PENNOD III
LLAFUR LLEYGAIDD YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB
CYNWYSIAD:—
HOWEL HARRIS EI HUN YN WR DIURDDAU-METHOI STIAETH YN DDYLEDUS I LAFUR LLEYGAIDD—TYSTIOLAETH DR. CAMPBELL—Y BUDDIOLDEB O LAFUR LLEYGAIDD YN SCOTLAND—TARDDIAD A LLE Y LLEYGION YN NGHYMRU—BUDDIOLDEB Y LLEYGION YN NGHYMRU—Y RHAGFARN SYDD YN ERBYN LLAFUR LLEYGAIDD—SEL DUW WEDI EI OSOD ARNO—YR OLYNIAD APOSTOL—AIDD GWASANAETH HENURIAID YR EGLWYSI, AC ATHRAWON YR YSGOLION SABBOTHOL.
Ni a welsom eisoes mai gŵr lleŷg, neu ŵr heb dderbyn urddau, neu ordeiniad rheolaidd, gan un enwad, oedd Howel Harris ei hun; gŵr yr edrychir arno gyda'r cyntaf a grymusaf, fel offeryn, i gychwyn y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru. Nid wyf yn deall y gwyddai Howel Harris am neb a wnaethai yn gyffelyb iddo o'i flaen. Llawer loes o betrusder ac ofn a gostiodd hyny iddo, fel y cyfaddefai ef ei hun. Ystyriai ei hun yn aelod o eglwys Loegr, a pharhaodd i gymuno ynddi dros ei oes. Edrychid ar ei ddull ef o lafurio, pa fodd bynag, gan fawr a mân, yn yr eglwys hono, yn gwbl afreolaidd ac annhrefnus; a dyoddefai lawer, oddiwrth y gwŷr eglwysig yn anad neb, oblegid hyny. Eto Duw a feddyliai yn wahanol iddynt hwy. Pan y mynai dynion ei attal, Duw a'i cymhellai yn mlaen. Er gwgu arno o'r ddaear, gwenid arno o'r nef. Derbyniai gymhorth yn y gwaith, a rhoddid effeithioldeb rhyfeddol ar ei lafur, fel na allai lai nag edrych ar y llwyddiant yn argoel diymwad o foddlonrwydd Duw.
Yr oedd llafur lleygaidd, yn gystal a llafur teithiol, yn hanfodi mewn Methodistiaeth Gymreig o'r dechread. Cafodd ei geni a'i magu trwy y moddion hyn. Gyda golwg ar Fethodistiaeth Calfinaidd Cymru y dywed Dr. Campbell:[1] "Dechreuodd y cyfundeb cryno, trefnus, a thra llwyddiannus hwn, trwy lafur lleŷgol. Codwyd eu capel cyntaf yn y fl. 1747; y mae ganddynt yn awr dros chwe chant o dai addoliad![2] Wele effaith gweinidogaeth y lleygion!--Oni bae Mr. Harris a'i gydlafurwyr, pa beth a fuasai cyflwr Cymru eto? Er amser y diwygiad oddiwrth Babyddiaeth, pa ddyled sydd arni i'w hesgobion a'i gwŷr llên? Pa beth a wnaeth eu dysg, eu hurddiad, a'u "trefnusrwydd," er llesâu preswylwyr colledig ei mynyddoedd? Mae y Cymry eu hunain wedi ateb, trwy y gwaith a wnaethant, a'r dewisiad a wnant. Mae'r esgobion wedi eu gadael, ac nid yw y clerigwyr nemawr well na chorff o segur-swyddwyr. Ni wnaed defnydd o lafur lleŷgol mewn un wlad yn helaethach nag yn Nghymru, nac yn fwy diogel a hyfryd; ac nid oes un wlad y mae ei effeithiau yn fwy coronog."
Fel hyn yr ysgrifenai Dr. Campbell. Gallem gyfeirio yn arbenig at waith John Wesley a George Whitfield yn calonogi ac yn defnyddio gwŷr lleŷg; dynion heb urddau eglwysig, a dynion a ddygent yn mlaen, ar yr un pryd, ryw fasnach fydol, fel moddion eu cynaliaeth; a dywedir mai mawr iawn a fu