Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

effeithiau a ganlynent hyny yn fawrion a gwerthfawr. Y mae llawer o ymgynulliadau yn bod lle mae cymhelliadau cryfion i fyned iddynt, ac effeithiau niweidiol yn eu canlyn. Ond nid felly yr oedd yma. Nid cyfarfodydd melys eu mwynhad, ond chwerw eu canlyniad, oedd y rhai hyn. Nage; ond cyfarfodydd ag yr oedd eu ffrwyth yn cyfateb i'w melysder. Yr oedd y cof am danynt yn hyfryd; yr oedd yr ymddyddan am danynt yn fuddiol; a'r dylanwad a berthynai iddynt yn santaidd. Sonid am Langeitho, nid oblegid y lle, ond oblegid y breintiau yno, fel aelwyd gynhes y teulu; fel nythle crefydd, a man ymgeledd i enaid pechadur. Fel yr oedd cyfarfodydd Llangeitho yn blaguro, yr oedd cyfarfodydd y fall yn gwywo. Cododd awelon cryfion oddiyma, a deifiasant yr hen chwyn drwg. Aeth y gŵylmabsantau, yr ymladd ceiliogod, a'r nosweithiau llawen, i lawr.

Rhoddwn rai enghreifftiau o'r lles a dderbynid yno. Crybwyllasom eisoes am Mr. Charles. A phe na ddaethai lles yn y byd ond yr ysgogiad rhyfeddol a roddasai gweinidogaeth Rowlands i enaid y gŵr ieuanc hwn, cawsai Cymru, a'r byd, achos i ddiolch am dano.

Yr oedd gŵr ieuanc yn sir Gaernarfon â rhyw drafferth wedi disgyn ar ei feddwl yn nghylch ei enaid. Yn ei helbul a'i betrusder, yr oedd fel dyn wedi lled wallgofi; cerddai draw ac yma, gan ymofyn a oedd neb a fedrai roi cyfarwyddyd iddo pa fodd y diangai rhag y llid a fydd. Clywodd gan rywrai, tua'r Traethmawr, fod pobl grefyddol yn Llangeitho yn y Deheudir, a allai ei gyfarwyddo. Yr oedd 80 milldir rhyngddo â'r lle hwnw, ond beth er hyny? Cyfeiriodd ei gamrau tuag yno yn y fan. Cyrhaeddodd y llencyn ben y daith; a chlybu yno, er ei ddirfawr gysur, beraidd sain efengyl hedd. Teimlai y fath ymlyniad wrth y breintiau a fwynheid yno, fel na allai gefnu ar y lle, ond ewyllysiai gartrefu yno. Eithr pa fodd y gwnai hyny? Estron anadnabyddus ydoedd, yn mhell o'i gartref, ac heb ddim i ymgynal arno ond llafur ei ddwylaw. Yr oedd llygad rhagluniaeth ar y bachgen; a'r Duw a barodd aflonyddwch ar ei feddwl yn nghylch ei gyflwr, ac a dywalltodd olew a gwin i'w enaid archolledig, a ddarparodd lety ac ymgeledd iddo. Deallwyd yn o fuan fod y llencyn dan oruchwyliaeth gras, a'i fod yn pryderu am ei bechod; felly, ar ei waith yn ymofyn, cafodd le gyda gŵr boneddig crefyddol yn y gymydogaeth. Cymerwyd ef i mewn i'r teulu hwn oddiar weled ei awyddfryd a'i syched i fwynhau moddion gras, a chwmni pobl grefyddol. Nid oedd golwg ennillgar arno. Edrychai yn lled hurtaidd a syfrdanllyd, eto pryder ei feddwl, yn nghyda'i ŵylder a'i ofn fel dyeithrddyn, a barent hyny. Cynelid cyfarfod gweddio yn fynych mewn tai yn y gymydogaeth ar nos Sabbothau, pryd nad oedd eto foddion yn yr hwyr yn y llan neu y capel. Ceid y llencyn dyeithr yn gyson ynddynt oll; ond ni feddyliai neb, gan yr olwg syfrdanllyd a gwylaidd oedd arno, i alw arno ef i gymeryd un rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd hyn. Ond ar ryw noson, pan oedd gwedd drymaidd a thywyll ar y cyfarfod gweddi drwyddo, cafodd rhywun ar ei feddwl annog y gŵr ieuanc i fyned i weddi. Yntau a ufyddhaodd, a deallwyd yn lled fuan mai nid llencyn cyffredin ydoedd. Deallai y brodyr yn o