Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bellach wedi colli ei rym a'i fywiogrwydd gan oedran; neu ynte, ddarfod iddo weled yn oreu ymostwng i'r ddedfryd a roddwyd arno, a galw yn ol y syniadau a gyhoeddasai, rhag ei alltudio o'r amherodraeth, yn ol deddfau y ddau amherawdwr Honorius a Theodosius.

Yr oedd dechread y ganrif hon, sef y bumed, yn nodedig am y terfysgoedd gwladol yn Mhrydain, yn gystal ag am yr ymrysoniadau crefyddol. Bu y Brythoniaid yn llwyddiannus i fwrw ymaith am byth yr iau Rufeinig, ac i wrthdaro, yn effeithiol am dymhor, ymgyrchion y barbariaid gogleddol ar eu gwlad; ond teimlent eu hunain yn annigonol i wrthweithio lefain Morganiaeth allan o'u heglwysi, heb anfon i Ffrainc am gynorthwy. A hyn hefyd a wnaethant. Cymerwyd eu cais i sylw mewn cymanfa yn Ffrainc, a sefydlwyd ar ddau ŵr, Garmon a Lupus, i fyned trosodd i Frydain, er mwyn llethu yr heresi ag oedd yn terfysgu yr eglwysi. Wedi eu dyfodiad yma, dywedir i'r ddau ŵr hyn ymosod at eu gwaith o ddifrif; a'r fath ydoedd eu llafur, eu medrusrwydd a'u llwyddiant, nes oedd y bobl yn gadael eu hathrawon heresiaidd, ac yn dychwelyd yn finteioedd at eu syniadau cyntaf; a'r pregethwyr heresiaidd hwythau yn cilio mewn cywilydd allan o sylw. Gwelodd rhai o honynt yn angenrheidiol i gyfarfod â'r ddau ŵr da mewn dadleuaeth gyhoeddus. Cyfarfuant yn Verolam neu St. Alban, a chynaliwyd y ddadl ar g'oedd y bobl, eu gwragedd a'u plant. Y fath oedd grym a hyawdledd Garmon a Lupus, a'r fath gysonedd a ddangosid yn eu syniadau â'r ysgrythyrau, fel nad allai eu gwrthwynebwyr eu gwrthsefyll na'u gwrthateb. Cafodd y gwirionedd fuddugoliaeth nodedig, a chafodd Morganiaeth ei darostwng yn ngolwg yr holl wlad. Amddiffynai y Morganiaid eu syniadau trwy ymresymiadau philosophaidd; ond Garmon a Lupus trwy ymadroddion ysgrythyrol, a thrwy eiriau eglur a diaddurn.

Hwyrach y dylid crybwyll yn y lle hwn (a gadael i'r darllenydd farnu yr amgylchiad fel y byddo yn dewis,) am y fuddugoliaeth a ddywedir ei chael yn Maes Garmon, lle yn agos i'r Wyddgrug, Swydd Fflint. Yr oedd y Brithwyr a'r Saeson y pryd hwn yn anrheithio y wlad. Daeth llu o honynt i'r parth lle yr oedd Garmon a Lupus yn dysgu y bobl ac yn eu bedyddio. Deallodd y gelynion nad oedd y Cristionogion yn gwneyd un parotoad milwraidd i'w gwrthwynebu, a bwriadent syrthio arnynt tra y byddent yn addoli. Safodd Garmon, meddant, gyda rhyw nifer detholedig o wŷr, mewn lle cyfyng, rhwng bryniau a chreigiau, gan ddysgwyl y gelynion. Ar ddyfodiad y Brithwyr a'u llu i'r lle, gorchymynodd i'w ganlynwyr ymuno gydag ef i waeddi ALELUIA, dair gwaith â llef uchel. Hyn a wnaethant, nes oedd y bryniau a'r creigiau oll yn adsain. Ar hyn, disgynodd braw aruthrol ar y gelynion; tybiasant fod Duw y Cristionogion yn dwyn arnynt y mynyddoedd a'r creigiau i'w llethu, am aflonyddu arnynt yn ei addoliad ; bwriodd rhai eu harfau i lawr, a ffôdd eraill yn ddychrynedig; ac yn eu brys boddwyd lliaws mawr o honynt yn afon Alun. Yr ydwyf yn addef fod yma wedd anhygoel ar yr hanes, am ei bod yn rhy debyg i chwedlau ofer y mynachod pabaidd; eto, pan ystyriwn ofergoeledd yr oesoedd hyny, sefyllfa