Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

priodor o swydd Fflint, yr hwn ar ol hyny a fu yn bregethwr defnyddiol, sef Robert Llwyd, Plas Ashpool. Ganwyd y gŵr hwn tua'r fl 1715, ac felly nid oedd ond blwyddyn ieuangach na Howel Harris. Yr oedd yn byw, yn mlynyddoedd cyntaf ei oes, a hyd y fl. 1749, mewn tyddyn yn mhlwyf Cilcain, nid yn mhell oddiwrth dref y Wyddgrug, a elwid Tarth-y-dwfr, yn agos i balas Penbedw. Cafodd ei.droi o'r tyddyn hwn o achos ei grefydd; felly yr oedd yn adnabyddus fel crefyddwr cyn y fl. 1749. Ysgrifena gor-ŵyr iddo ataf, yr hwn sydd aelod parchus yn nghwrdd misol sir Fflint, gan ddyweyd, "Nid ydym yn gwybod pa bryd, na thrwy ba foddion y cafodd ef grefydd;—pa un ai wrth wrando rhyw un yn pregethu, ai wrth ddarllen yr ysgrythyrau, neu ryw lyfrau eraill;-pa fodd bynag am hyny, yr oedd yn adnabyddus fel gŵr crefyddol yn yr ardal hóno, tua'r fl. 1747."

Dygwyddodd yn yr adeg yr oedd Robert Llwyd mewn profedigaeth o herwydd colli ei dyddyn, fod tyddyn arall lled helaeth, a elwid Plas Ashpool, yn Nyffryn Clwyd, ar osod. Yr oedd yn anhawdd cael neb i gymeryd Plas Ashpool y pryd hyny, oblegid yr oedd yn adnabyddus, ar ba seiliau nis gwyddom, fod y tŷ yn cael ei aflonyddu gan ysbryd neu ddrychiolaeth. Yr oedd ofergoeledd y Cymry y pryd hyny yn rymus iawn; yn llawn digon, pa fodd bynaz, i lesteirio pawb ynron i anturio byw yn Mhlas Ashpool. Yr oedd yn anhawdd hefyd i Robert Llwyd gael tyddyn,—mor anhawdd efallai ag oedd i Blas Ashpool gael tyddynwr. Yr oedd yn cael ei droi allan o'i dyddyn eisoes am ei fod yn grefyddwr; a chan fod perchenogion tiroedd yr holl wlad, ymron heb un eithriad, o'r un feddwl am grefydd, ac yn llochi yr un gwrthwynebiad i'r crefyddwyr, y mae yn hawdd dirnad graddau am y brofedigaeth yr oedd y gŵr da ynddi ar y pryd. Ond os oedd ar Robert Llwyd eisiau cartref, yr oedd ar berchenog y Plas eisieu tenant; ac os oedd drwg deimlad y bobl at grefydd yn ei droi ef allan o un fferm, yr oedd eu hofergoeledd yn ei drosglwyddo i un arall -un yr oedd mor dda gan ei pherchenog iddo ei chymeryd, ag ydoedd ganddo yntau ei chael. A dyddorol i'r meddwl ystyriol ydyw canfod i'r amgylchiad hwn fod yn foddion i ddwyn Methodistiaeth i sir Fflint. Mewn dull dynol o siarad, dibyna iachawdwriaeth miloedd o ddynion yn y wlad hóno ar yr amgylchiad hwn, sef troad Robert Llwyd allan o'i dyddyn o elyniaeth at y Cradociaid, a'i dderbyniad i dyddyn arall oddiar ofn ellyllon. Dibynai dyfodiad Methodistiaeth i sir Fflint ar naws elynol meddwl un meistr tir, ac ar amgylchiad anffodus meistr tir arall. Wele, ynte, enghraifft nodedig o waith y Duw mawr yn goruwch-lywodraethu drygioni dynion. Nid yw hyn, er hyny, yn cyfiawnhau dim, nac yn lliniaru mymryn, ar ddrygnawsedd y ddynoliaeth. Angenrhaid, mae'n wir, yw dyfod rhwystrau, ond gwae, er hyny, i'r dyn hwnw trwy yr hwn y deuant. Nid oes i ni ddiolch i'r naill foneddwr am droi Robert Llwyd allan, nac i'r boneddwr arall am ei dderbyn ef i mewn, oblegid o elyniaeth at grefydd y troes un ef allan, ac o gariad ato ei hun y derbyniodd y llall ef i mewn. "Diau cynddaredd dyn a'th folianna di; gweddill cynddaredd a waherddi," Salm lxxvi, 10.