Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef wedi ei osod yn archesgob ar holl Frydain, trwy awdurdod esgob Rhufain. Cyfarfu y pleidiau â'u gilydd yn rhywle ar lan Hafren; ond nid yw y lle yn eithaf hysbys. Ceisiodd ganddynt ymuno ag ef i ddychwelyd y Saeson paganaidd; ac i'r dyben hyny, ar iddynt gydffurfio ag eglwys Rhufain o ran amser cadw y Pasg, ac ymostwng i ryw ddefodau ereill a arferid yn Rhufain. Dylai y darllenydd gofio fod mwy yn gynwysedig yn y pwnc o amseriad y Pasg nag a ymddengys ar yr olwg gyntaf. Yr oedd cadw y Pasg, ar ryw amser arbenig, yn arwydd, y pryd hyny, i ba eglwys y perthynent; a buasai cydsynio ag Awstin yn hyn, er lleied o bwys a ymddangosai yn y peth ynddo ei hun, yr un ag addef ymostyngiad i eglwys Rhufain. Ar waith y Prydeiniaid yn gwrthod ei gais, cymerodd arno wneyd gwyrth o'u blaen, trwy roddi ei lygaid i ddyn dall. Gallwn feddwl pa fath wyrth ydoedd, gan na effeithiodd un dim ar y Cymry. Cytunasant i gymeryd ei osodiadau i sylw, a chyfarfod drachefn. Gwyddent yn dda fod Awstin yn cael ei gefnogi gan Ethelbert, yr hwn a ystyrid y galluocaf o'r tywysogion Prydeinaidd, ac y gallai eu nacâd ddwyn arnynt ganlyniadau chwerwon. Am hyny, dywedasant na allent ar y pryd gydsynio â'i gais, o leiaf cyn ymgynghori â'u brodyr. Cyn dyfod yn nghyd drachefn, ymgynghorasant â hen feudwy, a berchid yn fawr am ei dduwioldeb, pa beth a fyddai oreu iddynt wneyd. Atebodd yr hen ŵr, "Gan mai cariad ac undeb ydyw bywyd crefydd, gwell fyddai i chwi wrando arno, os cewch chwi ei fod ef yn Wr Duw." "Ond pa fodd y gwybyddwn ni ei fod?" ebe hwythau. "Y mae yr Arglwydd," ebe yntau, "wedi dywedyd, Dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon.' Os yw yr Austin hwn yn addfwyn a gostyngedig, credwch ei fod ef ei hun yn dwyn iau Crist, ac na esyd ef yr un amgen arnoch chwithau. Ond os ymddwyn yn falchaidd a wna, a rhoddi prawf trwy hyny nad yw o Dduw, na wrandewch arno." Dysgodd iddynt hefyd i benderfynu o ba ysbryd yr oedd Awstin, trwy y dull a fyddai arno ar eu dyfodiad hwy i'w ŵydd. Os cyfodai i'w cyfarfod yn fwynaidd a charedig, yr oeddynt i wrando arno; ond os ymddwyn a wnai yn drahaus, ac oni chodai i'w cyfarch, yr oeddynt i fod yn ddiystyr o hono. Ac â hyn y cytunasant. Yn ol fel y gellid dysgwyl oddiwrth ddyn o ysbryd a hòniadau Awstin, derbyniodd y cenadau gyda golwg anmhlygedig a thrahaus; a hwythau ar hyn a wrthodasant bob cynygiad o'i eiddo. Dywedodd ef wrthynt, "Os chwi a ymostyngwch i mi mewn tri pheth, sef,—Cadw y Pasg yn ei amser priodol;—Gweinyddu bedydd, trwy yr hwn yr ydym yn cael ein geni drachefn, yn ol ffurf eglwys Rhufain ;ac ymuno â ni i bregethu yr efengyl i genedl y Saeson, ni a gyd-ddygwn â chwi yn mhob peth arall y gwahaniaethwch oddiwrthym." Ond ni chytunent ag ef mewn un cais o'i eiddo; a chafodd wybod ganddynt, na fynent mo hono ef i fod yn archesgob arnynt. Yna Awstin yn ffromedig iawn a ddywedodd wrthynt, "Gan na fynwch dderbyn heddwch gan eich brodyr, gallwch ddysgwyl dial oddiwrth eich gelynion; a chan na fynwch bregethu yr efengyl i'r Saeson, chwi a gewch dderbyn angau ar eu dwylaw." Felly hefyd y cawsant. Ni orphwysodd y cadnaw hwn nes adrodd i'r brenin Ethelbert