Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cristionogion cyntefig mor fawr, eu hysbrydoedd mor fwynaidd, a'u bucheddau mor gywir, yn gwahaniaethu cymaint oddiwrth yr eiddo y paganiaid o'u hamgylch, fel y gallem ddysgwyl fod effeithiau grymus yn dylyn eu hymdrechion. Yr oedd hefyd yn fanteisiol iawn i'w derbyniad gan y bobl, ei bod yn cael ei dwyn i'r wlad gan deulu Caradoc, yr hwn a berchid mor fawr ganddynt; heblaw y gallem ddysgwyl fod yr addewid yn cael ei gwirio gan yr Hwn a ddywedasai am ei air, "Ni ddychwel ataf yn wag, eithr efe a wna yr hyn a fynwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegid."

Tua chanol yr ail ganrif, sef tua'r flwyddyn 156, y dywedir i ni gan Bede fod y brenin Lles—ap—Coel (Lucius) wedi anfon cenadau, Elfan a Medwy, i Rufain at yr esgob Eleutherius, i erchi ganddo anfon gwŷr cymhwys i'w ddysgu ef a'i bobl yn nghylch y ffydd yn Nghrist; mewn atebiad i'w gais, fod dau ŵr o'r enw Dwyfan a Ffagan wedi eu hanfon; yn y canlyniad, fod y brenin wedi cael ei fedyddio; fod ei holl ddeiliaid wedi canlyn ei ol; ac i'r temlau a berthynent gynt i eilunaddoliaeth, gael eu cysegru bellach i addoliad y gwir Dduw, ac i'w saint ef. Mae yr hanes hon, er fod rhyw sail iddi, wedi ei gorliwio, ac wedi ei gosod allan mewn goleu ag a fyddai fwyaf cydsyniol â honiadau eglwys Rhufain. Nid oes dim annghredadwy ddarfod i'r tywysog enwog Lles, neu yn hytrach Lleirwg—ap—Coel—ap—Cyllin—ap—Caradoc, wedi cofleidio Cristionogaeth ei hun, ddangos parodrwydd i'w noddi a'i lledaenu; ddarfod iddo ddyrchafu ei gweinidogion uwchlaw tlodi a gwaradwydd; a bod yn mhob modd yn dadmaeth iddi. Nid annhebyg chwaith ydyw iddo anfon i Rufain, i erchi am gynorthwywyr i'r gweinidogion ffyddlawn ag oedd yn y wlad eisoes. A phaham i Rufain?—ond am mai oddiyno y daethai yr efengyl i'r wlad ar y cyntaf. Nid am yr addefid trwy hyn uchafiaeth esgob Rhufain, er y mynai rhai ysgrifenwyr i'r byd feddwl hyny; ond am mai naturiol iawn oedd iddo anfon i'r unig le (fe allai) adnabyddus iddo y buasai yn debyg o lwyddo.

Mynai yr hanesydd pabaidd, yn y British Chronicle, i ni feddwl fod Lleirwg yn frenin ar holl Frydain, pryd nad oedd ond tywysog ar ran o honi―y dalaeth rhwng Hafren a'r Wy, a elwid Siluria;—mynai i ni goelio mai dyma'r pryd y dygwyd yr efengyl gyntaf i'r wlad, a bod yr holl drigolion y'mron, ac megys ar unwaith, wedi eu dychwelyd i'r ffydd;—mynai i ni goelio hefyd, fod y wlad wedi ei rhanu trwy awdurdod esgob Rhufain, bid siwr, yn wyth esgobaeth ar hugain, a bod tri archesgob wedi eu creu, i ba rai yr oedd yr holl esgobion yn ddarostyngedig;—haeriad na raid ond ei hysbysu er i bawb weled y ffynnon y tarddodd o honi.

Nid oes genym nemawr ddefnyddiau am hanes Cristionogaeth yn y wlad hon am ysbaid can mlynedd a mwy, ar ol yr hyn a grybwyllwyd uchod. Gwyddom yn dda pa mor arswydus a fu yr erlidigaethau ar y Cristionogion, trwy yr holl daleithiau, o dan amherawdwyr Rhufain, yn yr ail a'r drydedd ganrif; ac nid oes genym un lle i feddwl na ddyoddefodd y Cristionogion yn Mhrydain, i ryw raddau, fel taleithiau eraill; eto, ni a gawn eu bod wedi dianc rhag grym mwyaf y ddegfed erlidigaeth dan Dioclesian a Galerius, trwy fod ur. Carausius wedi codi yn erbyn llywodraeth Rhufain yn y wlad hon, a