Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn, pa fodd bynag, seibiant i'r crefyddwyr ddianc o'u dwylaw, ac i wneyd y goreu o'u ffordd tua thref.

Mewn amgylchiad arall, aeth yr erlidwyr i mewn i dŷ Thomas Llwyd, a chymerasant bob peth oedd ganddo yn ei dŷ, a gwerthasant hwy oll yn y farchnad, gan ei adael ef a'i wraig heb ddim ond y parwydydd moelion, i ymdaro fel y gallent; ond nis gallent ei droi ef allan, gan mai ei eiddo ef ei hun oedd y tŷ. Ond er ei ysbeilio yn y modd anghyfiawn hwn o'r cwbl oedd ganddo, gofalodd rhagluniaeth y nef am dano, ac ni adawyd ef heb ei wobr; canys llwyddodd yn helaeth ar ol hyn yn ei feddianau bydol, a'r hyn oedd lawer mwy, cafodd ei gadw yn iraidd o ran ei ysbryd gan wlith y nefoedd. Nid yw ein hanes yn hysbysu i ni o dan ba esgus yr ysbeiliwyd ef o'i eiddo yn y modd y gwnaed,—pa un ai trais noeth trwy nerth braich, ai trais cyfraith dan rith dirwy, am iddo dderbyn pregethu i'w dŷ, a hwnw heb ei gofrestru yn ol y gyfraith. Pa un bynag, rhoddir i ni ddrych i weled anhawsderau crefyddwyr Cymru mor ddiweddar a chan mlynedd yn ol; a phrawf o werth annhraethol y rhyddid gwladol a chrefyddol yr ydym ni, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ei fwynhau. Cyn darostwng trais a haerllugrwydd yr erlidwyr yn y dref hon, bu raid defnyddio y gyfraith; a chostiodd yr erlidigaeth yn ddrud iawn i rai lled uchel eu sefyllfa; diangodd eraill o'r wlad, rhag ofn y gosb ag oedd yn eu bygwth, a chaed llonydd byth oddiwrthynt hwy.

Ardal arall o fewn terfynau cyfarfod misol sir Ddinbych, ag y bu pregethu ynddi cyn yr ymraniad, ydoedd bro Llansantffraid-glan-Conwy. Ymddengys oddiwrth yr ychydig hanes sydd genym am y gymydogaeth, fod pregethu gan y Methodistiaid wedi cael ei ddwyn iddi yn y modd canlynol:—Yr oedd ynddi ŵr o'r enw Robert Joseph, a'i wraig, wedi eu hanfon i'r plwyf i gadw ysgol Gymraeg; gan bwy, nid yw yn hysbys; gallwn ddyfalu, pa fodd bynag, mai gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Deallir fod y gŵr a'r wraig yma wedi bod yn gwrando ar y Methodistiaid cyn dyfod i'r wlad hon. Dygwyddodd, pa fodd bynag, i Robert Joseph glywed fod pregethu i fod yn Ngwern-bwys, plwyf Llanddoget neu Eglwys-fach, ar ryw amser penodol. Yno yr aeth; ac ar ei ddychweliad oddiyno, cyfarfu ag un William Roberts, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn y Plas-bach. Gofynodd i'r ysgolfeistr, yn mha le y bu; a dywedodd yntau mai yn gwrando pregeth yn Ngwern-bwys y bu. "Byddwch mor fwyn, Robert, (ebe yntau,) a hysbysu i mi pan glywoch fod yno bregeth eto." Addawodd yntau wneuthur felly. Ymddengys fod y William Roberts hwn â rhyw ddaioni ynddo ef eisoes, gan y byddai, meddynt, wrth fyned i, a dyfod o lan y plwyf, yn arfer rhybuddio pechaduriaid o'u cyflwr truenus; ac yn fynych ar y fynwent, fe'i clywid ef yn gwarafun dynion i halogi y Sabboth trwy chwareuon a champau ofer. Yr ydoedd hefyd yn arfer addoli Duw yn ei deulu, yr hyn oedd yn beth anarferol iawn y dyddiau hyny. Amlwg yw fod yn y gŵr hwn beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, trwy ba foddion bynag yr ennillasid ei feddwl ef at bethau difrifol y byd a ddaw. Yr oedd fel Cornelius, yn ŵr defosiynol, ac