Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ochr draw, fe allai yr ewch drwodd yn ddiogel. Wedi gorchymyn ei hunan i ofal rhagluniaeth, hyny a wnaeth, a chyrhaeddodd y lan, er fod y dwfr yn cyrhaedd at ei ên mewn un man. Aeth rhagddo i Langeitho, lle yr oedd Mr. Jones o Langan yn pregethu ar y pryd. Yr oedd yno gannoedd, os nad miloedd, wedi dyfod o bell fel yntau, a'u sefyllfa ar lawer cyfrif yn ddigon anghysurus, gan ludded a dillad gwlybion; eto, nid hir y buont yn gwrando nad oedd cawodydd bendith yn disgyn, a'r pererinion lluddedig hyn oll wedi llwyr anghofio eu llafur a'u lludded, yn canu ac yn moliannu Duw am eu cofio yn nhrefn ei ras.

Nid oedd ond ychydig o bregethu yn bod eto yn y gwledydd yn gyffredinol, yn enwedig yn llawer o wledydd y Gogledd. Yr oedd ambell un er hyny yma a thraw wedi cael ei ddeffro am ei gyflwr, ac wedi profi blas efengyl. Nid oedd nemawr o foddion gwybodaeth o un natur; yr oedd y beiblau, a phob math o lyfrau, yn brinion iawn, a llai na hyny a fedrent eu defuyddio. Rhaid, ynte, ei bod yn dlawd a llwm iawn ar y rhai a newynent am gyfiawnder, am nad oedd iddynt fara y bywyd; ac yr oedd yr attyniad i Langeitho, lle yr oedd gwleddoedd dibrin o laeth a mêl, yn eu sugno yno yn anorchfygol. Yr oedd y weinidogaeth, yn y tymhor hwn, yn disgyn fel cawodydd gwlaw ar ddaear gras,—daear yn agenu gan wres, ac yn dyhêu gan sychder. Gwir fod gweinidogaeth y gair, a moddion apwyntiedig o ras, yn werthfawr gan y saint ar bob amgylchiad; eto, y mae rhai amgylchiadau neillduol yn awchu yr hiraeth am eu cael, ac yn peri fod gwerth mwy yn cael ei osod ar eu mwynhau. Y mae dwfr bob amser yn werthfawr, ond teimlir ei werth yn fwy, pan yn teithio gwlad gras, lle y mae y gwres yn annyoddefol, a'r ffrydiau grisialaidd yn dra anaml. Yr oedd argyhoeddiadau llymion oddifewn, ac erlidigaeth boeth oddiallan, yn peri fod y gwres yn annyoddefol, a hyny mewn anialwch lle nad oedd dwfr. Mor werthfawr, ynte, oedd i'r teithwyr lluddedig hyn gael tori eu syched wrth afonydd bywiol o ddyfroedd!

Fe fyddai aml Gristion da y pryd hyny flynyddoedd heb gyfranogi o swper yr Arglwydd, oddieithr, iddynt foddloni ei dderbyn o ddwylaw offeiriaid nid adwaenent yr Arglwydd; neu deithio yn mhell er mwyn y cyfleusdra. Nid oedd neb y pryd hyny, nac am yn agos i 80 mlynedd ar ol cychwyniad Methodistiaeth, yn gweinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd (fel y cawn sylwi eto), ond y rhai a dderbyniasent urddau esgob. Mwynheid hyn yn rheolaidd yn Llangeitho o'r dechread, a mawr fyddai y cyrchu yno o bob man ar yr achlysur; a melys annhraethol a fyddai y mwynhad. Naturiol iawn i'r brodyr a'r chwiorydd y dyddiau hyny oedd troi eu golwg tua Llangeitho, gan mai oddiyno, megys, y seiniodd gair yr Arglwydd, ac y daethai hyd atynt hwy; gan y mwynheid yno ragorfreintiau teyrnas nefoedd yn gyflawn; gan y cyfarfyddent yno â chynifer o'r un ysbryd, rhai yn profi yr un teimladau a hwy eu hunain; a chan y caent fwynhau y wledd felys o wrando geiriau y bywyd tragwyddol o enau Rowlands ei hun.

Heblaw fod yr attyniad yn gryf i gyrchu i Langeitho, yr oedd hefyd yr