Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedd ar ei ysbryd, daeth cyfaill ato, a chafodd ganddo gyfodi o'r gwely i ymbarotoi erbyn y bregeth; ond ni theimlai ei hun yn alluog i ymsymud ymron, heb ei ddal i fyny bob cam tua'r capel. Ond ar ei waith yn myned i'r pulpud, goleuodd ar ei feddwl, ac ymadnewyddodd fel un o lesmair. Deffrôdd megys un o gwsg trwm. Dysgleiriai ei lygad, a siriolai ei wedd. Yr oedd y cyfnewidiad fel bywyd o feirw. "Yr oedd, bellach," meddai ei gyfaill, "fel fflam dân, a'i eiriau fel mellt. Llwyr orchfygwyd y gynulleidfa fawr, ac ymollyngasant i foliannu Duw am faith amser."

Crybwyllir gan Mr. Owen hanesyn arall am dano, yr hon a gawsai gan hen was duwiol i Rowlands.

"Ar un hwyr dydd Sadwrn, yr oedd Rowlands yn rhodio yn agos i'w dŷ oddiallan, ac yn ymddangos yn llawn trymder, ac yn isel iawn yn ei ysbryd. Pan gyfarfu â'r gwas, at yr hwn yr ymddygai fel brawd yn yr Arglwydd, dywedodd wrtho, nad allai efe ddim pregethu y boreu dranoeth, gan nad oedd ganddo ddim i'w ddweyd wrth y bobl. 'Oh,' meddai y gwas, 'peidiwch a gweud felly, Mr. Rowlands bach, pwy arall a allwn ni gael?' Er hyn, parhau yr ydoedd i ddweyd yr un peth, sef, nad allai efe ddim pregethu dranoeth; a dywedai hefyd, nad oedd Duw wedi rhoddi iddo ddim i'w lefaru wrthynt. Fel hyn y parhaodd, yn amlwg mewn mawr ofid meddwl, nes iddo fyned i orphwys dros y nos. Boreu dranoeth, pan aeth y gwas i'w ystafell, yr oedd ar ddihun; ac yr oedd y llyfr ar y gadair wrth ochr y gwely. Dywedodd y gwas wrtho ei bod yn amser codi, sef yn nghylch saith o'r gloch; ond ni chafodd un ateb. Wedi ei ddysgwyl gryn amser, aeth i mewn drachefn, ac a'i cymhellodd i godi, gan ddweyd fod y pryd i fyred i'r capel yn nesâu. Ei ateb oedd, na allai efe ddim pregethu, a bod yn rhaid iddynt ddanfon am rywun arall. Ond arferodd y gwas bob peth a allai feddwl am dano, er ei gymhell i godi ac ymwisgo; ac aeth allan drachefn, gan obeithio y byddai iddo wneuthur felly. Yr ydoedd yn tynu yn awr at ddeg o'r gloch, pryd y dechreuid y gwasanaeth yn Llangeitho, a'r bobl yn crynhoi yn nghyd o bob parth, yn lluaws mawr iawn. Gwedi aros ychydig, aeth y gwas drachefn i'w ystafell wely, a chafodd ef yn yr un agwedd, ac yn parhau i ddweyd nad allai efe ddim pregethu y bore hwnw. Pa fodd bynag, rhwng bodd ac anfodd, cafodd ganddo ddyfod o'r gwely, a chynorthwyodd ef i ymwisgo (yr hyn nid oedd arferol), gan ei fod fel pe buasai wedi colli holl nerth ei gorff, ac yn ymddangos fel dyn wedi ei hanner labyddio. Ond wedi iddo ymwisgo, nid boddlon oedd ganddo fyned i'r capel; ac nid aethai chwaith, oni buasai i'r gwas ei ddwyn yno mewn rhan o'i anfodd. Pan gyrhaeddasant y capel, yr oedd y gwasanaeth, sef y gweddiau, (a ddarllenid yn gyffredin gan un o'r offeiriaid a'i cynorthwyai ar Suliau y cymun,) a'r canu hefyd, ar ddarfod. A dywedodd ei hen was wrthyf, fod gorfod arno ei gynal a'i wthio i mewn i'r areithfa, gan ei fod megys yn hollol ddinerth. Yr oeddwn yn gwybod,' meddai yr hen ŵr, ag oedd dros bedwar ugain oed pan welais ef, wrth adrodd byn wrthyf, 'os caem ni ef unwaith i'r pulpud, y byddai pob peth o'r goreu.' Ac wrth ei hanes, ni chafodd efe, na'r gynull-