Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth y brodyr o'r Deau, am lawer o flynyddoedd yn rhagori ar neb yn Ngwynedd, ac edrychid ar eu dyfodiad i'r Gogledd gyda phryder a dysgwyliad mawr. Parai dyfodiad Rowlands trwy y wlad adnewyddiad cyffredinol yn yr eglwysi, ac amlhad rhyfeddol yn nifer y gwrandawyr. Fe fyddai gweinidogaeth danllyd a nerthol Dafydd Morris, pan y deuai i Wynedd, yn gyffelyb i adeg y mellt a'r taranau. Safai dynion anystyriol yn syn gan fraw; delid hwy gan ddychrynfeydd, fel pe bae y Barnwr yn ymddangos; ac âi y rhuthr heibio gyda chawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn. Mawr y son sydd hyd heddyw am bregeth o'r eiddo yn Mon, yn agos i Bont Rippont, yr hon a elwir hyd heddyw, "Pregeth y golled fawr." Ei destyn oedd, "Pa lesâd i ddyn os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun, a pha beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?" Torai y pregethwr allan mewn gwaedd groch a dolefus, "O bobl y golled fawr," nes oedd y gwrandawyr yn plygu o'i flaen, fel y gwna y gorsen gan nerth y gwynt. Chwanegwyd llawer iawn at yr eglwysi yn y canlyniad, a hir a hyfryd a fu y son am y bregeth gan yr hen bobl tra y buont byw.

Un o'r rhai hynotaf a gododd yn Ngwynedd yn yr oes a aeth heibio, oedd Robert Roberts o Glynog. Dywedir fod yr awdurdod a wisgai weinidogaeth y dyn hwn, yn enwedig ar ryw achlysuron, yn annirnadwy. Codid ef ar yr achlysuron hyn, tybygid, yn mhell uwchlaw iddo ei hun. Yr oedd yn cael ei wisgo â nerth o'r uchelder, y fath na fedrai dim ei wrthsefyll. Yr oedd bygythion y deddf yn disgyn ar gydwybodau ei wrandawyr, fel pe deuent o enau y Barnwr ei hunan; a newyddion da yr efengyl yn rhoddi iddynt y fath ymwared a phe clywsent lef o ganol yr orseddfainc yn dywedyd am yr euog, "Gollwng ef yn rhydd, myfi a gefais iawn."

Ac heblaw y byddai rhyw nerthoedd anarferol yn canlyn gweinidogaeth yr enwogion crybwylledig, ar ryw achlysuron neillduol, yr oedd pregethwyr eraill, heb fod yn hynod o ran eu doniau, yn cael eu gwisgo, ar ryw adegau, ag arddeliad mawr dros ben. Ie, gwneid hyn weithiau trwy bregethwyr bychain a diddawn mewn cydmhariaeth. Dywedir fod deg-ar-hugain ar unwaith wedi cael eu dwysbigo dan bregeth Robert Prys o Blas Winter, sir Fflint; gwr, yn ol yr hanes a roddir am dano, gwladaidd iawn ei olwg, bâs iawn ei wybodaeth, a byr iawn ei ddawn. Prin, meddant, yr oedd ganddo fedrusrwydd yn y byd i drin un pwnc o athrawiaeth, nac yn wir i ymgeleddu neb o'r saint; ond ei holl amcan ydoedd rhuthro yn ddiarbed ar bechaduriaid cyhoeddus, a'u hysgytio yn ffyrnig uwchben eu trueni, nes y byddent yn llefain am eu bywyd. A pheth sydd yn hynod ydyw, y byddai mwy o effeithiau yn dylyn ei bregethau trwsgl, a'i ddull diaddurn, nag a ddylynai weinidogaeth loyw a chyson Mr. Jones o Ddinbych, yr hwn oedd yn byw y pryd hyny gerllaw iddo.

Gŵr bychan ei ddawn oedd Griffith Siôn, o sir Gaernarfon unwaith, ond o'r Sarnau, yn agos i'r Bala, yn niwedd ei oes. Ond yr ydym yn cael y byddai cyffelyb nerthoedd yn cydgerdded yn achlysurol â'i weinidogaeth yntau. Yr oedd addewid wedi ei rhoddi ganddo, pan yn byw yn sir Gaer-