Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddynt i ddysgwyl cael clust o ymwrandawiad. Diau fod y ddwy ochr wedi ymddyeithrio i'r graddau pellaf oddiwrth eu gilydd; codasai rhagfarn anhyblyg yn y ddwy ochr; ac nid oedd dim, am amser maith, yn llechu yn mynwesau y ddwy genedl, ond gorthrymder creulon oddiwrth y blaid gryfaf, a dial ffyrnig oddiwrth y blaid wanaf. Hawdd, gan hyny, ydyw dychymygu, pa gan leied a allai yr ychydig Gristionogion tlodion a gorthrymedig ei wneyd dan y fath amgylchiadau.

Yr oedd Ethelbert, brenin Caint, yn un o'r tywysogion doethaf a galluocaf o'r Saeson. Yr oedd ei wraig Bertha yn ferch i frenin Ffrainc, i'r hon a hi yn Gristion, yr addawyd fel ammod priodas, berffaith ryddid crefyddol; a hawl hefyd, i ddwyn gyda hi i Brydain, pa weinidogion crefyddol bynag a ddewisai. Ymddengys fod y Bertha hon yn wraig ddoeth a duwiol, ac iddi arfer ei dylanwad, mewn modd cyson a dianwadal, o blaid crefydd Mab Duw, yn ol y mesur o wybodaeth ag oedd ganddi, a natur amgylchiadau ei hoes.

Dywedir i ni fod, yn nghylch y pryd hwn, ryw wŷr ieuainc yn cael eu gosod ar werth yn heolydd Rhufain, gan ryw fasnachwr; ac i sylw Gregori, yr hwn a ddaeth ar ol hyny i fod yn Bab dan yr enw Gregori Fawr, ddisgyn arnynt; iddo ymofyn o ba wlad y daethent; ac wedi deall mai o Brydain, iddo dosturio wrthynt, pan ddeallai mai paganiaid oeddynt.

"Och," eb efe, "fod tywysog y tywyllwch yn meddiannu dynion o wedd mor ddysglaer, a bod wynebau mor hawddgar yn dwyn o'u mewn eneidiau amddifaid o ras tragywyddol. Pa beth ydyw enw y genedl?" "Angli," oedd yr ateb. "Mewn gwirionedd, y mae ganddynt wynebau angylaidd, a gresyn na baent yn gydetifeddion a'r angylion yn y nef. O ba dalaeth y daethant ?" Atebwyd, "Deira (rhan o dalaeth Northumbria)." "Purion, wedi eu cipio De Ira, oddiwrth ddigofaint Duw, a'u galw at ras Crist. Pa beth ydyw enw eu brenin?" "Ella," oedd yr ateb. "Aleluia," ebe yntau. "Aleluia i Dduw a ddylai fod yn y broydd hyny."

Aeth Gregori yn ebrwydd at y Pab i ofyn caniatad i fyned i Brydain i bregethu yr efengyl. Cafodd ei gais, a chychwynodd ei daith; ond y bobl, yn anfoddlawn iddo adael Rhufain, a gawsant gan y Pab ei alw yn ol drachefn, er ei fod wedi bod dridiau ar ei daith. Eto, ni fu Gregori yn ddifeddwl am Brydain; ac ar ei waith yn cyrhaedd y gadair babaidd, efe a anfonodd genadau i ddwyn yr efengyl i'r wlad hon. Tybiwyf fod gradd o duedd i gamarwain y darllenydd yn yr hanes uchod, yr hon a roddir gan Bede ac ereill. Gellid meddwl wrth y lliw a roddir ar yr amgylchiad, nad oedd yr efengyl yn Mhrydain eisoes—fod yr holl drigolion yn baganiaid—ac mai i Eglwys Rhufain y perthynai yr anrhydedd o ddwyn yr efengyl i'r ynys hon; ond y gwir ydyw, fod Cristionogaeth wedi ei phlanu yn y wlad er ys llawer o oesoedd cyn hyn; ïe, er ys mwy na 500 o flynyddoedd, yn mysg yr hen Frythoniaid; a gwir hefyd fod y frenines Bertha, fel y crybwyllwyd, wedi dwyn gyda hi oleuni yr efengyl i fysg y Saeson, er ys ugain mlynedd cyn i Gregori anfon neb drosodd. Pa fodd bynag, anfonwyd un Awstin, yr hwn a elwir Awstin Fynach, i'w wahaniaethu oddiwrth Awstin esgob Hippo, gyda nifer o gymdeithion, i'r wlad hon. Tiriasant