Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth i ni son am esgobion yn y tymhor bore hwn ar yr eglwys, y mae yn angenrheidiol i ni ochelyd eu cyffelybu i esgobion oesoedd diweddarach; ac yn enwedig i esgobion ein hoes a'n gwlad ein hunain. Nid ydynt yn gyffelyb ond yn yr enw yn unig. Esgob yn y ganrif gyntaf a'r ail oedd unrhyw weinidog yr efengyl a arolygai gynulleidfa eglwysig, gan weini iddynt mewn pethau ysbrydol. Yr oedd y gynulleidfa, neu yr eglwys, yn fynych yn ddim mwy y pryd hyny nag a gynwysid mewn tŷ anedd. Yn y gynulleidfa hon y llafuriai, nid gydag awdurdod arglwydd, ond gyda diwydrwydd gwas. Nid oedd ganddo awdurdod, ac ni ddewisai gael chwaith ond oedd gyson â "gwylio dros eneidiau dynion;" eto, buan iawn yn oes Cristionogaeth, yn enwedig dan wenau llwyddiant daearol, y collwyd y symlrwydd cyntefig, ac y gŵyrwyd at ofer sefydliadau. Nid dyma'r fan a'r pryd i olrhain y modd y daeth yr urdd a elwir yn awr esgobion i gael lle yn yr eglwys Gristionogol; digon ar hyn o bryd fydd dyweyd, mai esgob gynt oedd yr un a gweinidog neu bregethwr yr efengyl yn awr. Nid oeddynt yn ymhòni un gradd o awdurdod ar eu gilydd, mwy nag oedd y naill apostol ar y llall. Dichon fod duwioldeb, defnyddioldeb, a doniau gweinidogaethol y naill yn rhoddi iddo ddylanwad mwy yn mhlith ei frodyr nag eraill, eto yr un oedd y swydd.

O ddyddiau Cwstenyn, medd esgob Stillingfleet, y dechreuodd eglwysi Prydain flodeuo: o'r blaen yr oeddynt dan gryn helbul. Yr oedd llywiawdwyr y taleithiau yn enwedig, a'r bobl yn gyffredinol, cyn amser Constantius, yn gosod eu hwynebau yn erbyn Cristionogaeth, ond lliniarwyd llawer ar hyn trwy dynerwch Constantius, er nad oedd ef yn Gristion ei hun; a phan y daeth ei fab Cwstenyn i'r awdurdod, chwanegwyd at eu rhyddid a'u bri. Yn y fl. 314, ni a gawn fod tri chenad o'r enw IFOR, RHYSTYD, a BRAWDOL wedi eu hanfon i gynrychioli eglwysi Prydain yn nghymanfa Arles. Nid oes genym ond dyfaliad fod cenadau o'r wlad hon yn nghymanfa Nice yn y fl. 325, ond nid oes hysbysiad am hyny. Y mae yn naturiol i ni feddwl fod, gan fod gorchymyn yr amherawdwr yn gaeth ar fod y gynadledd hòno yn gyflawn. Y gwir ydyw, mai ychydig iawn o hanes credadwy sydd genym am ansawdd crefydd yn y tir y pryd hwn, nac ar ol hyn, hyd nes i heresi Morgan beri cyffro trwy yr holl fyd crefyddol.

Tua chanol y ganrif hon, sef y bedwaredd, y cawn hanes am un Cybi, mab i frenin Cornwall. Dywedir i hwn, wedi byw yn grefyddol iawn am ugain mlynedd gartref, fyned i Ffrainc at Hilary, esgob Poietiers; ei fod, trwy ennill wyneb yr esgob, wedi cael ei ordeinio ganddo, ac iddo wasanaethu fel cynorthwywr iddo hyd farwolaeth yr esgob; ac yna, iddo ddychwelyd i'w wlad; ei fod, o herwydd trallodion ei wlad, ac amgylchiadau gofidus yn ei deulu, wedi gadael ei gartref drachefn, a dod yn gyntaf i Dy Ddewi; a thrachefn iddo fyned i'r Iwerddon, ac yn mhen pedair mlynedd ddyfod trosodd eilwaith, ac ymsefydlu yn Nghaergybi. Dywedir hefyd fod tywysog Môn, o dosturi at ei dlodi, wedi ei anrhegu â chastell ag oedd yn y gymydogaeth; a darfod sefydlu mynachlog fechan o fewn y castell; a galw y lle oddiar hyny yn Cór Cybi, gan olygu y fynachlog, neu Caer Cybi, gan olygu y castell. Dywedir