y march yn nhorch gwddf y ci, i'w lusgo at y pregethwr. Yn lle hyny, y ci wedi ffyrnigo a gydiodd yn y ceffyl yn gyntaf, a thrachefn a ruthrodd i hwch a pherchyll y tu arall i'r llyn, gan eu llarpio yn arswydus. Parodd hyn derfysg yn mysg y terfysgwyr eu hunain; a llithrodd pawb i ffordd am y cyntaf, rhag y byddai gofyn arnynt drachefn am y sarhad a wnaethid;, ac felly, cafodd y diniwed ddianc â'i hoedl ganddo, y tro hwnw.

Ar ryw Sabboth arall, yr oedd rhyw bregethwr drachefn wedi anturio dyfod i bregethu i dŷ Thomas Llwyd. Daeth Edward Parry o'r Bryn, ac amryw gyfeillion gydag ef, ac yn eu plith Margaret Hughes, Brynanllech, am yr hon y bu crybwylliad eisoes. Ond yr erlidwyr, yn fintai fawr a phenrydd, a ddaethant ar eu gwarthaf; ac wedi cau o'u hamgylch, hwy a'u hymlidiasant i ffordd Nantglyn; yno tynasant y wraig oddiar ei cheffyl, rhwygasant ei dillad, a gwnaethant iddi bob anmharch ag a allent. Yn y cyfamser, daeth gŵr cyfrifol i'w cyfarfod, a gofynodd iddynt, paham y trinient y wraig yn y modd hyny? Atebent iddo, mai putain oedd hi. Ond y boneddwr a gymerodd ei phlaid, ac a ddwrdiodd y dyhiriaid yn llym, gan annog y wraig i fyned at swyddog y dref, a mynu cosb deilwng arnynt, ac addaw hefyd, os gomeddai y swyddog, yr edrychai efe am gosbi y swyddog ei hun. Rhoes