rai eraill; a gwneid hyn yn amlach yn yr oes hono, nag y mae genym le i ddysgwyl y gwneir dan amgylchiadau cyffredin; ond i Rowlands, fe wneid hyn yn fwy aml a chyson, ac i raddau helaethach, nag i eraill. Trwy ryw ddirgel ddylanwad, deallai pawb fod Duw yn y lle. Yr oedd rhywbeth llai gweledig, ond nid llai gwirioneddol, na'r cwmwl gogoniant gynt yn y deml, yn llenwi y lle. Rhoddid argyhoeddiad i'r meddwl fod y pregethwr yn genad oddiwrth Dduw, mor sicr ag yr argyhoeddid Israel fod Moses wedi bod gyda Duw, trwy fod ei wyneb yn dysgleirio. Rhywbeth oedd na ellid ei ddirnad, a llawer llai ei ddysgrifio: rhywbeth oedd na ellid ei wadu, er na ellid ei ddeall. Nid oedd neb yn y lle heb deimlo gradd o'i ddylanwad; parai ystyriaeth yn y naill, a dychryn a ddaliai y llall; un a lewygai gan fraw, ac arail a lamai gan lawenydd: a phawb a lenwid â synedigaeth.
Y mae yn deilwng iawn o sylw, gyda bod y fath goron o arddeliad ar weinidogaeth Rowlands, nad oedd yntau ei hun ddim yn segur a diofal. Deallwn ei fod yn darllen llawer, a bod ganddo fedrusrwydd neillduol i gasglu yr holl hufen a fyddai ar waith yr awdwr a ddarllenai. Codai yn foreu pan y darparai ei bregeth. Collai ei hunan gan gymaint y llyncid ei feddwl i'w fater. Dywedai cyfaill am dano, pan y deuai i bregethu i gapel Gwaunifor, yr hyn a arferai wneuthur bob dau fis, y byddai ar ei draed bedwar o'r gloch y bore; a rhaid oedd iddo gael ei foreufwyd yn ebrwydd: yna âi allan, a cherddai yn y goedwig, gan ddwys-fyfyrio hyd oddeutu deg o'r gloch. Ac mor gyflawn a llwyr y llyncid ef i'r mater a fyddai ganddo, nad oedd un gair i'w gael ganddo, ie, i'w gyfaill agosaf, os dygwyddai neb gyfarfod ag ef ar y pryd, oddieithr rhyw arwydd bychan o gydnabyddiaeth. Dywedir i ni y byddai trallod ei feddwl ar amserau yn fawr iawn, pan na theimlai ei feddwl mewn agwedd briodol i gyfarch y bobl dros Dduw. Ar un achlysur o'r fath, pan oedd yn Sabboth pen mis, daeth Mr. Griffiths, Nevern, i Langeitho i wrando, yr hyn a wnai yn fynych, er pelled oedd y ffordd a chafodd Rowlands yn ei wely, fore Sabboth, er ei fawr syndod. Gofynai iddo, pa fodd yr oedd arno? "Poenus iawn yn wir," meddai Rowlands, "nid wyf yn barod, ac nid oes genyf ddim i'w ddweyd dros Dduw with y bobl! Trwy gydol y nos, dysgwyliais gymhorth Duw i barotoi erbyn y Sabboth, ac ni chysgais ddim!" "O codwch, Mr. Rowlands bach," ebe Mr. Griffiths, "y mae y bobl yn ymgasglu yn dyrfaoedd." Ond efe a barhâai mewn cyfyngder ysbryd, a gweddi am help. Atolygai Griffiths arno eilwaith i godi; ac yn fuan wedi hyn, tywynodd ar ei feddwl, ac ebe efe, "Ewch, fy mab, a dechreuwch yr oedfa, a minau a ddeuaf yn ebrwydd ar eich ol." "Fe ddaeth," medd Mr. Griffiths, "yn fuan ar fy ol, ac i fyny i'r pulpud fel y fellten, yn llawn o drysorau yr efengyl, ac o'r Ysbryd Glân; cyn pen deng mynyd, yr oedd y cwmwl yn dyferu ar y gynulleidfa fawr. Gorlenwid ei wrandawyr â theimladau cryfion o bryder ac ofn, neu o lawenydd annhraethadwy a gogoneddus."
Crybwyllir am amgylchiad arall cyffelyb i'r un uchod. Ar fore Sabboth, wedi treulio noswaith ddigwsg a digysur, a chymylau tywyll eto yn ymor-