Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

profiad eu ffydd hwy yn werthfawrusach na'r aur colladwy. Disgynodd Ysbryd Duw ar lawer o ddynion, gan eu bedyddio megys â thân: llosgent gan awydd achub eu cyd-ddynion, ac aethant i'r maes yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Rhaid addef fod yn perthyn i'r gwŷr hyn lawer o wendidau. Bychan oedd eu gwybodaeth, a bychan oedd eu dawn; ond yr oedd eu gwybodaeth a'u dawn wedi eu heneinio â "gras mawr." Ni allent wneuthur llawer o ddrwg, er fod a wnelont â lluaws o ddysgyblion plentynaidd a diniwed, gan fod y fath dynerwch yn eu cydwybodau yn erbyn pechod, y fath awyddfryd ynddynt am lesâu eu cyd-ddynion, a'r fath eiddigedd ynddynt am ogoneddu y Prynwr. Mae y perygl yn llawer mwy pan fydd gwybodaeth helaeth, a gras prin, na phan y bydd gwybodaeth prin, a gras ehelaeth. Addefwn yn rhwydd iawn, fod gwybodaeth, dysg, â dawn, yn coroni dynion â chymhwysderau ardderchog i fod yn ddefnyddiol, pan y byddont wedi eu santeiddio gan yr Ysbryd Glân; ond heb eu santeiddio felly, hawdd ydyw eu defnyddio i'r dybenion gwaethaf. Tueddol ydyw rhai dynion, o bosibl, wrth fwrw adolwg ar offerynau distadl o'r fath ag a ddefnyddiodd Ysbryd Duw gan amlaf i ddwyn yn mlaen y diwygiad yn Nghymru, i ddiystyru y cyfan a wnaed, o herwydd iselder y moddion. Ond cyfyd hyn oddiar ddiffyg ystyriaeth, fod y dull hwn o weithredu yn gyson â hen arfer y Jehofa. Trwy y rhai a gyfrifid yn "ysgubion y byd, ac yn sorod pob dim," gan ddysgedigion Groeg, y gwnaeth Duw y rhyfeddodau mwyaf yn y byd crefyddol. Gwŷr anllythyrenog ac annysgedig oedd yr apostolion eu hunain, gan mwyaf; a'r holl ogoniant a berthynai iddynt, oedd yr hyn a osodwyd arnynt gan Ysbryd Duw. Hwyrach y gwrthddadleuir gan ambell un, nad ocs i ni bellach sail i ddysgwyl y cymhwysderau a feddiannid gan yr apostolion,-mai gwyrthiol oedd eu cymhwysderau hwy, priodol i'r apostolion yn unig. Gwir fod yr hyn a'u cyfansoddai hwy yn apostolion, yn beth priodol iddynt hwy yn unig; ond yr oedd ganddynt hwy gymhwysderau eraill heblaw y rhai apostolaidd,-cymhwysderau a berthynent iddynt hwy, ac i holl wir weinidogion yr efengyl, sef bod "yn wŷr da, yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac o ffydd." Mae y cymhwysderau hyn yn angenrheidiol i bob un i'w wneuthur yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Son yr ydym yn awr am y cymhwysderau hyny a gyfrenir yn unig gan Ysbryd Duw. Dawn ydyw nad oes modd ei phrynu ag arian. Dawn ydyw na wna dim gyflenwi ei lle. Ni all na dysgeidiaeth nac hyawdledd wasanaethu yn ei ile. Mae cymhwysderau dynol, sef y rhai a gyrhaeddir trwy lafur a manteision, yn fuddiol; ond y mae y ddawn y soniwn am dani yn awr, yn hanfodol i weinidogaeth yr efengyl. Ie, y mae wedi ei chadw mor gyflawn yn nwylaw Ysbryd Duw, ag oedd y ddawn wyrthiol gynt, am yr hon y soniwyd pan y ceryddwyd Simon Magus mor llym am iddo dybied ei bod i'w meddiannu trwy arian. A pha faint llai teilwng o gerydd ydyw y rhai, yn ein dyddiau. ni, a dybiant fod dawn gweinidogaeth yr efengyl i'w meddiannu trwy ymdrechion dynol, mwy na'i phwrcasu trwy arian?

Yr oedd gan ein henafiaid fwy o'r cymhwysderau dwyfol hyn, a llai o'r