Callineb, ynte, dan y fath amgylchiadau, oedd i'r hen Fethodistiaid droi allan i bregethu o dan faner eglwys Loegr, ac ardystio yn gyhoeddus, mai ceisio yr oeddynt gael diwygiad ynddi, ac nid ysgariaeth oddiwrthi. Nid oes un amheuaeth chwaith genyf, nad oedd y broffes hon o'r eiddynt yn ddihoced a didwyll. Yr oedd y tadau Methodistaidd, fel y dywedwyd yn fynych, fel mae dynion yn gyffredin, dan radd o ddylanwad addysgiad ac ymarferiad boreu eu hoes, ac effaith dygiad i fyny; a naturiol oedd iddynt benderfynu na chai neb sail teg i'w cyhuddo o fod yn ymneillduo oddiwrthi o ddewisiad, neu oddiar fympwy direol, ond megys o raid, os rhaid a fyddai. Eithr ar yr un pryd, addefent, fod yn ddichonadwy y gallai amgylchiadau gyfodi a roddai arnynt angenrheidrwydd i wneyd yr hyn na fynent cr dim ei wneyd o wir ddewisiad, sef ymneillduo; a thystient yn groyw, na chai ymlyniad wrth hen sefydliad, nac awydd i ymostwng i uchraddiaid, eu gorchfygu, fel ag i lychwino eu cydwybodau, na rhoddi heibio y gwaith y cawsent arwyddion mor ddiymwad o foddlonrwydd Duw iddo.
Ymddengys i mi, wedi y cwbl, nad oedd undeb Methodistiaeth ag eglwys Loegr yn yr amser nesaf ati, ond arwynebol ac mewn enw yn unig; ie, a bod elfenau ymneillduaeth yn hanfodol yn yr ysgogiad cyntaf, er cymaint a broffesid yn y gwrthwyneb. Yr oedd elfenau ymneillduaeth yn gorwedd yn ddwfn, pryd yr oedd y cydffurfiad yn fwy arwynebol; ac fel yr oedd yr ysgogiad yn cerdded yn mlaen, teimlwyd yn fwy effeithiol oddiwrth ddylanwad yr egwyddorion gwreiddiol, pryd y teimlid llai-lai, o bryd i bryd, oddiwrth y broffes allanol. Yr oedd gwaith Howel Harris yn myned o amgylch y wlad i bregethu, heb ei awdurdodi a'i urddo gan esgob, yn afreolaidd, ac anghanonaidd, yn ol trefniadau yr eglwys y proffesai ef ei hun yn aelod o honi. Yn neillduol yr oedd ymgorffori, fel y gwnaed yn y fl. 1742, yn gyfundeb o bobl; i osod swyddogion, ac i chwilio i'w cymhwysderau; i benderfynu ar drefniadau a rheolau i ysgogi wrthynt; a hyny heb un math o ymgynghoriad ag esgobion y gwledydd; yn ymhoniad o hawl nad yw eglwys Loegr erioed eto wedi ei ganiatâu i neb ond i'r sawl a ymneillduasant oddiwrthi. Cam pellach mewn enciliad drachefn oedd adeiladu capelau, a chyd-bregethu ynddynt â'r rhai diurddau. Addefir fod syniadau athrawiaethol y diwygwyr yn gyson ag erthyglau yr eglwys; ond gall hyny fod er ymneillduo yr oedd parch yn aros i'w gweddiau, a ffurf ei gwasanaeth; y mae hyn hefyd i'w gael eto lle y mae ymneillduaeth yn ffynu. Nid mewn gwrthdarawiad i athrawiaeth yr erthyglau, ac nid cymaint mewn gwrthodiad o'i gweddiau a'i gwasanaeth, y mae ymneillduaeth yn gynwysedig; ond mewn ymddyosg oddiwrth awdurdod esgob, fel y mae yr esgob yn gysylltiedig â'r eglwys wladol. Bwrw ymaith iau yr esgob ydyw egwyddor ymneillduaeth; a hyn a wnaeth y tadau Methodistaidd o'r dechreuad. Ofer ydyw haeru mai gweinidogion urddedig gan esgob oedd yn gweinyddu y sacramentau i'r holl aelodau, ac nid neb arall; oblegid yr oedd gweinyddiadau mor bwysig ag ydyw y sacramentau wedi eu gosod yn nwylaw dynion heb un urddiad esgobawl erioed wedi bod arnynt; a'r dynion hyn oeddynt y