Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd fod rhyw ŵr da arall o'r enw Seiriol, yr hwn oedd yn byw, meddant, gerllaw Beaumaris, yn y parth dwyreiniol o'r ynys, fel yr oedd Cybi yn y gorllewin; a bod y ddau ŵr da hyn yn arfer cyfarfod â'u gilydd mewn lle a elwid Clorach, gerllaw Llanerchymedd. Ac oddiar fod Seiriol yn cyniwair tua'r gorllewin yn y boreu, ac i'r dwyrain y prydnawn wrth ddychwelyd, a Chybi yn y gwrthwyneb, cododd yr hen air—

"Seiriol wyn a Chybi felyn;"

oddiar fod un yn wynebu'r haul, a'r llall yn cefnu arno.

Yn y bumed ganrif y bu y cyffro yn achos heresi Morgan, neu Pelagius. Mae gradd o ansicrwydd am ei le genedigol ef. Dywedir gan rai mai brodor ydoedd o Fangor Is y Coed, neu o ryw ran o Ogledd Cymry; eraill, mai Deheudir Cymry; a hóna rhai, mai bro Morganwg oedd ei le genedigol. Sicr ydyw, pa fodd bynag, mai mynach Cymreig ydoedd. Gelwid ef Morgan yn Gymraeg, a Phelagius yn Lladin, y ddau enw o'r un ystyr, yn arwyddo, perthynol i, neu gerllaw, y môr. Aeth Pelagius i Rufain, a chyfarfu yno ag un Celestius, gŵr o âch Ysgotaidd, ond genedigol o'r Iwerddon, yr hwn a fu yn gydymaith iddo yn ei deithiau, yn ddysgybl iddo yn ei heresi, ac yn gynorthwywr iddo yn ei lledaeniad.

Teithiodd Morgan lawer iawn; a sicr yw, ei fod o alluoedd cryfion ac o gymeriad diargyhoedd, ond o wedd corfforol lled afluniaidd, gwddf-fraisg, ysgwyddgam ac unllygeidiog. Yr oedd ei ddysgeidiaeth yn ei dymhor yn ehelaeth, ond ei egwyddorion yn dra gwyrog, y rhai a amddiffynai, nid gyda gwyneb agored, ac â geiriau ammwysaidd, ond mewn modd ag a sawriai yn drwm o ddichell ac ystryw. Dechreuodd yr heresi hon ymddangos tua'r fl. 404 neu 405, a pharodd gyffro mawr a gofidus trwy holl wledydd cred. Dywed Mosheim fod y ddau fynach, Pelagius a Celestius, yn hòni, "Fod yr athrawiaeth a dderbynid yn gyffredinol am lygriad y natur ddynol, a'r angen am ras Duw i agor y deall a phuro y galon, yn attalfa i gynydd mewn santeiddrwydd a rhinwedd, ac yn tueddu i sïo dynolryw mewn tawelwch gau a pheryglus. Hònent fod y syniadau hyny mor gau ag oeddynt beryglus; mai i'n rhieni cyntaf yn unig y cyfrifid eu pechodau, ac nid i'w hiliogaeth; nad ydym ni yn llygredig trwy eu cwymp hwy, ond y genir ni mor bur a difrychau ag y daeth Adda o ddwylaw ei Greawdwr; fod dynolryw, gan hyny, yn alluog i edifarhau a diwygio, ac i gyrhaedd y graddau uchaf o dduwioldeb a rhinwedd, trwy ddefnyddio eu cyneddfau a'u galluoedd naturiol eu hunain; fod gras allanol, yn wir, yn angenrheidiol i ddeffro eu hymdrechion, ond mai afreidiol iddynt ydyw cynorthwyon tufewnol Ysbryd Duw."

Mi feddyliwn fod y crynodeb uchod o syniadau priodol Morgan wedi eu gosod gerbron gan Dr. Mosheim mewn gwedd llawn mor ddiniwed ag y teilyngent. Mewn cynadledd eglwysig a gynaliwyd yn Carthage yn Affrica, lle yr oedd 214 o esgobion, condemniwyd y syniadau; mewn canlyniad, condemniwyd hwy gan eglwysi cred yn gyffredinol, yn y dwyrain a'r gorllewin. Nid oes nemawr o son am Pelagius ei hun byth ar ol hyn. Dichon ei fod