Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fisoedd ar ol i Howel Harris dori allan i gynghori. Pregethodd y Sabboth canlynol yn yr eglwys y bedyddiasid ef ynddi, gyda'r fath rym anarferol, nes yr achwynwyd arno wrth yr esgob gan rywun, ei fod wedi gyru pymtheg yn wallgof y bregeth gyntaf. Yr oedd ei enwogrwydd a'i lwyddiant yn cynyddu gyda pharhad ei weinidogaeth. Aeth y son am dano ar led y gwledydd; ymdyrai cynulleidfaoedd mawrion i'w gyfarfod yn mhob man y clywid ei fod yn pregethu. Yr oedd ei lafur yn ddiflino, nos a dydd, yn mysg pob graddau o ddynion, ac yn ngwahanol barthau o'r wlad. Cafodd Cymru a Lloegr, Scotland ac Iwerddon, cyfandir Ewrop ac America bell, glywed ei leferydd, a theimlo grym ei weinidogaeth. Gwrandewid ef gyda syndod gan ddugiaid ac arglwyddi, a chyda llawenydd gan filoedd o lowyr Kingswood. Disgynodd synedigaeth ar grefyddwyr diofal; deffrôdd dygasedd gau fugeiliaid; cryfhaodd ddwylaw dynion gwir ddifrifol; dadebrodd enwadau crefyddol megys o gwsg; a dychwelwyd trwyddo filoedd ar filoedd o bechaduriaid Ewrop ac America at y Duw byw. Bu yn offeryn yn llaw Ysbryd Duw roddi ysgogiad i grefydd bur yn y deyrnas hon, y fath na chollwyd ei effaith yn llwyr hyd heddyw.

Nid oedd Whitfield a Harris yn gwybod dim am eu gilydd pan y rhoisant bob un ei law ar yr aradr; ond yn mhen enyd o amser, hwy a glywsant am eu gilydd, am y modd y llafurient yn ngwinllan eu Harglwydd, ac am y graddau o lwyddiant a roddid ar eu llafur. "Yn y fl. 1737," medd Harris, "mi a glywais gan gyfaill a ddaethai o Lundain, am ŵr eglwysig ieuanc, sef Mr. Whitfield, yr hwn a bregethai bedair gwaith yn y dydd, a hyny er bendith i lawer. Wrth glywed hyn am dano, fy nghalon a unwyd ag ef mewn modd na theimlais ei gyffelyb ag un dyn erioed o'r blaen; ond gofidiwn am nad oedd genyf y sail leiaf i ddysgwyl ei weled byth, oblegid hysbysasid i mi ei fod wedi myned y tudraw i'r môr, yr hon oedd ei fordaith gyntaf i'r America. Eithr yn nechreu mis Ionawr, 1738, myfi a dderbyniais lythyr oddiwrtho, yr hyn a barodd i mi synu gyda llawenydd: yr oedd ef yn rhagluniaethol wedi clywed peth o'm hanes, yr hyn a barodd iddo ysgrifenu ataf, i'm calonogi i fyned yn mlaen yn hyderus yn y gwaith."

Yn mhen blwyddyn ar ol derbyn y llythyr hwn, cafodd Harris yr hyn na ddysgwyliasai byth ei gael, sef cael gweled a mwynhau Whitfield. "Aethum (medd Harris) y pryd hyny yn mlaen o sir Drefaldwyn trwy siroedd deheuol Cymru, hyd nes y daethum i Gaerdydd, lle y cefais fy mawr foddloni trwy gyfarfod yno â Mr. Whitfield, wedi ei ddychweliad o'i fordaith gyntaf o America: dyma'r tro cyntaf i mi ei weled i gyd-ymddyddan wyneb yn wyneb."

Mae Whitfield yntau, yn ei ddydd-lyfr, yn cyfeirio at yr adeg y cyfarfu ef â'r brawd Harris. "Llonwyd fi yn fawr (meddai) trwy gael golwg ar fy anwyl frawd Howel Harris, yr hwn, er nad adwaenwn, yr oeddwn yn ei garu er ys talm, yn ymysgaroedd Iesu Grist, ac yn teimlo nesâd yn fy ysbryd drosto mewn gweddi. Y mae wedi bod yn ganwyll yn llosgi ac yn goleuo yn y parthau hyn; yn wrthglawdd yn erbyn anfoes ac anghrefydd; ac yn