Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ynys Thanet, ac anfonasant at y brenin Ethelbert i hysbysu eu dyfodiad, a pha fath oedd eu neges, ac i ddymuno ei nawdd. Mewn atebiad, gorchymynai y brenin iddynt aros yn yr ynys hyd nes y caent glywed oddiwrtho ; ac yn mhen ychydig ddyddiau, aeth rhagddo tua'r ynys. Cymerodd ei eisteddle mewn maes agored, a pharodd i'r cenadau ddod ato; a chyda rhwysg mawr y daethant. Ffurfiodd Awstin ei ganlynwyr, tua dengain o nifer, yn orymdaith; o'u blaen yr oedd gŵr yn dwyn croes fawr wedi ei gwneuthur o arian, ac un arall yn dwyn llun Crist wedi ei baentio ar astell. Ysgogai y mynachod hyn yn mlaen mewn gwedd fawreddig a rhialtaidd, gan ganu math o Litani. Wedi i Awstin amlygu ei amcan, gyda llawer o eiriau denu, a doethineb ddynol," cafodd yr ateb a ganlyn gan y brenin ;—"Y mae y geiriau a'r addewidion a roddwch, yn wych; ond gan eu bod yn newydd ac ansicr, ni allaf gydsynio â hwynt, a gadael y defodau sydd wedi bod cyhyd mewn ymarferiad genyf fi, a chan genedl y Saeson. Eto, gan eich bod yn ddyeithriaid o bell, ac (yn ol a welaf fi) yn dymuno dysgu i ni yr hyn a gredwch chwi eich hunain sydd wir a buddiol i ni, ni chewch eich aflonyddu, ond gwneir darpariaeth briodol at eich cynaliaeth. Nid ydym chwaith yn gwarafun i chwi ennill cynifer o broselytiaid i'ch crefydd ag a alloch." Bu y brenin cystal a'i air. Caniataodd i'r cenadau hyn ymsefydlu yn Nghaergaint, a pharodd ddarparu iddynt bob angenrheidiau. Diamheu nad oedd Ethelbert ddim yn ddyeithr i Gristionogaeth, gan fod ei wraig Bertha eisoes yn ei phroffesu, er nad oedd ef ei hun eto wedi ei derbyn. Parodd hyn, yn nghyda'r llythyrau oddiwrth ei da-yn-nghyfraith, brenin Ffrainc, iddo o leiaf roddi iddynt y fath dderbyniad heddychlawn.

Gyda'r cyfryw rwysgfawredd y daeth Awstin a'i ganlynwyr i'w sefyllfa newydd i Gaergaint. Cafodd genad yn raddol i bregethu yn nghapel y frenines, a dychwelwyd nifer o wŷr y llys; ac wedi peth amser Ethelbert ei hunan at, o leiaf, broffes o'r efengyl. Bwriwyd ymaith yr eilunod, a bedyddiwyd lliaws mawr i grefydd Crist. Trowyd temlau yr eilunod yn addoldai, a sefydlwyd awdurdod Awstin yn mysg y genedl. Ni chollodd ddim amser chwaith, heb gael gorchymyn y Pab Gregori, i'w gysegru yn archesgob ar holl Frydain, ac felly i gael awdurdod ar y gweinidogion ag oedd yma eisoes, yn mhell o'i flaen ef; ac hefyd ar bawb a godai i'r swydd mewn amser dyfodol. Rhoddwyd i Awstin, gan Gregori y pab, awdurdod hollol ar hen eglwysi y Prydeiniaid, "i ddysgu (meddai) yr anwybodus, cadarnhau y gweiniaid, a cheryddu y cyndyn a'r gwrthnysig." Caniataodd iddo hefyd gadw rhai o ddefodau paganiaeth, gan eu himpio i wasanaeth crefydd Crist. Fel hyn, rhoddwyd ffrwyn i'r mynach trahaus a ffroen-uchel, i ddwyn i mewn lygredigaethau y paganiaid, ac i erlid a chosbi y Cristionogion puraf yn y wlad. Pa beth a allai ddynodi Annghrist yn fwy diamheuol?

Cafodd Awstin cryn drafferth—fe allai lawer mwy nag a ddysgwyliasai—i gael eglwysi y Cymry dan ei awdurdod; eto, yr oedd rhaib y dyn uchelfrydig hwn am awdurdod a mawredd yn anniwalladwy. Gwysiodd esgobion Cymru, gan hyny, i'w gyfarfod, modd y gallai roddi ar ddeall iddynt, ei fod