Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llafurwr diorphwys yn ngwir efengyl Iesu Grist. Oddeutu tair neu bedair blynedd yn ol, gogwyddodd Duw ei galon i fyned o amgylch i wneuthur daioni. Y mae bellach uwchlaw pump-ar-hugain oed. Ceisiodd ddwywaith gael ei ordeinio, gan ei fod yn mhob modd yn gymhwys; ond nacawyd hyn iddo, dan esgus ei fod dan oed, er ei fod y pryd hyny yn ddwy-ar-hugain, a chwe mis. O fewn mis yn ol, gwnaeth ail gais; ond rhoddwyd ef o'r neilldu. Penderfynodd ar hyn, ac felly y gwna efe eto, i fyned yn mlaen. gyda'i waith, gyda'r un sel ddiflino ag y mae wedi ei ddangos eisoes yn ngwasanaeth ei feistr. Am y tair blynedd hyn, dywedodd wrthyf â'i enau ei hun, ei fod wedi pregethu ddwywaith ymron bob dydd, am ysbaid tair neu bedair awr: nid yn awdurdodedig fel gweinidog, ond fel cristion cyffredin, yn cynghori ei frodyr. Y mae wedi bod, tybygwyf, mewn saith o siroedd, a'i orchwyl ydyw myned i ffeiriau, gŵylmabsantau, &c., i droi y bobl oddiwrth y fath bethau gweigion. Mae llawer o dafarnwyr, crythwyr, telynwyr, &c., fel Demetrius gynt, yn llefain yn groch yn ei erbyn am ddinystrio eu gorchwylion. Gwnaed ef yn destyn llawer o bregethau; bygythiwyd ef ag erlyniad y gyfraith; ac anfonwyd ceisbwliaid i'w ddal ef. Ond Duw a'i cynysgaethodd ef â gwroldeb diblygu. Rhoddwyd iddo nerth yn y fan, oddiuchod; ac y mae yn myned rhagddo hyd yma, yn gorchfygu ac i orchfygu. Y mae o ysbryd tra haelfrydig; mae yn caru pawb ag sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist; ac am hyny, gelwir ef gan ddallbleidwyr yn ymneillduwr. Dirmygir ef gan bawb a'r sydd yn caru melys-chwant yn fwy nag yn caru Duw; ond Duw a fendithiodd ei lafur yn dra mawr. Gelwir ac arddelir ef gan laweroedd yn dad ysbrydol iddynt, a chredwyf y rhoddent eu heinioes drosto. Y mae yn pregethu y rhan amlaf yn y maesydd; brydiau eraill mewn tai; oddiar glawdd neu oddiar fwrdd, neu unrhyw beth arall. Y mae wedi sefydlu deg-ar-hugain o gymdeithasau (eglwysig) yn Neheudir Cymru, ac eanga cylch ei lafur yn feunyddiol. Y mae yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân.

"Pan y gwelais ef gyntaf, cydiodd fy nghalon yn dyn ynddo. Mynwn gael peth o'r tân oedd ynddo, a rhoddais iddo ddcheulaw cymdeithas â fy holl galon."

Y cyfryw oedd eu cydgyfarfyddiad y tro cyntaf. Rhyfeddol fel yr ymgordeddai eu hysbrydoedd, wedi eu llenwi â'r un egwyddorion, yn ymgyrhaedd at yr un amcan, dan ddylanwad yr un a'r unrhyw Ysbryd.

II. SCOTLAND.—Tua'r un amser ag yr oedd y cawodydd bendithiol hyn yn disgyn ar Gymru, ac ar Loegr, yr oedd cwmwl dihysbydd yr addewid yn. dyhidlo y gwlaw graslawn ar wlad y Scotiaid. Yn nechreu y fl. 1742, yr amser yr oedd llafur Harris a Rowlands yn peri cyffro mawr yn Nghymru, yr ydym yn cael fod ymweliad neillduol oddiwrth Ysbryd Duw wrdi cyrhaedd Cumbuslaug, plwyf yn agos i ddinas Glasgow. Wedi un bregeth ar ddydd gwaith yno, daeth tua deg-a-deugain at y gweinidog, dan argyhoeddiadau, i ymofyn yn bryderus ag ef am gyfarwyddyd a chysur; a gorfuwyd i'r gwein-