Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfranu y pryd hyny. Nid oedd nifer yr holl aelodau yn llawer, ac yr oedd amgylchiadau y nifer fwyaf o honynt yn isel, fel nad allent gyfranu llawer; er nad oes amheuaeth chwaith, gan faint oedd brwdfrydedd eu cariad cyntaf, nad oeddynt yn barod o honynt eu hunain i wneuthur yn ol eu gallu, ac uwchlaw eu gallu, mewn rhoddi a chyfranu. Mae llythyr John Richard, un o'r arolygwyr, yn rhoddi ychydig o oleuni ychwanegol ar foddion cynaliaeth yr arolygwyr, yn enwedig wrth edrych arno mewn cysylltiad â phenderfyniad y gymdeithasfa, a wnaed gyda golwg ar y brawd hwnw. Dyfyniad o'r llythyr crybwylledig sydd fel hyn:

"Yr wyf wedi bod mewn cryn gyfyngder y chwarter diweddaf hwn, fel na bum yn abl i ymweled â'r cymdeithasau fwy na dwywaith yn ystod y tri mis, oblegid fy afiechyd fy hun, ac afiechyd fy ngwraig; ac hyd yma, y mae yn gyfyng ar fy amgylchiadau, i mi allu myned o amgylch, eto trwy drugaredd yr wyf yn rhydd yn fy ysbryd i fyned, os hyny fydd er gogoniant i Dduw ;— ni adawodd Duw fod arnaf eisieu dim er pan ymdaflais i freichiau ei ragluniaeth; felly pe gofynid i mi, A fu arnat ti eisieu dim? gallwn ateb gyda'r dysgyblion, 'Naddo ddim, Arglwydd.'"

Yn y gymdeithasfa nesaf, darllenwyd y llythyr uchod, a phenderfynwyd, "Fod y brawd John Richard i barhau i fyned yn ei gylch fel arferol hyd y gymdeithasfa nesaf; ac yn y cyfamser, fod Mr. Harris i ymweled â'r eglwysi dan ei ofal (sef dan ofal John Richard), gyda golwg ar iddynt ddwyn ffrwyth iddo."

Cawn benderfyniad arall yn dwyn cysylltiad â hyn, a basiwyd yn Nhrefeca, Hydref 18, 1744,-"Fod i'r brodyr annog y bobl yn egniol i rodio yn addas, ac i ddwyn ffrwyth, gan fod cŵyn cyffredinol o herwydd y diffyg o hyn."

Oddiwrth awgrymiadau bychain o'r fath hyn, yr ydym yn cael lle i benderfynu fod yr arolygwyr a elwid gan y gymdeithasfa i lwyr ymroddi at wasanaeth yr achos, yn derbyn eu cynaliaeth mewn rhan, neu yn hollol, trwy gyfraniadau gwirfoddol y cymdeithasau, fel ffrwyth eu cariad at yr efengyl. Fod y gynaliaeth a dderbynid ar y goreu yn fychan a phrin, nid oes amheuaeth genym chwaith. Nid oedd nifer nac amgylchiadau y dysgyblion ieuainc yn rhoddi lle i ni feddwl y gallai fod eu cyfraniadau, er maint eu ffyddlondeb, yn ddim amgen.

Yr oedd yn beth hynod, gan faint oedd ymlyniad y tadau hyn, o leiaf ar y dechreu, wrth eglwys Loegr, pa fodd yr oedd gweinidogion ymneillduol yn ymgymysgu cymaint â hwy, ac yn cael eu derbyn i'w cymdeithasfaoedd. Felly, modd bynag, yr oedd y ffaith, gan nad pa gyfrif a roddid am hyny. Yr oedd o leiaf ddau ŵr wedi derbyn ordeiniad ymneillduol yn cydweithredu â'r Methodistiaid boreuol hyn, sef y Parch. Benjamin Thomas, a'r Parch. Henry Davies. Ymddengys, ar yr un pryd, fod cryn eiddigedd yn aros yn mynwesau ein sylfaenwyr, rhag fod dim yn cael ei ddweyd na'i wneyd yn ddiraddiol i'r sefydliad gwladol. Pa un a godai hyn oddiar ryw gallineb a gofal rhag chwanegu y rhagfarn ag oedd eisoes yn gryf yn eu herbyn, ai oddiar