Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ACHAU'R SAINT. Mewn un man dywedir, mai BRAN oedd y cyntaf o genedl y Cymry a gofleidiodd Gristionogaeth; ac mewn man arall dywedir, mai efe oedd y cyntaf a ddygodd y ffydd Gristionogol i'r wlad hon. Yn y llyfr bychan hwn, ACHAU'R SAINT, y crybwyllir enwau'r gwŷr a ddug Brân gydag ef, i'r wlad hon, fel cenhadon i bregethu'r efengyl, sef ILID, CYNDAF ac ARWYTLI HEN; y cyntaf ohonynt yn Israeliad, a'r ddau eraill yn genedl-ddynion.

Nid ymddengys oddi wrth y TRIOEDD fod holl deulu Caradog wedi cofleidio Cristnogaeth yn Rhufain; na chwaith ddarfod iddo ef ei hun wneud hynny; ond fe grybwyllir fod iddo fab a merch yn Gristionogion enwog fel ei dad. Enw ci fab oedd CYLLIN, ac enw ei ferch oedd EIGEN. O herwydd i Brân fod yn offerynnol i ddwyn yr efengyl i'r wlad, cafodd ei gyfenwi Brân Fendigaid, yr hwn, gyda LLEIRWG (Lucius) a CADWALADR, oeddynt dri thywysog bendigaid y Cymry.

Mae amgylchiad arall teilwng o sylw, yr hwn hefyd a grybwyllir gan arch- esgob Usher, ac esgob Godwin. Mae Paul yn 2 Tim. iv. 21, yn crybwyll am Pudens, Linus, a Claudia, fel rhai yn anfon annerch at Timotheus. Tybir mai'r Linus hwn oedd esgob cyntaf Rhufain, ac mai'r un oedd Pudens a Claudia a'r rhai y canodd y bardd Martial ar eu priodas. Sicr yw mai Cymraes oedd y Claudia y cyfeiria'r bardd ati; ond pa un ai'r un oedd hon a'r un y cyfeiria Paul ati, a allai fod yn destun dadl. Mae'r archesgob Usher yn gryf mai'r un ydoedd, a dywedir mai Gwladys Gruffydd oedd ei henw priodol, ac mai merch Caradog ydoedd, a'r gyntaf o'r teulu a gofleidiodd grefydd Crist; ac mai trwyddi hi, mewn rhan, y dygwyd ei thaid ac eraill o'i theulu, i'r ffydd. Ym mhellach, ni a gawn yn ysgrifeniadau'r Groegiaid fod un Aristobulus wedi cael ei anfon i Brydain, lle y llafuriodd lawer, y bu yn foddion i ddychwelyd llawer i'r ffydd, ac yn y diwedd y bu farw. Dywedir hefyd mai brawd Barnabas ydoedd, ac iddo fod yn gydymaith i Paul yn ei deithiau. Mae cysoned dywediadau'r Groegiaid am Aristobulus, ac eiddo'r Trioedd am Arwystli Hen, yn nodedig iawn; yn enwedig pan gofiom fod y naill awdur yn anadnabyddus o'r llall. Ar y cyfan, y mae lle cryf i feddwl, fod Aristobulus yn un o'r cenhadon boreaf a osododd ei droed ar yr ynys, a hynny dan nawdd tywysogion Cymru.

Nid oes hanes gennym am y moddion a ddefnyddiwyd i ledaenu Cristionogaeth o fewn yr ynys, na pha faint o lwyddiant a ddilynodd lafur y cenhadon boreol hyn. Fe ddywed Gildas, mai derbyniad lled oeraidd a gafodd, ar y cyntaf, gan y brodorion. Tebygol hefyd fod yr anhawster a deimlid i synhwyro'r naill ran o'r wlad i'r llall, o ddiffyg ffyrdd-yr eiddigedd a fyddai rhwng tywysogion y gwahanol daleithiau a'u gilydd-y gwahaniaeth iaith ag oedd rhwng y Cristionogion a ddaethai drosodd o Rufain a'r brodorion-y terfysgoedd diddiwedd gan ryfeloedd yr ymlyniad cryf ag oedd gan y Brythoniaid wrth eu hen ofergoelion--a'r llygad eiddigus a drwgdybus a wneid gan lywodraeth Rhufain ar y grefydd newydd hon ;-tebygol, meddaf, fod hyn oll yn cyd-effeithio er atal ei lwyddiant. O'r ochr arall, yr oedd llafur a sêl y