osid, gan y caed y pryd hyny, er maint y tywydd y wynebent arno, rai gwŷr pwdr eu hysbryd, a chyfeiliornus eu syniadau, yn ceisio ymwthio i mewn. Barnai y brodyr yn ddiau y buasa: dynion cyhoeddus, heb fod o ysbryd a syniadau efengylaidd, yn foddion i wneyd llawer iawn o ddrwg i'r achos ar ei gychwyniad, a phan oedd eto yn ei wendid. Yr oedd y rhagfarn yn erbyn y pregethu Methodistaidd yn fawr iawn, o herwydd ei newydd-deb a'i lymder; ond fe fuasai yn llawer mwy, pe cawsid achlysur oddiwrth ymddygiadau neu eiriau y cynghorwyr. Yr oeddynt yn cael eu danfon allan i fysg bleiddiaid, a dysgwylid iddynt fod yn ŵyn o ran eu nawseidd-dra: digon rhaid oedd bod yn gall fel seirff, a diniwed fel colomenod. Wrth eu danfon allan, gwyddent y byddai llygadu manwl ar eu holl gamrau-y gwneid cais ar eu bachellu yn eu geiriau, ac yr edrychid am achles i'w cyhuddo o droseddau. Ac os oedd trallodion y tymhor yn gosod llai o gymhelliadau i'r swydd, yr ydoedd rhagfarn y tymhor yn galw am fwy o wyliadwriaeth a gofal, rhag y buasai i neb roddi achlysur i'r gelyn orfoleddu, ac i'r achos gael ei fradychu yn ei fabandod.
Ymddengys fod yr adroddiad a roddai yr arolygydd i'r gymdeithasfa, yn cynwys ynddo hanes, nid yr aelodau yn unig, ond y cynghorwr anghyhoedd, os dygwyddai fod un o'r fath yn y gymdeithas. Yn y modd yma y dywedir gan y brawd Thomas James am y gymdeithas yn Llanfair-Muallt,
"Cynghorwr: Thomas Bowen. Y mae yn pregethu'r efengyl yn ei fywyd a'i fuchedd, ac yn cael ei fendithio yn fawr." "Cymdeithas Llangamarch. Cynghorwr, Rhys Morgan; dyn hynaws, gostyngedig, a ffyddlawn."
"Cymdeithas Merthyr. Cynghorwr, William Williams: Cristion hynaws a gostyngedig, a chlir yn ei syniadau."
Yn y modd hyn y gwneid sylw o'r cynghorwyr yn y gymdeithasfa trwy adroddiadau yr arolygwyr. Ac os byddai achwyniadau yn erbyn neb o honynt, dygid hyny yn mlaen yn yr un modd, a gelwid ar y cyhuddedig gerbron i gydnabod ei fai, neu i amddiffyn ei gam.
Teimlai y brodyr, ar rai achlysuron, angenrheidrwydd i wrthod ambell un a fyddai yn ymgynyg at y gwaith o gynghori; a hyn a wnaent, fel yr ymddengys, gyda llawer o ffyddlondeb. Cawn enghraifft o hyn, mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Nglan-yr-afon-ddu, 1744, sef: "Cytunwyd fod atebiad yn cael ei roddi i lythyr Evan John, gan Mr. Williams,-Nad ydym mor argyhoeddedig o'i alwad i gynghori, ag y gallem roddi iddo ddeheulaw cymdeithas; am hyny, yr ydym yn ei roddi i fyny i'r Arglwydd." Yn yr un modd, anfonwyd cenadwri at un William Rhys, i ddweyd nad oedd y brodyr yn gallu meddwl ei fod wedi ei alw i gynghori, ac i ddymuno arno ymattal hyd nes y ceid mwy o foddlonrwydd ynddo. Ymddengys fod y gŵr hwn wedi cael ei gyhuddo o ledaenu syniadau antinomaidd, ac o haeru nad oedd ef wedi pechu er ys dyddiau amryw, ac nad oedd pechod yn ei ddeall, ei ewyllys, na'i gydwybod; a chan ei fod yn sefyll yn gyndyn dros y syniadau hyny, cytunwyd ar ei droi ef allan o'r gymdeithas, a barnwyd mai dyled-