chadw y llywodraeth yn ei law ei hun am saith mlynedd; a phan yr ennillodd y Rhufeiniaid yr uchafiacth eilwaith, yr oedd y rhan orllewinol o'r amherodraeth wedi disgyn i ddwylaw Constantius Chlorus, tad Cwstenyn Fawr. Yr oedd Constantius yn ŵr o naws dynerach, ac o iechyd gwanaidd; ac wedi iddo gael yr awdurdod penaf yn ei law ei hun, liniarodd lawer ar yr erlidigaeth; ac ar ei ol ef y daeth ei fab Cwstenyn Fawr i'r orsedd, yr hwn a roes derfyn bythol ar erlidigaeth oddiwrth baganiaid.
Tra yr oedd Constantius yn gorwedd yn glaf yn Nghaerefrog (York), diangodd ei fab Cwstenyn o Rufain, a chyrhaeddodd Brydain cyn i'w dad farw. Mae cryn ddadlu wedi bod mewn perthynas i fam Cwstenyn, a'i lle genedigol; rhai yn hóni yn eofn iawn mai merch Coel—ap—Cyllin oedd hi, ac felly yn chwaer i Lleirwg, ac yn or—ŵyres i Caradoc. Myn y rhai hyn mai yn Mhrydain y ganwyd Cwstenyn; ond wedi chwilio y ddwy ochr, medd awdwr yr HORE BRITANICE, y mae yn rhaid addef fod tywyllwch ac amheuaeth yn gorwedd ar y mater, fel na ellir bod yn hyderus.
Yn oes Cwstenyn tywynodd haul llwyddiant ar yr eglwys Brydeinaidd. Adeiladwyd addoldai gwychion—codwyd gweinidogion yr efengyl i fri—gosodwyd urddas ar eu swydd—a chwanegwyd at eu cyflogau. Eto, nid oes i ni feddwl fod crefydd, o ran ei phurdeb a'i hysbrydolrwydd, yn cyfateb i wychder ei hamgylchiadau. Yn fynych yn y gwrthwyneb y mae wedi bod. Yr amser poethaf oedd yr amser puraf. Felly yr ochr arall; y tymhor mwyaf hafaidd oedd y tymhor mwyaf llygredig—yr adeg y tyfai mwyaf o chwyn, ac yr ymddangosai mwyaf o greaduriaid gwenwynig. Yn yr adeg hon lliosogwyd llawer ar ffurfiau crefydd, a chollwyd, gan hyny, y symledd diaddurn a berthynai i addoliad y Cristionogion yn ei amser puraf. Rhoddwyd gwedd o wychder ar yr addoliad Cristionogol, i'r dyben, meddai y rhai mwyaf eu hawydd am dano, i ennill y paganiaid i'w chofleidio. Yr oedd yma hefyd arwydd diymwad o'u bod wedi eu llithio oddiwrth "y symlrwydd sydd yn Nghrist." Yn lle dibynu ar eglurhad y gwirionedd i'w ganmawl ei hun wrth eu cydwybodau, a dysgwyl wrth nerth yr Ysbryd i ennill eu calonau i'w garu, troisant at ffurfiau gweigion, ac ymddangosiadau coegaidd. Nid ydym yn cael fod Cristionogion Prydain wedi llithro eto i'r un graddau o ofergoeledd a Christionogion Itali, a gwledydd y dwyrain; eto, y mae yn ymddangos fod rhai o'r wlad hon i'w cael yn mhlith y pererinion a ymwelent â Jerusalem, a bod meudwyaeth wedi cael gormod o achles i roddi ei throed i lawr. Yr oedd Derwyddiant hefyd, hen grefydd baganaidd y brodorion, eto heb lwyr farw. Er ei hannghefnogi gan y Rhufeiniaid, a'i gwarthruddo trwy oleuni pur yr efengyl, eto yr oedd iddi rai, yn enwedig yn mharthau dystaw a phellenig y wlad, yn ymlynu wrthi. Nid oedd dysgeidiaeth ŵyrgam y Derwyddon ddim wedi syrthio i ddirmyg gyda phawb, na'r Derwyddon eu hunain wedi llwyr golli eu dylanwad. Nid oes hanes chwaith am neb yn y tymhor hwn yn dwyn mawr sel dros Arglwydd y lluoedd. Diflanodd yr oes gyntaf o Gristionogion, a chyfododd oes arall, yr hon ni welsai gynifer o weithredoedd yr Arglwydd, ac ni phrofasai gymaint o'i gymdeithas.