Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai dynol, nag a feddiennir yn awr: ac yn hyn yr oedd dirgelwch eu llwyddiant. Yr oedd math o ysbrydoliad wedi eu meddiannu, cyffelyb yn ei natur i'r hyn a feddiannai yr apostolion a'u cydlafurwyr ar ddechreuad Cristionogaeth, neu a feddiannai Luther a'i gydweithwyr yn y diwygiad Protestanaidd; ac i'r ysbrydoliad hwn y rhaid i ni briodoli y llwyddiant a ddylynodd. Nid oes bosibl ei briodoli i ddim arall. Yr oedd ansawdd y wlad mor dywyll a drygionus; yr oedd y gwrthwynebiad iddynt mor ffyrnig a grymus; a hwythau eu hunain yn offerynau mor amddifaid o fanteision dynol, fel na ellir priodoli y llwyddiant i neb na dim, ond i "law yr Arglwydd," yr hon oedd gyda hwy.

PENNOD VIII.

ADFYWIADAU CREFYDDOL YN CYMERYD LLE YN YR UN ADEG, MEWN GWLEDYDD ERAILL.

CYNWYSIAD:—

LLOEGR—SCOTLAND—AC AMERICA—ADFYFYRIADAU AR GYCHWYNIAD METHODISTIAETH

I. YN LLOEGR.—Tra yr oedd Ysbryd Duw yn cyffwrdd â meddyliau Harris, Rowlands, a Howel Davies, yn Neheudir Cymru; a thra yr oedd rhyw arwyddion aneglur o nesâd y wawrddydd yn ymddangos mewn rhai parthau o Wynedd, fel y gwelsom eisoes, yr oedd yr un surdoes yn dechreu lefeinio Lloegr. Ymddangosodd gyntaf yn nghanol llygredigaeth y brif-ysgol yn Rhydychain, trwy fod ychydig o wŷr ieuainc yn ymgasglu at eu gilydd—nid i ofera, fel y gwnai y rhan fwyaf o'u cyd-ysgolheigion-ond i ddarllen, i weddio, ac i gyd-ymddyddan am bethau santaidd. Y rhai hynotaf yn y gymdeithas fechan hon oedd John a Charles Wesley, George Whitfield, a James Hervey. Tynasant sylw efrydwyr y brif-ysgol, fel rhai manwl dros ben yn eu rhodiad, a rhai gor-grefyddol yn eu syniadau. Y mae llafur a llwyddiant Whitfield, ac effeithioldeb diwydrwydd a gofal Wesley, yn hysbys bellach i'r holl fyd Cristionogol. Codwyd y gwŷr hyn gan Ysbryd Duw mewn adeg ag yr oedd crefydd yn isel yn mhlith pob enwad o Gristionogion. Yr oedd dyddiau y puritaniaid a'r anghydffurfwyr wedi myned heibio. Yr oedd hanner canrif o seibiant ac o ryddid wedi treiglo ymaith. Yr oedd yr eglwys wladol wedi disgyn i iselder o ffurfioldeb a chwsg, a'r ymneillduwyr hwythau wedi colli awch a grymusder eu tadau. Yr oedd gwir grefydd yn anaml ac aneglur yn mysg neb o'r mawrion; y dysgedigion a'r athronwyr hwythau yn yfed yn helaeth o gwpan anffyddiaeth. Yr oedd defodau crefyddol yn boddloni y canolradd, yn lle duwioldeb; a'r isel-radd yn ymroddi yn benrhydd i bob afreolaeth didduw.

Dyma'r adeg y cododd Whitfield a Wesley. Cyffyrddodd Ysbryd Duw "â'u gwefusau â marworyn oddiar yr allor." Yr oedd gair Duw yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn eu hesgyrn, ac ni allent ymattal. Ordeiniwyd Whitfield gan esgob Caerloyw, pan nad oedd eto ond 20 oed, yn 1736, yn mhen ychydig