Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr arolygiaeth dosbarthiadol. Hyn sydd sicr, mai arolygiaeth cyson ac effeithiol Harris oedd prif nerth y peiriant. Efe oedd yr arolygwr cyffredinol. Byddai ef yn bresenol yn mhob cyfarfod misol a chwarterol. Ymwelai gyda diwydrwydd a chyflymder anarferol â'r cynulliadau eglwysig trwy Gymru a Lloegr. Mae agos yn anghredadwy pa fodd y gallai wneyd hyny, pan yr ystyriom yr holl anhawsderau ag oedd yn nglŷn â theithio y pryd hyny; eto, er pob anhawsder, yr oedd yr arolygwr cyffredinol i'w gael yn mhob man, yn bresenol yn mhob cyfarfod cyhoeddus,—yn barod i wynebu pob perygl, i gyflawni pob caled-waith, ac yn calonogi â'i bresenoldeb, ei gynghorion, a'i esiampl, y milwyr ieuainc i ddyfod yn mlaen yn wrol ac egniol yn erbyn y gelyn mawr. Os fel hyn yr oedd, gallem ddyfalu mai llesgâu a wnai y beiriandrefn ar waith Harris yn cilio o'r neilldu, mewn canlyniad i anghydwelediad rhyngddo â'i frodyr. Cymerodd hyny le yn gyhoeddus a llwyr, fel y cawn sylwi eto yn mlaen, yn y fl. 1751, ac yr oedd y camddeall a'r oerfelgarwch wedi dechreu dymhor cyn hyny, fel ag y mae y casgliad yn ymgynyg yn gryf arnom, mai ymadawiad Harris a roes ddyrnod angeuol, ymron, i̇'r drefn a osodasid i fyny yn benaf trwy ei waith a'i ddiwydrwydd ef.

Naturiol ydyw gofyn, wrth edrych i mewn i waith yr arolygwyr, pa fodd y gallent ei gyflawni heb roi heibio bob gorchwyl arall? ac os rhoddent heibio eu galwedigaethau, naturiol, eilwaith, ydyw ymofyn, pa fodd y derbynient eu cynaliaeth? Nid yw hen ysgrifion Trefeca wedi dweyd nemawr ddim ar hyn. Mae cryn raddau o ddirgelwch yn aros uwchben y mater hwn. Dywedir yn amlwg, pa fodd bynag, fod i'r cynghorwyr anghyhoedd ddylyn eu galwedigaethau; a bod rhyddid iddynt fod yn bresenol yn y cyfarfodydd chwarterol, a misol, os dewisent; ond ni osodid gorchymyn arnynt. Eithr am yr arolygwyr, yr oedd y ddeddf yn gaeth yn hyn. Dysgwylid eu bod hwy yn bresenol yn nghyfarfod misol eu dosbarth, ac yn nghymdeithasfa chwarterol y corff, neu reswm boddhaol yn cael ei roddi am eu habsenoldeb. Pâr hyn i ni feddwl nad oeddynt hwy ar yr un tir a'r brodyr eraill. Casglwn eu bod hwy yn ymddyosg oddiwrth alwedigaethau bydol, mewn rhan neu yn hollol, ac felly fod iddynt gynaliaeth gyfatebol.

Cyfarfyddwn â phenderfyniad fel hyn wedi ei basio yn nghymdeithasfa fisol Dygoedydd, Mai 25, 1743:—"Ar fod cist yn mhob cymdeithas, dan ofal un neu ddau oruchwyliwr, i dderbyn casgliadau wythnosol tuag at achos Duw, ac i bob cynghorwr anghyhoedd gadw llyfr yn cynwys enw pob un dan ei ofal, ac i'r llyfr hwnw gael ei ddwyn i bob cymdeithasfa chwarterol, yn nghydag unrhyw swm o arian a ellid ei hebgor yn ol cydsyniad eu heglwysi, tuag at achosion cyhoeddus."

Ymddengys wrth y penderfyniad hwn, fod casgliadau yn cael eu gwneuthur yn y cymdeithasau bychain y pryd hyny: ymddengys hefyd nad oedd nemawr o gostau yn disgyn ar y cymdeithasau, ond y draul gysylltiedig â'r weinidogaeth. Nid oedd eto gapelau wedi eu codi, na chymdeithasau beiblaidd na chenadol yr unig draul, gan hyny, a ddisgynai arnynt oedd traul y weinidogaeth. Hawdd ydyw casglu mai ychydig a ellid ei wneyd mewn ffordd o