Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sbaen, a gwledydd gorllewinol Ewrop. Gwir ydyw nad oes gennym dystiolaeth ysgrythurol am ddim o'i lafur a'i deithiau rhwng ei garchariad cyntaf a'i ail garchariad. Yn unig ni a wyddom fod yn ei fryd fyned i Sbaen, (Rhuf. 15. 24,) a'i fod yn cydnabod wrth ei fab Timotheus, fod yr Arglwydd wedi sefyll gydag ef yn ei ateb cyntaf; " fel trwof fi," meddai, "y byddai'r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai'r holl genhedlodd." (2 Tim. iv. 17.) Yn chwanegol at hyn, y mae gennym dystiolaethau amryw o'r tadau, fod yr efengyl wedi ei dwyn i'r wlad hon gan rai o'r apostolion, ac i Paul ei hun fod yma.

Mae Clemens Romanus, cydymaith Paul, yn tystio fod Paul "wedi dysgu cyfiawnder i'r holl fyd, a dioddef merthyrdod ar ôl teithio i eithaf terfynau'r gorllewin;" yr hon dystiolaeth, pan y'i cysylltir â thystiolaethau Theodoret ac Eusebius, a grybwyllwyd eisoes, a'u tuedda i feddwl mai gwir ydyw'r dybiaeth, ddarfod i Paul ymweled ag ynys Prydain. Yr wyf yn addef, ar yr un pryd, fod dadleuon lled gryf yn erbyn y golygiad hwn; ac ar y cyfan, o'm rhan fy hun, tueddir fi i ddisgyn ar dystiolaeth y Trioedd, fel yr un tebycaf a sicraf o fod yn gywir.

Y mae yn eithaf adnabyddus fod y wlad hon, er pan ddarostyngwyd hi gan Julius Cesar, tua hanner can mlynedd cyn Crist, dan deyrnged i ymerawdwr Rhufain. Ond ar waith un Gwydyr, brenin Prydain, yn gwrthod talu'r deyrnged arferol yn nyddiau Claudius Cesar, torrodd rhyfel allan eilwaith. Blaenor y fyddin Brydeinaidd oedd Caradog (Caractacus), tywysog nid anenwog am ei fedrusrwydd milwraidd ; a bu yn foddion i wrthsefyll ymgyrchoedd y Rhufeiniaid am ysbaid naw mlynedd; ac oni buasai brad un Cyrtis Finddu (Carlismandua), brenhines y Brigantwys, gallasai, mae yn debygol, eu cadw draw yn lawer hwy. Y canlyniad a fu i Caradog, ei dad, sef Brân-ap-Llŷr Llediaith (King Lear, the Stammerer), a'i deulu, gael eu cludo i Rufain, yn garcharorion rhyfel. Yr oedd hyn tua'r 11. 52 neu 53. Buont yn Rhufain am saith mlynedd, hyd farwolaeth Caradog medd rhai, pryd y dychwelodd ci dad Brân i Brydain. Yr oedd Cristionogaeth ar y pryd wedi ei phlannu eisoes yn Rhufain, ac yr oedd i Fab Duw lawer o ganlynwyr yn y ddinas fawr honno, a rhai yn nheulu Cesar ei hun. Ie, fe ddichon i Paul yr apostol gyrraedd yno ryw bryd yn ystod y saith mlynedd y bu Brân a'i deulu yn wystlon yno, os cyrhaeddodd ef Rufain, fel yn wir y barna rhai, mor gynnar â'r fl. 58. Pam bynnag, y mae'r Tiroedd yn ardystio yn eglur mai Brân ap Llŷr a ddygodd yr efengyl gyntaf i'r wlad hon.

Noda'r Trioedd dri theulu bendigaid Prydain. Y cyntaf oedd teulu Brân ap Llŷr Lleciaith, am mai trwyddo ef yn gyntaf y dygwyd yr efengyl i'r ynys hon. Yr ail deulu bendigaid oedd yr eiddo CUNEDDA, yr hwn a ganmolir am mai efe a roes gynhaliaeth gyfreithiol a thiroedd i ddal crefydd i fynnu. Y trydydd oedd teulu BRECIAN, tywysog Brycheiniog, am y gofal a gymerodd i ddwyn ei blant a'i wyrion i fyny yn grefyddol, modd yr addysgent hwythau eu cydwladwyr tywyll yng nghrefydd Crist. Mae tystiolaeth y TRIOEDD am Bran yn cael ci chadarnhau yn y llyfr a elwir