Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ofni Duw; ac felly, "yr oedd ei galon wedi ei pharotoi" i geisio Duw, ac i wrando yr hyn oll a ddywedai Duw wrtho, neu a orchymynai Duw iddo.

Cyn hir o amser, hysbyswyd iddo fod pregethwr i'w ddysgwyl i Wernbwys; yno yr aeth, a phwy oedd y pregethwr ond y Parch. Peter Williams. Gwahoddodd y pregethwr i ddyfod gydag ef i'w dŷ, a chafodd ganddo bregethu yn ewyllysgar yn y Plas-bach. Hon, yn ol dim a ddeallir, oedd yr oedfa gyntaf yn y plwyf hwn gan y Methodistiaid. Rhaid fod hyn ryw gymaint o amser cyn yr ymraniad, ac felly dros gan mlynedd yn ol; oblegid ni a gawn i William Roberts fyned, ar ol yr ymraniad, a'i deulu gydag ef i Drefeca, fel y gallai fwynhau helaethrwydd o foddion gras, y rhai trwy yr ymraniad oeddynt yn anamlach o lawer nag a fuasent cyn hyny. Mewn hen odyn frag, perthynol i'r Plas-bach, y bu y pregethu am rai blynyddau. Y pregethwyr, gan mwyaf, oeddynt o'r Deheudir, oblegid yr oedd y diwygiad wedi cychwyn yno er ys mwy na deng mlynedd yn ol, ac yn yr adeg hyny yr oedd amryw o weinidogion eglwys Loegr wedi ymuno â Harris a Rowlands i bregethu ar hyd y wlad, yn neillduol y ddau Williams a Howel Davies. Yr oedd hefyd un Benjamin Thomas, gŵr wedi derbyn urddau ymneillduol, yn cyd-lafurio â hwy ar y pryd; y rhai hyn, yn nghydag eraill heb urddau, megys Dafydd Williams, John Belcher, John Harris, Thomas James, ac eraill, a ymwelent â'r wlad cyn yr ymraniad; ond am ysbaid maith ar ol hyny, yr oedd y pregethu ymron wedi llwyr ddyrysu, ac felly y parhaodd gwedd yr achos Methodistaidd hyd y fl. 1760. Yr ydym, gan hyny, yn terfynu ein hanes gan mwyaf am gychwyniad Methodistiaeth, i'r adeg foreol hòno, pryd y gosodwyd sail, ond nid llawer mwy na gosod sail, yr oruwchadeilad Fethodistaidd yn Nghymru. Nid anmhriodol, er hyny, a fyddai chwanegu am y lle hwn, sef Plas-bach, ddarfod i un o feibion William Roberts aros yno, oblegid treftadaeth ydoedd; ac i bregethu gael ei lochi yno ar ol ymadawiad yr hen ŵr a'r gweddill o'r teulu, hyd nes y symudwyd y moddion i le a elwid y Graig, lle yr adeiladwyd capel bychan. Yn y capel bychan hwn, a'r unig un yn yr ardaloedd hyn, tybygid, am flynyddoedd, y byddai Williams o Bant-y-celyn, Dafydd Morris, Nathaniel Rowlands, ac eraill o'r Deheubarth, yn arfer pregethu. Torodd allan, pa fodd bynag, ryw bethau annymunol yn mysg y bobl; a symudwyd y pregethu i Lansantffraid, y lle y mae wedi aros hyd heddyw.

Nid yw yr ysgrifenydd wedi medru cael allan fod y Methodistiaid wedi cael lle i roddi troed i lawr o fewn sir Fflint, cyn yr ymraniad. Yr oedd achos wedi ei ddechreu, fel y gwelsom, yn Adwy'r Clawdd, ardal ag a gyfrifir, bellach, o fewn terfynau cwrdd misol sir Fflint; dechreuasai hefyd yn Nyffryn Clwyd, sef yr ochr ddwyreiniol o'r afon, oddeutu amser yr ymraniad; ond sir Ddinbych wladol oedd y cwbl. Yr oedd yr achos eto heb ei gychwyn yn y Berthen-gron, yr hwn, tybygid, oedd y lle cyntaf yn sir Fflint briodol. Mae y cynllun a osodasom i lawr, gan hyny, yn ein tueddu i adael sir Fflint heb gyffwrdd â hi yn mhellach, hyd y trydydd Dosbarth o'r gwaith hwn. Yr oedd rhyw ysgogiad bychan, pa fodd bynag, wedi cymeryd lle yn meddwl