roddid i grefyddwyr yr oes hòno yn nghymdeithas eu gilydd. Soniai Paul am "eu cymdeithas hwy," Cristionogion cyntefig, "yn yr efengyl," Phil. i, 5. Anhawdd ydyw dychymygu felysed oedd hwn yn Llangeitho, yn yr amgylchiadau yr oedd crefyddwyr yr oes hono danynt. Ychydig eto o foddion gras a feddiennid ar hyd y gwledydd; ac yr oedd y sawl a brofasent ychydig o flas ar yr efengyl eisoes yn teimlo yn awchus anghyffredin am eu mwynhau. Gan faint yr anghysur oedd yn eu hamgylchu oddiwrth anwybodaeth, anfoes, a dygasedd eu cymydogion, teimlent gymdeithas â'r saint yn hyfryd dros ben; ie, nid oedd dim daearol cyffelyb iddo. Credent eu bod ar y pryd megys mewn byd newydd. Amgylchynid hwy ag awyr hyfryd. Teimlent eu hunain, ar ol crwydriadau lawer, ac ymosodiadau cryfion, fel plant wedi cyrhaedd aelwyd gynhes eu tad, a'r holl frodyr yn cael cyfarfod â'u gilydd. Gan felysed y cynundeb, derbynient fwy na thâl am eu holl lafur yn cyrchu yno. Ac nid llafur bychan yr oedd llawer un ynddo wrth geisio am y mwynhad hwn. Deuai llawer un o wlad bell, ar ei draed, trwy ludded diamgyffred, i'w gael. Cawn enghraifft o hyn yn yr hanesyn a ganlyn, ac nid ydyw ond un o lawer, ond ei fod yn bresenol wrth law.
Dyn tlawd o weithiwr wrth y dydd ydoedd, yn byw yn Nghaerwys, swydd Fflint, o'r enw Peter Jones. Aethai y gŵr hwn ar ei draed i Langeitho un-ar-ddeg o weithiau, taith o 210 o filldiroedd, rhwng myned a dychwelyd. Un tro, pan oedd y dydd yn hwyrhau, yr afonydd yn llifogydd gan y gwlaw mawr a ddisgynasai, a chanddo yntau ugain milldir eto o ffordd, i gyrhaedd Llangeitho, teimlai y truan ei feddwl ymron yn llesmeirio. Yr oedd y nos gerllaw, a'r wlad yn ddyeithr iddo. Yr oedd hefyd afon fawr o'i flaen (yr afon Wy, tybygid), yr hon, gan y gwlawogydd, oedd wedi chwyddo yn fawr. Ni wyddai Pedr yn y byd pa beth a wnai. Yn ei gyfyngder, pa fodd bynag, trôdd at dŷ fferm ar lan yr afon, a gofynodd yn ostyngedig am lety. Dygwyddodd fod pawb ond gwraig y tŷ wedi myned i orphwys; yr hon a ddywedodd, "Cewch, ond nid oes yma ddim tân, a chwithau yn wlyb iawn; cewch frechdan a llaeth, a thyna daten lled oer ar y pentan." Yntau, gan ddiolch iddi, a'u cymerodd. Nos Sadwrn oedd hi; ac ebe y wraig,
"Diau eich bod yn myned i'r cwrdd y fory."
"Ydwyf," ebe Peter, "da fyddai genyf wybod pa ffordd yr âf oddiyma yn y bore, a dymunwn gael talu i chwi am fy llety, gan y bydd raid i mi gychwyn yn bur foreu."
Ni fynai y wraig dderbyn dim tâl ganddo. Aeth y pererin lluddedig i orphwys. Rhoes ei ddillad gwlybion ar draed y gwely i sychu; a thua thri o'r gloch y bore, cododd i gychwyn ei daith. Erbyn dyfod at yr afon, y lle y dysgwyliasai gael croesi, nid oedd yno na phont na chareg. Pan oedd y truan yn petruso pa beth a wnai, a pha fodd y gallai groesi y dwfr, ac yn ofni y collai y cwrdd os byddai raid iddo aros yn hir, daeth dyn o'r gymydogaeth heibio, a chan ddysgwyl fod y gŵr yn gyfarwydd ar y rhyd, gofynodd iddo fyned trwy yr afon o'i flaen, ac y rhoddai iddo swllt. "Na wnaf," ebe y dyn, "pe rhoddech y byd i mi. Ond cyfeiriwch chwi at y pren acw